Trefn Angladdau Cristnogol - 2002
NODYN RHAGAREINIOL 2002 GAN ESGOB DAVID THOMAS
Ym 1974 y defnyddiwyd yn gyntaf Trefn Claddedigaeth y Meirw, a argraffwyd yn ddiweddarach yng Nghyfrol II o’r Llyfr Gweddi Gyffredin 1984. Gyda threigl amser daeth diswyliadau amgenach o’r litwrgi angladdol. Mynegwyd pryder o sawl cyfeiriad yn ddiweddar ynglfln â natur hynafol iaith gwasanaethau angladdol y Llyfr Gweddi; mynegwyd hefyd bryder oherwydd diffyg gweddïau addas ar gyfer achlysuron neilltuol ac ynglfln â darlleniadau o’r Ysgrythur na chynhwysir yn swyddogol yn y Drefn ond a ddefnyddir yn aml mewn angladdau.
Y mae’r Comisiwn Ymgynghorol Litwrgaidd Sefydlog wrthi yn paratoi Trefn amgen ar gyfer Claddedigaeth y Meirw. Tra bo’r gwaith hwn yn mynd rhagddo, cred y Fainc fod y sefyllfa ohoni yn teilyngu cyhoeddi’r fersiwn newydd hwn o ddarpariaeth angladdol Llyfr Gweddi 1984.
Y mae’r argraffiad hwn yn cynnwys cryn dipyn o ddeunydd ychwanegol. Fe’i bwriedir yn bennaf fel adnodd ar gyfer y sawl sy’n arwain y gwasanaeth angladd; felly nid oes angen darparu copïau ar gyfer addolwyr. Er eglurder a hwylustod, argreffir y deunydd o’r Llyfr Gweddi yn gyntaf â’r deunydd ychwanegol yn dilyn. Yr unig eithriadau yw Adrannau 5 ac 20 lle rhestrir ac argreffir y darlleniadau yn eu trefn feiblaidd.
Ar ran Mainc yr Esgobion
Trosglwyddo:
Trefn Angladdau Cristnogol (PDF)
Trefn Angladdau Cristnogol - An Order for Christian Funerals ([C&S] PDF)
cyf: 1960