Pobl ifanc yw ffocws prosiect twf £3m gan yr Eglwys
Pobl ifanc a theuluoedd yw ffocws prosiect blaengar £3m sy‘n cael ei lansio gan eglwysi yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae Esgobaeth Mynwy wedi sicrhau cyllid i greu pedair cymuned eglwys newydd dros y pum mlynedd nesaf. Drwy weithredu cymdeithasol a chyswllt gyda’r gymuned, bydd y cynlluniau hyn yn anelu i ddod â chariad trawsnewidiol Crist i’w cymunedau, gan anelu i ddod â phobl dan 40 oed i fywyd ffydd egnïol.
Daw’r cyllid o Gronfa Efengyliaeth yr Eglwys yng Nghymru, a sefydlwyd chwe mlynedd yn ôl ar gyfer prosiectau esgobaeth i helpu pobl i ddod i gyswllt â’r ffydd Gristnogol mewn ffyrdd newydd a chyffrous.
Wrth gyhoeddi’r prosiect dywedodd Esgob Mynwy, Cherry Vann, “Rwy’n ddiolchgar tu hwnt i bawb a weithiodd mor galed i sicrhau llwyddiant i’n Cynnig Efengyliaeth. Bydd y grant £3m yn ein galluogi i wneud gwaith gyda ffocws ar sefydlu cymunedau addoli newydd, gan dynnu plant a theuluoedd i ffydd a dod yn ddisgyblion. Mae gan hyn y potensial i arwain at newid sylweddol yn ein gweithgaredd cenhadol a dod ag egni a gobaith newydd i fywyd ein hesgobaeth.”
Mae’r cyllid hwn yn galluogi Esgobaeth Mynwy i ymgorffori gweledigaeth yr esgobaeth (a lansiwyd yn 2022) oedd yn rhoi efengyliaeth wrth ganol ei chenhadaeth. Bydd gan bob cymuned eglwys newydd adnoddau arweinydd, a phencampwr plant a theuluoedd, gan eu galluogi i ddatblygu mewn modd organig a heb roi baich ar glerigwyr presennol. Nod y cyllid yw tyfu’r cymunedau newydd i fod yn hunangynhaliol erbyn diwedd y pum mlynedd.
Cafodd y proseict ei lunio’n strategol i ymgysylltu a chroesawu pobl dan 40 i gorlan bywyd ffydd deinamig. Drwy sefydlu cymunedau yng Nghas-gwent a Thredegar, a dau leoliad arall yn 2016, nod y prosiect yw meithrin ymdeimlad o berthyn a theulu o fewn yr Eglwys yng Nghymru.
Dywedodd Geraint Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Efengylu, “Mae hwn yn brosiect cadarn o fudd i’r cymunedau y bydd yn eu gwasanaethau. Edrychaf ymlaen at barhau i gefnogi’r Esgob Cherry a’i thîm wrth i eglwysi gael eu plannu yn Nhredegar a Chas-gwent.”