Is-ganghellor yn gadeirydd newydd ar ymddiriedolwyr yr Eglwys
Mae is-ganghellor prifysgol wedi ei benodi i swydd uchel yn yr Eglwys yng Nghymru.
Yr Athro Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, fydd cadeirydd newydd ymddiriedolwyr yr Eglwys, y Corff Cynrychiolwyr.
Bydd yr Athro Hughes, yr is-ganghellor sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod hwyaf yng Nghymru, yn cymryd y gwaith gan James Turner sy'n ymddeol ar ôl naw mlynedd. Bydd yn dechrau ar ei gyfnod ar ôl cyfarfod nesaf y Corff Cynrychiolwyr ym mis Tachwedd.
Wrth gyhoeddi'r penodiad yng nghyfarfod Corff Llywodraethol yr Eglwys heddiw (8 Medi), disgrifiodd Mr Turner yr Athro Hughes fel "dyn o allu anferth". Dywedodd, "Mae llwyddiannau gyrfa Medwin yn drawiadol iawn yn wir ac ni fyddai eu crynhoi yma yn deilwng ohonynt. Bydd yn ddigon dweud ei fod yn ddyn o allu anferth sydd â chyfoeth o brofiad proffesiynol a fydd yn ddefnyddiol dros ben i'r Corff Cynrychiolwyr a'r Eglwys yng Nghymru yn fwy cyffredinol."
Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd yr Uwch Esgob, Andy John, "Mae hwn yn benodiad rhagorol. Daw Medwin â chyfoeth o brofiad academaidd a sefydliadol ond gyda hanes o fynd ati i newid dulliau rheoli. Mae agenda gobeithiol, radical [MA1] ar gyfer y cyfnod nesaf hwn yn ein hanes yn cael ei groesawu'n fawr ac rwy'n siŵr y bydd Medwin yn helpu i'n harwain ymlaen fel eglwys. Mae'r esgobion yn edrych ymlaen at weithio'n glos gydag o yn y dyfodol agos."
Dywedodd yr Athro Hughes, cyn-aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys, "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n gadeirydd y Corff Cynrychiolwyr. Mae hwn yn gyfnod cyffrous o drawsnewid yn yr Eglwys yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws yr Eglwys wrth i ni barhau i sicrhau bod adnoddau ar gael er budd yr Eglwys ledled Cymru."
Ychwanegodd Simon Lloyd, prif weithredwr yr Eglwys, “Daw Medwin â chyfoeth o brofiad i'r swydd yn ogystal â'r fantais o'i ymwneud ers amser maith â bywyd yr Eglwys yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef."
Wrth drosglwyddo'r baton, rhybuddiodd Mr Turner nad yw aelodaeth o'r Corff Cynrychiolwyr ar gyfer y gwangalon. Dywedodd, “Dymunaf bopeth gorau i Medwin a'i sicrhau fy mod yn gweddïo drosto wrth iddo gymryd y swydd hynod ddiddorol hon, yr wyf yn siŵr y bydd yn ei mwynhau'n fawr. Hoffwn hefyd ddiolch i holl aelodau'r Corff Cynrychiolwyr a'i bwyllgorau yr wyf wedi gwasanaethu gyda nhw - nid yw bod yn aelod o'r Corff Cynrychiolwyr ar gyfer y gwangalon ac mae eu hymrwymiad a'u diwydrwydd dros y blynyddoedd wedi ei werthfawrogi'n fawr. Rwyf hefyd wedi mwynhau cefnogaeth a doethineb llawer o aelodau o'r staff ac rwy'n estyn fy niolch iddynt i gyd."
e hefyd yn Ddirprwy Lefftenant Sir Dyfed Ei Mawrhydi, ac mae'n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a'r Gymdeithas Gelfyddydol Frenhinol.
Bywgraffiad
Mae'r Athro Medwin Hughes DL, DPhil, DPS, FRSA, FLSW wedi chwarae rhan sylweddol wrth ad-drefnu Addysg Uwch yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf.
Mae'n Is-ganghellor ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, prifysgol a grëwyd dan Siarter Frenhinol prifysgol hynaf Cymru a sefydlwyd yn 1828 a gyda chysylltiadau cryf â'r Eglwys yng Nghymru. Mae hefyd yn Is-ganghellor ar Brifysgol Cymru a sefydlwyd trwy Siarter Brenhinol yn 1893 fel sefydliad cenedlaethol creiddiol i fywyd addysgol a diwylliannol Cymru.
Yn un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth a Choleg yr Iesu, Rhydychen, bu Medwin yn Ddirprwy Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac ar nifer o bwyllgorau ymgynghorol Llywodraeth Cymru a Chyngor Ewrop o ran cynlluniau polisi addysgol a diwylliannol. Bu'n chwarae rôl allweddol hefyd gydag elusennau yng Nghymru dros y blynyddoedd.
Fe'i penodwyd yn Gymrawd Cymraeg Coleg yr Iesu, Rhydychen ac mae hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Harris Manchester, Prifysgol Rhydychen.
Bu Medwin yn Uchel Siryf Ei Mawrhydi yn Nyfed ar gyfer 2016-17. Mae hefyd yn Ddirprwy Lefftenant Sir Dyfed Ei Mawrhydi, ac mae'n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a'r Gymdeithas Gelfyddydol Frenhinol.