Gweminar yn ymchwilio cariad a chasineb rhwng crefyddau
Daw siaradwyr rhyngwladol o dair crefydd byd ynghyd mewn gweminar fis nesaf (mis Mawrth) i drafod sut y gall pobl o ffydd gyd-fyw mewn heddwch ac yn gytûn.
Gan gynrychioli Cristnogaeth, Iddewiaeth ac Islam, bydd y siaradwyr yn rhannu safbwyntiau am yr hyn y mae eu traddodiadau yn ei ddysgu am drawsnewid casineb gan gariad.
Trefnwyd y weminar, gyda theitl Diwreiddio Casineb, Plannu Cariad: Beth sydd gan Grefyddau’r Byd i’w ddweud? gan yr Eglwys yng Nghymru a rhoddir yr anerchiad dechreuol gan Archesgob Cymru.
Y siaradwyr yw:
- Rabbi David Rosen, Cyfarwyddwr Rhyngwladol Materion Rhyng-grefyddol y Gymuned Iddewig Americanaidd
- Dr Clare Amos, Cyfarwyddwr Disgyblaeth yr Esgobaeth yn Ewrop
- Asif Iftikhar, Cymrawd yn Sefydliad al-Mawrid ar gyfer Ymchwil Islamaidd (Lahore, Pacistan) ac aelod o gyfadran yr Adran Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Gwyddorau Rheolaeth Lahore (LUMS).
Dywedodd yr Archesgob, John Davies, mai nod y weminar yw annog ymgysylltu agored ac onest rhwng pobl o wahanol ffydd.
Meddai, “Yn aml mae diffyg ymddiriedaeth a gelyniaeth yn deillio o anwybodaeth yn hytrach na diddordeb gwirioneddol mewn credoau eraill. Mae gan amrywiaeth o grefyddau, fel y cânt eu hymarfer gan bobl y byd, sydd i gyd yn aelodau o’r un teulu dynol, eu hysbrydolrwydd a’u llwybrau eu hunain i berthynas gyda Duw fel y deallant ef. Gall ymholi i gredoau a hefyd ysbrydolrwydd pobl eraill fod yn addysgiadol ac yn iach. Nid yw’n golygu fod yn rhaid i chi roi’r gorau i’ch safbwynt eich hunan, ond mae, rwy’n credu, yn arwain at fwy o barch ac absenoldeb rhagfarn anwybodus. Rwy’n croesawu unrhyw gyfle a roddir i gynyddu parch a ‘n helpu i gael gwared â rhagfarn.”
Dywedodd y Parch Rana Youab Khan, Cynghorydd Materion Rhyng-grefyddol yr Eglwys yng Nghymru fydd yn hwyluso’r weminar, “Gall casineb at eraill, eu gwerthoedd a’u credoau, leihau ac anharddu cymunedau. Gall fod fel chwyn ymledol sy’n bygwth ac yn mygu twf da mewn gardd sy’n hardd fel arall o gydweithredu dynol a chyd-ffynnu. Gall casineb fod yn ganlyniad anwybodaeth a dicllonedd rhwng credoau a barn o’r byd a ystyrir yn anghymarus. Ar y llaw arall, mae heddwch yn blanhigyn gwerthfawr iawn a all flodeuo wrth i ni blannu cariad i siapio ein bywydau a chymdeithasau yn ôl diben Duw. Bydd ein siaradwyr yn ymchwilio’r thema o safbwyntiau tair Ffydd Abrahamaidd: Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam.
“Rwy’n falch iawn i groesawu siaradwyr mor amlwg i’r weminar yma, a fydd gobeithio y gyntaf o gyfres ar ddialog rhyng-grefyddol.”
- Cynhelir Dadwreiddio Cariad, Plannu Cariad: Beth sydd gan Grefyddau’r Byd i’w ddweud? ar 18 Mawrth am 3pm. Mwy o wybodaeth