Gweminar yn amlinellu ffyrdd i helpu ffoaduriaid
Caiff ffyrdd ymarferol i eglwysi groesawu a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin eu hamlinellu mewn gweminar yr wythnos hon.
Wrth i’r Llywodraeth greu mwy o ffyrdd i ffoaduriaid setlo yn y Deyrnas Unedig, mae llawer o eglwysi, ysgolion a grwpiau cymunedol yn awyddus i gynnig cymaint o help ag a fedrant.
Mae elusen Link International wedi gweithio gydag eglwysi a mudiadau ar draws Gogledd Cymru i ddod ag adnoddau ynghyd i helpu pobl mewn angen brys, ac yr effeithiodd y rhyfel yn Wcráin arnynt, wrth iddynt gyrraedd ein cymunedau.
Mewn sgwrs ar Zoom nos Wener am 7-8pm gyda chroeso i bawb, bydd y Parch Tim Hall, sefydlydd Link International, yn disgrifio’r adnodd hyb maent wedi ei greu. Bydd Tim yn amlinellu sut y cafodd y model hyb ei sefydlu yn Llandudno a sut y gallai eglwysi eraill ei gopïo i helpu ffoaduriaid deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u croesawu.
Gobeithir y bydd y digwyddiad yn dangos yr hyn y gall eglwysi, ysgolion ac unigolion ei wneud i groesawu ffoaduriaid a rhoi’r gefnogaeth barhaus y byddant ei hangen.
Cliciwch ar y ddolen islaw am 7pm ddydd Gwener 18 Mawrth neu rannu’r ddolen gyda rhywun y credwch allai fod â diddordeb.
ID Cyfarfod: 837 4072 5205 / Pas-cod: 850578
Digwyddiad croesawu ffoaduriaid
Ymuno â sgwrs Zoom