Gwasanaethau Angladd (2020)
Rhan un (testun ar-lein a llyfr)
Y Gwasanaeth Angladd
Y Gwasanaeth Angladd oddi mewn i’r Cymun Bendigaid
Claddu Llwch
Y Gwasanaeth Angladd - Y Llyfr Gweddi Gyffredin Cyfrol II (1984)
Atodiad - Y Gwasanaeth Angladd oddi mewn i’r Cymun Bendigaid
Rhan dau (testun ar-lein yn unig)
Nodiadau, gwasanaethau ychwanegol, deunydd ychwanegol a samplau o wasanaethau
Rhan tri (testun ar-lein yn unig)
Litwrgïau ychwanegol ar gyfer amgylchiadau arbennig, wedi eu cymeradwyo gan Fainc yr Esgobion (heb fod yn rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin)
Lawrlwythiadau:
Defnyddiwch y botymau saeth yn y mynegai fydd yn eich helpu i lywio trwy'r testun. Mae rhannau 1, 2 a 3 wedi'u cynnwys yn y PDF.
Cyn: 1985
Mae'r fersiwn WORD hon ar gael i’ch helpu i greu eich fersiwn eich hun o'r gwasanaeth:
.
Ar hyd ei hanes breintiwyd yr Eglwys â’r cyfle i symud yn agos at bobl, ar amserau tyngedfennol yn eu bywyd, a cheisio bod yn dystion byw i gariad a gras Duw. Nid yw’r Cristion yn credu bod person yn cael ei ddiffodd fel cannwyll ar derfyn ei fywyd daearol; newidiaeth, ynghyd â Bedydd a Phriodas, ac sy’n cynrychioli prif droeon bywyd tra, hefyd, yn cyfeirio ymlaen at y dyfodol a’r gobaith am y bywyd tragwyddol. Nid yw’r Eglwys ychwaith, wrth ystyried hunaniaeth pobl, yn cyfrif mai dibwys yw’r corff ond, yn hytrach, ei fod yn breswylfa enaid, yn gysegredig ac yn haeddu urddas a pharch, hyd yn oed wedi marwolaeth. Rhaid, felly, i ddefod yr angladd Cristnogol gwmpasu’r agweddau hyn, a chyflwyno’r ymadawedig yn berson, yn enaid, i Dduw ac i dragwyddoldeb, a darparu achlysur parchus a chysegredig ar gyfer rhoddi ei weddillion i orffwys, “mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad.”
Mae dwy ystyriaeth ychwanegol. Rhaid bod cydnabyddiaeth, dathliad o bopeth a oedd yn dda a chreadigol ym mywyd yr ymadawedig, yn adlewyrchu rhywbeth o’u harwyddocâd tragwyddol – eu heffaith ar eu teulu a’u cydnabod, eu cyfraniad i’r gymdeithas ac i fywyd. Rhaid hefyd goffáu ffydd, pan fydd person, o ran ei hunan, wedi cyffesu Crist yn Waredwr a thystio i’r addewid o’r bywyd tragwyddol a geir ynddo. Yn olaf, y mae cynulleidfa – teulu, ffrindiau a chydnabod, a fydd yn teithio drwy alar ac arnynt angen i’r seremonïau ogylch yr angladd gyfleu negeseuon o gysur, o obaith, o ffydd, o gariad ac o drugaredd.
Mae llawer i’w gyflawni mewn byr amser. Yn y cyddestun modern mae ffurfiau defodau’r gorffennol yn dal yn ddefnyddiol, ond mae cynulleidfaoedd fel arfer yn disgwyl mwy – yn disgwyl gwasanaeth sy’n adlewyrchu cymeriad yr un a goffeir, sy’n crisialu ystod eu teimladau a’u greddfau hwy eu hunain, sy’n mynegi rhywfaint o’u credoau a’u gobeithion, sy’n cynnig iddynt gysur personol. Felly bydd rhaid i weinidog yr Eglwys, ar adeg angladd, lunio litwrgi a fydd yn ymateb i’r anghenion a’r amcanion hyn i gyd.
Cadwyd hynny mewn cof, ac y mae’r litwrgïau angladd, a gymeradwywyd i fod yn rhan o Lyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys yng Nghymru gan y Corff Llywodraethol ym Mai 2019, yn cynnwys craidd-ddefod, a gyhoeddir yn Rhan Un, ac adnoddau helaeth a gyhoeddir yn Rhan Dau. Y syniad yw bod y litwrgi angladd hanfodol ar gael yn Rhan Un, ond bod yno Ran Dau y gellir troi ato neu hyd yn oed ‘gloddio’ ynddo, am ddeunydd ategol, addas. Yr ydym yn dra diolchgar i aelodau’r Comisiwn Litwrgaidd Ymgynghorol Sefydlog am dros ddegawd o lafur ar y litwrgi hwn a’r adnoddau ategol, a hefyd yn arbennig i Dr Gwendraeth Morgan am ymgymryd â’r gwaith o drosi’r deunydd i’r Gymraeg.
Gobaith esgobion yr Eglwys yng Nghymru yw y bydd y cyfoeth hwn o adnoddau yn galluogi’r rhai sy’n arwain gwasanaethau angladd i lunio litwrgi a fydd yn ateb yr holl anghenion amryfal a restrwyd uchod ond, yn fwyaf pwysig, a fydd hefyd yn fodd i gyhoeddi’r Efengyl yn fugeiliol sensitif a datgan y gobaith sydd ar gael i bawb yng ngwaith achubol Iesu Grist, a orchfygodd angau drwy ei atgyfodiad.
+Gregory Llanelwy
Yr Esgob sy’n gyfrifol am Faterion Litwrgaidd ac Athrawiaethol
Mehefin 2020