Trais yn Israel - datganiad yr ‘Esgobion’
Gyda dychryn a thrallod yr ydym yn gweld y trais yn gwaethygu yn Israel a Phalesteina a’r defnydd o rym angheuol. Rydym yn gresynu am y ffordd y mae tensiwn rhwng cymunedau wedi cael ei danio gan y cynnydd mewn syniadaeth eithafol ar y ddwy ochr; ac rydym yn cydnabod bod y digwyddiadau yn y rhan fwyaf sensitif a chysegredig hon o’r byd yn cael eu gwaethygu gan fynegiant o ragfarn a chenedlaetholdeb eithafol mewn mannau eraill.
Yn yr un modd â Phatriarchiaid a Phenaethiaid Eglwysi yn Jerwsalem, Jewish Voice for Peace, a’r Cynlluniau Abraham, rydym yn ddiolchgar bod ymdrechion i gyfryngu a thrafod cadoediad, a all fod yn dwyn ffrwyth heddiw. Rydym yn galw ar bawb mewn bywyd cyhoeddus yn Israel a Phalesteina i droi oddi wrth drais ac ail-ymrwymo eu hunain i ddeialog heddychlon. Gweddïwn dros bawb sydd wedi dioddef oherwydd yr ymosodiadau dros y dyddiau diwethaf; ac yng ngeiriau Salm 122 rydym yn arbennig yn ‘gweddïo am heddwch i Jerwsalem...boed heddwch o fewn dy furiau.’
Y Gwir Barchedig Gregory Cameron, Esgob Llanelwy
Y Gwir Barchedig Andy John, Esgob Bangor
Y Gwir Barchedig June Osborne, Esgob Llandaf
Y Gwir Barchedig Cherry Vann, Esgob Mynwy
Y Gwir Barchedig Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi