Llithiadur Digidol
Croeso i Lithiadur Digidol yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r Llithiadur Digidol ar gael yn Gymraeg a Saesneg o'r un ffynhonnell.
I ddechrau, cliciwch ar y llun glas o logo'r Eglwys yng Nghymru. Bydd hyn yn mynd â chi i dudalen ar y we.
Mae’n hawdd iawn gosod y Llithiadur Digidol ar ffôn clyfar. Pan fydd wedi'i osod bydd yn edrych yn debyg i unrhyw un arall o'r apiau sydd ar eich ffôn, ac yn ymddwyn yr un fath.
Chwiliwch am y symbol hwn i'w osod:
Mae'r Llithiadur Digidol, ar ddyddiau Sul, yn dangos Darlleniadau o'r Beibl ar gyfer y Prif Wasanaeth, yr Ail a'r Trydydd wasanaethau, yn ogystal â’r Colect, Gweddïau ar ôl y Cymun a’r Salmau. Mae'r dolenni ar y dudalen yn dangos testunau o’r Beibl a Gweddïau. Yn ystod diwrnodau’r wythnos, mae’r manylion uchod wedi’u rhannu yn Gymun Dyddiol a’r Gwasanaethau Boreol a Hwyrol. Mae'r dudalen hefyd yn tynnu sylw at Ddathliadau'r Seintiau a thestunau o ffynonellau eraill.