Gofod cynnes Dolgellau i fynd i'r afael ag unigrwydd a thlodi bwyd
Mae caffi gofod cynnes newydd yn Nolgellau yn helpu trigolion y gaeaf hwn i fynd i'r afael â her costau cynyddol tanwydd, tlodi bwyd, ac ynysu cymdeithasol. Mae Clwb Cawl, a lansiwyd gan eglwysi yn Ardal Gweinidogaeth Bro Cymer, yn darparu gofod cynnes a phrydau bwyd poeth yn ystod misoedd oeraf y flwyddyn.
Yn weithredol drwy gydol Tachwedd, Rhagfyr, ac Ionawr, mae'r fenter yn cynnig noddfa gynnes lle gall pobl fwynhau cawl ffres wedi'i ddarparu am ddim gan fusnes lleol. Gall y bobl sy'n mynychu fod yn dioddef o dlodi bwyd, yn unig ac eisiau mwynhau cwmni a sgwrs, neu'n dod i fwynhau cwrdd â phobl eraill a chynnig clust i wrando.
Meddai y Parch Dr Carol Roberts, un o drefnwyr Clwb Cawl, "Mae'n bwysig ein bod ni fel eglwysi yn Ardal Gweinidogaeth Bro Cymer yn estyn llaw i'n cymunedau lleol a dod o hyd i ffyrdd i'w gwasanaethu a'u cefnogi. Nod Clwb Cawl yw dod â phobl at ei gilydd mewn amgylchedd cynnes, lle maen nhw'n bwyta gyda'i gilydd, efallai'n gwneud ffrindiau newydd, a lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u gwerthfawrogi fel rhan o Gymuned Clwb Cawl.”
"Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y Parch Danni Worley, gweinidog y Bedyddwyr, sy'n gweithio ochr yn ochr â mi yn gweini'r cawl, te a choffi, ac yn sgwrsio gyda phobl."
Meddai Esgob Enlli David Morris, "Mae Clwb Cawl yn fenter ardderchog yn ystod y misoedd oer hyn yn sicrhau bod aelodau o'r gymuned leol yn ac o gwmpas ardal Dolgellau yn cael cyfle rheolaidd i fwynhau pryd bwyd cynnes, cwmni a chefnogaeth. Mae'n enghraifft ysbrydoledig o'r eglwys yn estyn allan ac yn gwasanaethu rhai o'r mwyaf bregus mewn cymdeithas a'r gymuned ehangach yn gyffredinol."
Mae Clwb Cawl yn cael ei gynnal yn wythnosol yn Y Llyfrgell Rydd ar ddydd Llun rhwng 11.00yb ac 1.30yp.