Gwasanaeth Cristingl
Yn yr Eglwys Forafaidd y cychwynnodd y Cristingl; fe’i defnyddiwyd am y tro cyntaf mewn Gwasanaeth Nadolig i Blant yn yr Almaen yn 1747. Ym mhob gwasanaeth Cristingl fe gyneuir canhwyllau’r Cristingl yn arwydd o oleuni a chariad Crist. Y mae i’r gwasanaeth hwyliog hwn wrth olau cannwyll apêl eang, ac y mae, felly, yn ddull delfrydol o annog pobl i ddod i’r eglwys ac i dynnu ynghyd gymunedau, teuluoedd a chyfeillion o bob oed.
Fel rheol, fe gynhelir Gwasanaeth Cristingl ar Sul cyn y Nadolig. Dathliad i Blant ydyw, lle y byddwn yn gosod y plentyn wrth galon popeth a wnawn, yn union fel y mae Crist wrth galon ein bywydau. Uchafbwynt y gwasanaeth yw cyflwyno Cristingl a’r cannwyll arno ynghyn, i bob plentyn ac, yn yr eglwys dywyll, dywed yr arwydd gweledig wirionedd stori’r Nadolig – sef bod goleuni disglair wedi llewyrchu ar dywyllwch y byd.
- Christingle combined inserts (Bilingual PDF)
- Christingle combined inserts (Zipped file - Bilingual PDFs)
cyf: 1097