Gweddi Ddyddiol 2009
Hyd at y 1950au Llyfr Gweddi Gyffredin 1662 (1664 yn Gymraeg) a ddefnyddid yn gyffredin mewn gwasanaethau cyhoeddus yn yr Eglwys yng Nghymru. Yn y 1950au, ynghyd â Thaleithiau eraill y Cymundeb Anglicanaidd, dechreuodd yr Eglwys yng Nghymru adolygu ei litwrgi, a’r canlyniad oedd Llyfr Boreol a Hwyrol Weddi 1984.
Fodd bynnag, gyda’r newid cymdeithasol a deallusol cyflym a fu yn yr eglwys a’r gymdeithas, ynghyd â darganfyddiadau litwrgaidd newydd, tyfodd y galw am litwrgi sydd hyd yn oed yn fwy cyfoes. Y canlyniad yw’r gyfrol newydd hon o Weddi Ddyddiol sy’n cynnwys, fel yr awgryma’i theitl, nid yn unig wasanaethau bore a hwyr ond deunydd hefyd at addoli ganol dydd ac yn hwyr y nos a chyfoeth o ddeunydd tymhorol. Dangosodd ein gwasanaethau Cymun diwygiedig a gyhoeddwyd yn 2004 y gallwn addoli mewn ffurfiau ac arddulliau newydd ac nad yw undod yn golygu unffurfiaeth trefn. Yn yr un ysbryd y cynigir y llyfr ychwanegol hwn o Weddi Ddyddiol. Rhaid i eglwys sy’n cymryd ei chenhadaeth o ddifrif sicrhau bod ei litwrgi yn hygyrch i bawb. Dangosodd ein gwasanaethau Cymun newydd y gall arddulliau cyfoes fynegi synnwyr o’r dwyfol.
Llunir Cristnogion gan eu dull o weddïo a mynega eu dull o weddïo pwy ydynt. Ond fel y dywedodd un awdur “nid yw geiriau ond dechrau addoliad. Byrhoedlog ac amherffaith ydynt. Ceisiant lunio ffydd a chynnau defosiwn, heb hawlio eu bod yn llwyr ddigonol at y gwaith. Dim ond gras Duw a all gwblhau yr hyn sy’n ddiffygiol yn ein geiriau petrus ni.” Ni all yr un llyfr gweddi fod y gair olaf mewn addoliad, oherwydd y mae litwrgi yn fwy na geiriau. Ni all y gwasanaethau hyn ond darparu fframwaith i annog addoli. Yr hyn sy’n bwysig yw’r ysbryd y defnyddir y geiriau ynddo. Cynlluniwyd y llyfr i ateb anghenion cyfoes ac fe’i cynigir i’r eglwys yn y gobaith y bydd yn gyfrwng gweddi a moliant i Dduw, oherwydd “y mae’r eglwys yn bod i gynnig ar ran y byd y moliant yr anghofiodd y byd ei fynegi.”
+Barry Cambrensis
Trosglwyddo:
Gweddi Ddyddiol - Daily Prayer2009 ([W&E] PDF)
Gweddi Ddyddiol 2009 (Word)
Salmau Gweddi Ddyddiol - Psalms Daily Prayer 2009 ([W&E] PDF)
Salmau Gweddi Ddyddiol 2009 (Word)
ref: 1963