Cristnogion Ifanc yn cerdded i Glasgow dros gyfiawnder hinsawdd
Mae Cristnogion Ifanc o Gymru yn ymuno â thaith gyfnewid 1,000 o filltiroedd o Gernyw i Glasgow i ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd.
Maent yn cymryd rhan mewn taith sy’n cychwyn yn yr Uwch Gynhadledd G7 yng Nghernyw'r wythnos nesaf (13 Mehefin) i gyfarfod COP26 y Cenhedloedd Unedig yng Nglasgow fis Tachwedd. Eu nod yw rhoi pwysau ar arweinwyr y byd i weithredu ar newid hinsawdd a’i effeithiau ar y gwledydd tlotaf.
Bydd rhan y Cymry, sy’n 125 milltir, yn cychwyn yn Abertawe ar 3 Gorffennaf a bydd yn mynd trwy Fargam, Melin Ifan Ddu, Pen-rhys, Llantrisant, Caerdydd, Casnewydd, Magwyr a Chas-gwent cyn gorffen ym Mryste ar 12 Gorffennaf.
Bydd esgobion, aelodau o’r eglwys a phlant ysgol yn ymuno ar hyd y ffordd.
Trefnir y daith gyfnewid gan Rwydwaith Hinsawdd Cristnogion Ifanc (YCCN) ac fe’i cefnogir gan yr Eglwys yng Nghymru. Ym mis Ebrill gwnaeth yr Eglwys ddatganiad am argyfwng hinsawdd gan roi addewid y byddai’n cyflawni allyriadau carbon net sero, yn ddelfrydol erbyn diwedd y ddegawd.
Mae Esgob Tyddewi, Dr Joanna Penberthy, yr esgob sy’n arwain ar yr amgylchedd, ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan ac mae’n gwahodd pobl o bob oed i ymuno. Meddai, “Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd sy’n effeithio ar bob un ohonom. Bydd y penderfyniadau a wneir gan arweinwyr byd eleni yn y cyfarfod G7 yng Nghernyw a COP26 y Cenhedloedd Unedig yng Nglasgow yn cael canlyniadau difrifol ar gyfer dyfodol ein planed. Rwy’n cymeradwyo’r Cristnogion ifanc sydd wedi cynllunio’r daith gyfnewid i godi ymwybyddiaeth o’r materion dan sylw ac ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd ac rwy’n edrych ymlaen at gael ymuno â nhw, a chefnogwyr o bob oed, ar hyd y ffordd. Rwy’n gwahodd ein holl eglwysi, ysgolion ac aelodau i gymryd rhan yn yr ymgyrch ym mha bynnag ffordd y gallant. Mae pob cam ar hyd y ffordd yn alwad am gyfiawnder hinsawdd - gadewch i’n lleisiau gael eu clywed.”
Bydd y daith gyfnewid yn cychwyn o Gadeirlan Truro ar 13 Mehefin. Cynhelir gwasanaeth bendithio ar gyfer cwch sy’n arddangos negeseuon gan bobl o gwmpas y byd y mae newid hinsawdd yn effeithio arnyn nhw. Bydd y cwch yn cael ei gludo ar droed, ar feic ac ar drafnidiaeth cyhoeddus yr holl ffordd i Glasgow.
Dywed Rachel Mander, cyd-arweinydd y daith gyfnewid i’r YCCN bod y daith yn “gyfle diffiniol i wneud safiad yn y degawd”. Meddai, “Rydym yn sefyll yn gadarn gyda’r bobl a’r mannau sy’n cael eu bwrw i ddyled a thlodi oherwydd newid hinsawdd. Mae rhagor o allyriadau carbon yn golygu rhagor o afiechyd, mwy o ansicrwydd bwyd a mwy o dlodi. Byddwn ni yn ein 30au pan fydd y byd yn cynhesu 1.5 gradd. Ni fyddwn yn gadael i lywodraeth y Deyrnas Unedig gynnal uwch gynadleddau ar drothwy ein drws i ddim ond clywed mwy o siarad heb unrhyw weithredu. Credwn ei bod yn bryd gwneud penderfyniadau sy’n diogelu pobl nid cyfrifon banc, i benderfynu na fydd unrhyw wlad yn mynd i ddyled wrth ymdrin â newid hinsawdd. Mae’n gyfle diffiniol i wneud safiad.”
Bydd y daith o Gymru yn cael ei lansio gyda gweddi dros frecwast ar 3 Gorffennaf yn Eglwys Thomas Sant, Abertawe. Mae grwpiau eglwysig o Orllewin Cymru yn trefnu taith fer i Eglwys Thomas Sant cyn y lansiad.
- Gallwch chi ymuno â’r Daith Gyfnewid i COP26 a chael gwybodaeth yn https://www.yccn.uk/
- Gallwch hefyd gyhoeddi’r newyddion ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #RiseToTheMoment
Bydd rhagor o fanylion am y daith yng Nghymru ar gael yn fuan.
Y DAITH
Gallwch gerdded unrhyw ran am ba mor hir ag y dewiswch. Bydd y rhan fwyaf o ddyddiau yn cychwyn am 9am a bydd saib am ginio rhwng 12 ag 1pm, rydym yn argymell y dylech ddod â phecyn bwyd.
Diwrnod 1: 03 Gorffennaf
O Abertawe i Abaty Margam
Lleoliad cychwyn: Eglwys Thomas Sant, Abertawe – 10am
Diwrnod 2: 04 Gorffennaf
O Abaty Margam i Ben y Fai a Melin Ifan Ddu
Diwrnod 3: 05 Gorffennaf
O Felin Ifan Ddu i Ben-rhys
Diwrnod 4: 06 Gorffennaf
O Ben-rhys i Lantrisant
Diwrnod 5: 07 Gorffennaf
O Lantrisant i Gadeirlan Llandaf a Chaerdydd
Diwrnod 6: 08 Gorffennaf
O Gaerdydd i Ysgol Teilo Sant, Llanbedr Gwynllŵg a Chasnewydd
Diwrnod 7: 09 Gorffennaf
O Gasnewydd i Wndy
Diwrnod 8: 10 Gorffennaf
O Wndy/Magwyr i Gas-gwent
Diwrnod 9: 11 Gorffennaf
O Gas-gwent i Bradley Stoke
Diwrnod 10: 12 Gorffennaf
O Bradley Stoke i Fryste