Bydd Cymru yn dal y Brenin yn eu calonnau - Archesgob
![King Charles III in Wales](https://churchinwales.contentfiles.net/media/images/King_Charles_in_Wales.width-1200.jpg)
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, wedi rhyddhau’r datganiad canlynol mewn perthynas â salwch y Brenin Siarl:
"Clywais am anhwylder y Brenin gyda phryder dwys, ac fe garwn ei sicrhau o’n gweddiau arbennig ar gyfer gwellhad buan a chyflawn. Y mae gan Ei Fawrhydi berthynas arbennig â Chymru, a gwn y bydd pobl Cymru yn ei gadw ef a’i deulu yn agos at eu calonnau yn ystod y cyfnod hwn."