Neges Diwrnod VE Archesgob Cymru
Mae Archesgob Cymru yn talu teyrnged i hunanaberth, dewrder a phenderfyniad y rhai a sicrhaodd Fuddugoliaeth yn Ewrop 75 mlynedd yn ôl i'r heddiw.
Mewn neges ar gyfer Diwrnod VE dywedodd yr Archesgob, John Davies, ar adeg pan ein bod yn ymladd gelyn anweladwy ac yn ofnus am ein dyfodol, diolchwn i’r rhai a wynebodd elyn “arswydus o weladwy”. Dywedodd fod buddugoliaeth wedi cymryd “ymdrech enfawr o ran ewyllys ac ymroddiad, a wreiddiwyd yn yr argyhoeddiad mai daioni fyddai’n trechu yn y pen draw.”
Dywedodd, “Ymunwch gyda fi os gwelwch yn dda i alarnadu am y gwastraff o fywydau ac adnoddau prin, ond wrth wneud hynny, yn bwysicaf oll, roi diolch dybryd am bob un o’r gweithredoedd dirifedi o aberth, dewrder a phenderfyniad llwyr sy’n golygu y cafodd y gelyn gweladwy amlwg hwn ei drechu.”
Mae’r Archesgob John hefyd yn gwahodd pobl i ymuno ag ef mewn gweddi Diwrnod VE.
Mae geiriad llawn neges a gweddi Diwrnod VE yr Archesgob yn dilyn
Neges Diwrnod VE Archesgob Cymru
Rydym yn byw yn y cyfnod rhyfeddaf – cyfnod digynsail fel y clywsom mor aml.
Cyfnod lle rydym yn wynebu’r hyn y cyfeiriwyd ato’n aml fel y ‘gelyn anweladwy’ – gelyn sy’n glefyd neilltuol o ffyrnig sydd, yn ein gwlad wedi hawlio bywydau bron 30,000 o bobl. Mae’r nifer a fu farw yn fyd-eang yn fwy na 250,000.
Mae ofnau lu am y dyfodol, personol, economaidd a chenedlaethol ac unigrwydd, arwahanrwydd a phryder yn nodweddu bywydau miliynau ar draws y byd ac yn ein cymunedau lleol.
Efallai mai ansicrwydd am y dyfodol yw un o’r ychydig o bethau y gellir bod yn sicr amdano yn yr amgylchiadau presennol.
Ar y diwrnod hwn, 75 mlynedd yn ôl, fe wnaeth Ewrop nodi’n ffurfiol fuddugoliaeth nid ar elyn tawel ac anweladwy sy’n taro ar hap, ond buddugoliaeth, yn Ewrop, dros Natsïaeth – gelyn dieflig, milain ac arswydus o weladwy; gelyn a achosodd ddinistr a dioddefaint ofnadwy, bwriadol ac wedi’i dargedu ar lawer, gormod, nid yn lleiaf y diniwed a phobl y credai’r gelyn hwnnw eu bod yn ddiwerth, yn dda i ddim, yn fygythiad annibynadwy ac o ddim bwys o gwbl – a ystyrid yn aberthadwy.
Roedd yn rhaid wynebu a trechu’r anfadrwydd a gynrychiolai’r gelyn gweladwy hwn, yr ideoleg wyrdroëdig a oedd yn ei yrru. Roedd yn rhaid ei drechu.
Roedd angen ymdrech enfawr o ran ewyllys ac ymroddiad, a wreiddiwyd yn yr argyhoeddiad mai daioni fyddai’n trechu yn y pen draw.
Mae hi bron yn wyrth iddo yn wir ennill, ac roedd y gost yn uchel. Nid oes union ffigur am y gost ddynol, ond amcangyfrifir i rhwng 70 a 85 miliwn o bobl farw yn y gwrthdaro – mwy na holl boblogaeth y Deyrnas Unedig, rywle rhwng 20 a 30 gwaith poblogaeth bresennol Cymru.
Mae’n anodd dirnad rhif mor enfawr, ond roedd pob un bywyd yn fywyd rhywun a gerid, rhywun gwerthfawr, rhywun unigryw. Roedd pob bywyd a gollwyd yn nodi dinistr gobeithion, chwalu breuddwydion. Roedd pob un golled yn bwrw cysgod tywyll fel canlyniad dros lawer o fywydau eraill.
Roedd y dulliau y bu’n rhaid eu defnyddio i sicrhau’r trechu’r gelyn hwn eu hunain weithiau’n arswydus, ond ystyrid eu bod yn angenrheidiol yn y frwydr.
Heddiw, ymunwch gyda fi os gwelwch yn dda i alarnadu am y gwastraff o fywydau ac adnoddau prin, ond wrth wneud hynny, yn bwysicaf oll, roi diolch dybryd am bob un o’r gweithredoedd dirifedi o aberth, dewrder a phenderfyniad llwyr sy’n golygu y cafodd y gelyn gweladwy amlwg hwn ei drechu.
Gweddi
Duw gwirionedd, Duw cariad, rhyddid a chyfiawnder, clyw weddïau diolchgarwch a gynigiwn ar gyfer y rhai a wnaeth, yn eu bywydau, sicrhau trechu Natsïaeth yn Ewrop.
Clyw ein diolch am eu dewrder; eu hymroddiad; eu haberth. Gwna i ni, yn ein cyfnod ein hunain, werthfawrogi’r rhyddid a enillasant, i garu’r heddwch y gwnaethant helpu ei adeiladu. Ac, yn ein geiriau a’n gweithredoedd, gwna ni yn bobl o gariad a heddwch sy’n ceisio cyfiawnder a rhyddid i bawb yn ein cyfnod ein hunain ac yn ein dyfodol.
Cyflwynwn y weddi hon drwy dy fab, Iesu Grist, Tywysog Heddwch.
Amen