Hysbysiad preifatrwydd
Polisïau Diogelu Data'r Eglwys yng Nghymru a Hysbysiadau Preifatrwydd
Mae Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ("yr RB") yn defnyddio gwybodaeth bersonol i gyflawni ei swyddogaethau niferus sy'n cefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Mae'r RB yn casglu ystod eang o ddata personol sy'n ofynnol ar gyfer, neu yn gysylltiedig â, chyflawni ei swyddogaethau, gan gynnwys ymwneud â gweithwyr, clerigwyr, pensiynau, tai, ymgynghoriadau cyhoeddus, recriwtio a phenodi, diogelu, ac ati. Mae'r RB yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth bersonol hon yn cael ei defnyddio yn unol â disgwyliadau a buddiannau'r rhai y maent yn dod i gysylltiad â hwy, gan gynnwys eu gweithwyr, deiliaid swyddi, aelodau a'r cyhoedd yn gyffredinol er budd yr Eglwys a'r gymdeithas ehangach ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol.
Hysbysiadau Preifatrwydd
Mae'r RB wedi paratoi a Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol sy'n rhoi gwybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol yn berthnasol i'r rhan fwyaf o ddata personol a brosesir gan yr RB ac mae'n berthnasol i glerigwyr, cyn-glerigwyr, aelodau, tenantiaid eiddo sy'n eiddo i'r RB, rhoddwyr, defnyddwyr ein gwefan, aelodau'r Corff Llywodraethol, unigolion sy'n cysylltu â ni gydag ymholiadau neu gwynion, defnyddwyr ein gwefan, unigolion sy'n ymddangos yn ein cylchlythyrau neu erthyglau, unigolion rydym yn ymgysylltu â nhw i ddarparu gwasanaethau i ni, unigolion sy'n ymgysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac unigolion sy'n ymgymryd â chyrsiau hyfforddi gyda ni.
Darperir hysbysiadau preifatrwydd ychwanegol ar waelod y dudalen hon.
Dogfennau defnyddiol eraill
Mae'r RB wedi cyhoeddi ffurflen i gynorthwyo unigolyn i wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth.
Mae'r dogfennau canlynol ar gael i'w lawr lwytho:
- Polisi Ffeiliau Personol Clerigwyr (PDF)
- Ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth (Word)
- Hysbysiadau Preifatrwydd