Hafan Cyhoeddiadau Gweinyddiaeth a Busnes Cerdded mewn Didwylledd

Cerdded mewn Didwylledd

Mae adroddiad newydd yr Eglwys yng Nghymru, ' Cerdded mewn Didwylledd’, yn darparu canllawiau diwinyddol ar gyfer ymdrin â chwestiynau ynghylch defnyddio a chamddefnyddio awdurdod ysbrydol.

Mae'r ddogfen, sydd wedi bod yn cael ei pharatoi ers sawl blwyddyn, yn rhan o adolygiad rheolaidd parhaus yr Eglwys o'i strwythurau, polisïau a gweithdrefnau.

Fe'i hysgrifennwyd gan Gomisiwn Athrawiaethol Sefydlog yr Eglwys yng Nghymru, y corff sy'n cynghori ar gredoau a dysgeidiaeth yr Eglwys. Bydd yr adroddiad hwn yn helpu aelodau'r Eglwys i ddeall sut y dylid defnyddio strwythurau arweinyddiaeth ac awdurdod ymhob agwedd ar weinidogaeth ordeiniedig a thrwyddedig ac ym mywyd yr eglwys fel y cyfryw, gan hyrwyddo diwylliant lle mae atebolrwydd ac arfer gorau yn cael eu datblygu'n barhaus a'u diweddaru ar bob lefel o'r sefydliad.

Gan dynnu ar y Beibl, ar draddodiad yr Eglwys ac arfer gorau cyfredol mewn llywodraethiant Eglwys, mae'n pwysleisio mai Duw yw prif ffynhonnell ein hawdurdod.

Mae ' Cerdded mewn Didwylledd: Myfyriaeth ar Ddefnyddio a Chamddefnyddio Awdurdod Ysbrydol’ ar gael mewn fersiwn lawn o 30 tudalen, a chyflwyniad o chwe thudalen.

Trosglwyddo: