Cymru yn ymuno â thon weddi 24-awr fyd-eang
Gwahoddir pobl yng Nghymru i ymuno mewn ton weddi 24 awr fyd-eang fis nesaf.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cymryd rhan yn Niwrnod Gweddi rhithiol y Cymundeb Anglicanaidd ar 30 Tachwedd, y credir ei fod y cyntaf o’i fath. Daw â phobl ynghyd o bedwar ban byd i weddïo dros fyd sy’n dioddef o bandemig Covid-19 a newid hinsawdd, yn ogystal ag anghyfiawnder, camfanteisio a rhyfel.
Mae’r Eglwys yn arwain un sesiwn hanner awr gyda ffilm gyda gweddïau a myfyrdodau ar thema newid hinsawdd gan bob un o’i chwech esgobaeth, yn cynnwys rhai o’i hysgolion cynradd. Cyflwynir y sesiwn gan yr Uwch Esgob, Andy John, Esgob Bangor.
Dywedodd, “Mae hwn yn gyfle gwych i ni ymuno mewn gweddi a mynegi ein hundod gyda phobl ar draws y byd.
Mae’r plwyf wedi tyfu llawer dros y flwyddyn ddifethaf, diolch i dechnoleg ddigidol.
"Rydym i gyd wedi gweld pa mor effeithlon y gallwn weddïo ar-lein a pha mor rhwydd yw hi i ymestyn ar draws ffiniau. Wrth i’r byd ymgysylltu mwy, rydym yn dysgu, hefyd, faint sydd gennym yn gyffredin gyda’n gilydd, sut mae ein gweithredoedd mewn un lle yn effeithio ar ein cymdogion, ac yn hollbwysig, sut mae’n rhaid i ni ddatrys problemau gyda’n gilydd er budd pawb. Rwyf yn hynod falch fod yr Eglwys yng Nghymru yn arwain un o’r sesiynau ac rwy’n eich annog i gofrestru, cymryd rhan a gwneud diwrnod ohoni.”
Caiff y digwyddiad ei gydlynu gan yr asiantaeth cenhadaeth, USPG, a bydd mwy na hanner 42 talaith y Cymun Anglicanaidd yn cymryd rhan.
Dywedodd y Parch Duncan Dormor, Ysgrifennydd Cyffredinol USPG, “Credwn mai hwn yw’r diwrnod gweddi byd-eang cyntaf o’i fath ac mae’r ymateb yn rhagorol o bob rhan o’r byd. Teimlwn fod hyn yn amserol iawn. Credwn fod Duw yn galw arnom i ymuno i weddïo dros ein byd – byd a siglwyd gan bandemig Covid-19, effaith cynyddol frawychus newid hinsawdd ac anghyfiawnder, camfanteisio a rhyfel.
“Mae’r Diwrnod Gweddi ar agor i bawb. Gwahoddir pawb yn ddiwahân. Bydd yn ddiwrnod grymus iawn.”
Cynhelir y cynulliad rhithiol dros 24 awr ddilynol, a rannwyd yn slotiau hanner awr o hyd, pob un ohonynt yn cael eu harwain gan un o’r taleithiau Anglicanaidd neu eglwysi all-daleithiol neu eglwysi sydd mewn cymundeb llawn gyda’r Cymundeb Anglicanaidd. Mae hyn yn golygu y gall pobl ymuno â gweddi ar-lein lle bynnag y maent yn y byd a phryd bynnag sy’n gyfleus iddynt. Gallant weddïo dros eu rhan hwy o’r byd neu rywle arall. Gallant ymuno â ni am gymaint o amser ag y dymunant.
Ychwanegodd Mr Dormer, “Bydd yn ddiwrnod unigryw a phwrpasol. Rydym yn casglu cyfres o ffilmiau gwych sy’n ddatganiadau lleol, dilys o weddi ac addoliad o bob rhan o’r byd. Ein gobaith yw y bydd y diwrnod hwn yn ein huno mewn gweddi a’n galluogi i brofi cymdeithas a chyfeillgarwch gyda’n gilydd. Bydd yn ddiwrnod o ffydd ac undod yn y cyfnod anodd hwn.”
Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf ar y Diwrnod Gweddi ar gael ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol USPG. Bydd manylion sut i ymuno a sut y bydd y diwrnod yn gweithio ar gael fis nesaf.
- I gael mwy o wybodaeth ar USPG ewch i: www.USPG.org.uk