Cwmplin
Ffurf Arall: Cwmplin (1992)
Mabwysiadodd y Cristnogion cynnar arferiad yr Iddewon o wedd•o ar adegau penodedig yn ystod y dydd. Erbyn diwedd y bumed ganrif yr oedd gweithgarwch
Sant Bened wedi sefydlu patrwm o gynnal saith gwasanaeth yn ystod y dydd ac un gwasanaeth yn y nos. Ymgorfforodd yr Archesgob Cranmer yr olaf o wasanaethau’r dydd yn y Gosber, ond bu nifer o Anglicaniaid yn dyheu am weithred o addoliad cyn mynd i gysgu’r nos. Esgorodd yr ymdeimlad hwn, ynghyd â’r galw am wasanaeth syml i’w ddefnyddio mewn encil neu yn ystod y Garawys, ar gyhoeddi gwasanaeth Cwmplin yn Llyfr Gweddi 1928 Eglwys Loegr. Cyhoeddwyd fersiwn Cymraeg o’r Cwmplin yn Emynau’r Eglwys.
Mae’r ffurf hon ar y Cwmplin, a luniwyd gan yr Esgob R.D. Silk, yn defnyddio’r deunydd traddodiadol yng ngoleuni’r datblygiadau diweddar yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Eglwys Esgobol yn Unol Daleithiau America.
Trosglwyddo:
Cwmplin (Word)
cyf: 1959