Ficer a oroesodd Covid yn cyhoeddi llyfr o emynau i ysbrydoli eraill
Mae ficer sydd wedi ymddeol, a fu bron â cholli ei fywyd i Covid, yn cyhoeddi llyfr emynau newydd yn y gobaith y bydd yn ysbrydoli eraill sy’n wynebu cyfnod anodd.
Treuliodd y Parchedig Paul Bigmore, 64, dair wythnos yn yr ysbyty'r flwyddyn ddiwethaf yn ymladd am ei fywyd ar ôl cael niwmonia COVID difrifol. Daeth trwyddi diolch i ofal ac ymroddiad staff yr ysbyty ond mae’n dal i ddioddef problemau iechyd sylweddol.
Ei lyfr newydd, a elwir yn Reflecting on a Journey, yw ei bedwerydd llyfr o emynau ac mae’n cynnwys emyn “Covid”. Wedi ei gyflwyno i bawb a fu farw o Covid trwy’r Deyrnas Unedig, bydd y llyfr yn cael ei lansio gan gyn-Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, yn nhref enedigol y Tad Paul ym Mhort Talbot, mewn gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair, ar ddydd Sul, 24 Hydref am 3pm. Bydd cyn-Archesgob Caergrawnt, Dr Rowan Williams yn rhoi’r fendith.
Ymhlith emynau newydd y Tad Paul mae penillion newydd ar gyfer tonau cyfarwydd iawn. Mae’r rhain yn cynnwys carolau Nadolig fel I orwedd mewn preseb a Clywch lu’r nef, a ffefrynnau Cymraeg fel Maesgwyn a Gwahoddiad.
“Rwy’n gobeithio y bydd y llyfr hwn, Reflecting on a Journey, yn gwella clwyfau pobl sy’n dioddef trwy ganu o’n calonnau i Dduw mewn gweddi,” meddai’r Tad Paul, a arloesodd y cynllun Cerddoriaeth yn y Gymuned llwyddiannus i adfywio canu cymunedol yng Nghwm Rhondda yn ystod ei flynyddoedd yn ficer yn Ynyshir.
“Mae wedi bod yn gyfnod erchyll i bawb – rydym oll wedi dioddef mewn rhyw ffordd oherwydd y pandemig. Ysgrifennu emynau yw fy nghariad mawr a’m hangerdd a’r llyfr hwn yw fy ffordd o ddiolch i bobl am eu caredigrwydd i mi a chynnig gobaith, cariad a goleuni iddyn nhw wrth iddyn nhw wynebu dyddiau anodd.”
Ysgrifennwyd y rhagair i’r llyfr gan y cyfansoddwr arobryn Thomas Hewitt Jones. Mae’n talu teyrnged i waith y Tad Paul dros y degawdau i adfywio’r traddodiad emynau.
“Er gwaethaf y crebachu ar gynulleidfaoedd yn y byd heriol sydd ohoni sy’n newid yn barhaus, mae emynau'r un mor berthnasol, ac fe ellid dadlau eu bod yn fwy perthnasol nag erioed o’r blaen, ac mae’n addas iawn bod gwaith diflino a glew'r Tad Paul Bigmore i adfywio’r traddodiad emynau gwych wedi dod i’r amlwg unwaith eto. Daeth y Tad Paul yn gyfaill mawr ac yn gefn dros y degawd diwethaf (fel y mae i lawer yn ei ffordd anhunanol) ac rwyf wedi gwylio mewn edmygedd wrth iddo adfywio’r traddodiad canu emynau yng Nghymru ar ei ben ei hun yn ystod y cyfnod hwnnw.
"Mae’n wych bod ei waith diweddaraf yn cael ei gyhoeddi ar y ffurf hon y gellir ei ganu, ei werthfawrogi a’i fwynhau gan genedlaethau’r dyfodol, gan ddathlu’r gorau o emynyddiaeth Cymru gyda phinsiaid o ffresni cyfoes arferol Paul ei hun gan ledaenu neges o ddyngarwch, cariad a llawenydd pur - nodweddion y mae eu mawr angen trwy’r byd ar hyn o bryd.”