Wcrain - Datganiad gan Archesgob Cymru, Andrew John

Fel llawer o bobl eraill, deffrais fore ddoe i'r newyddion am wrthdaro arfog yn Wcrain. Ymunaf â'n harweinwyr eglwysig a gwleidyddol i gondemnio gweithredoedd Ffederasiwn Rwsia a galwaf ar bawb i ailddechrau trafodaethau. Rwy'n eich gwahodd i ymuno â mi i weddïo dros y rheiny sy'n rhan o'r gwrthdaro ac i weddïo y bydd heddwch yn dychwelyd yn fuan.

Byddwn yn ymuno â'r eglwys ehangach a galwad y Pab Francis i wneud Dydd Mercher y Lludw, 2 Mawrth, yn ddiwrnod o weddi ac ymprydio dros heddwch.
