Rhan Un:
Y GWASANAETH ANGLADD
GWASANAETH ANGLADD ODDI MEWN I’R CYMUN BENDIGAID
- Nodyn
- Y DOD YNGHYD
- GWEDDÏAU O EDIFEIRWCH
- Y Colect
- CYHOEDDI’R GAIR
- YMBILIAU
- LITWRGI’R SACRAMENT
- Y DIOLCH
- Y CYMUN
- CYFLWYNO A FFARWELIO
- Y TRADDODIANT
- YR ANFON ALLAN
- ATODIAD
Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN, 1984 - TREFN CLADDEDIGAETH Y MEIRW
- DERBYN Y CORFF I’R EGLWYS
- DARLLENIADAU A GWEDDÏAU AR NOSWYL CLADDEDIGAETH
- Y GWASANAETH YN YR EGLWYS (Os gweinyddir y Cymun Bendigaid)
- Y GWASANAETH YN YR EGLWYS (Pan na weinyddir y Cymun Bendigaid)
- Y CYFLWYNIANT, Y DIWEDDGLO ac Y TRADDODIANT
- TREFN CLADDEDIGAETH PLENTYN
- CLADDU LLWCH WEDI AMGLOSGIAD
- Y LLITHOEDD
GWASANAETHAU ANGLADD
Y DOD YNGHYD
Gall y gweinidog dderbyn yr arch.
Gellir defnyddio brawddeg neu frawddegau o’r Ysgrythur:
‘Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd,’ medd yr Arglwydd. ‘Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth.’
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod â’r rhai a hunodd drwy Iesu; ac felly byddwn gyda’r Arglwydd yn barhaus. Calonogwch eich gilydd, felly, â’r geiriau hyn.
Ni ddaethom â dim i’r byd, ac felly ni allwn fynd â dim allan ohono. Yr Arglwydd a roddodd, a’r Arglwydd a ddygodd ymaith. Bendigedig fyddo enw’r Arglwydd.
Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.
Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro.
Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
Os byw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw. Prun bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo’r Arglwydd ydym. Oherwydd pwrpas Crist wrth farw a dod yn fyw oedd bod yn Arglwydd ar y meirw a’r byw.
Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon. Credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle’r wyf fi.
Dywed y gweinidog:
Yn enw’r Tad,
a’r Mab,
a’r Ysbryd Glân. Amen.
Gras a thangnefedd a fo gyda chwi
A’th gadw di yng nghariad Crist.
(neu yn nhymor y Pasg):
Alelwia! Atgyfododd Crist.
Atgyfododd yn wir. Alelwia!
Yr ydym wedi dod ynghyd i gyflwyno ein brawd/chwaer E.
i ddwylo Duw hollalluog, ein Tad nefol.
Yn wyneb angau
mae gan Gristnogion sail sicr i obaith a hyder, ie, i lawenydd,
am fod yr Arglwydd Iesu Grist, a fu byw a marw fel dyn,
wedi atgyfodi mewn buddugoliaeth ac yn fyw am byth.
Ynddo ef y mae ei bobl yn etifeddion bywyd tragwyddol, a chan gredu hyn,
yr ydym yn ymddiried yn llwyr yn ei ddaioni a’i drugaredd.
neu
Yr ydym yn cwrdd yn enw Iesu Grist,
a fu farw ac a gyfododd er gogoniant Duw Dad.
Daethom yma heddiw
i gofio gerbron Duw ein brawd/chwaer E.
i ddiolch am ei fywyd/bywyd;
i’w gyflwyno/chyflwyno i Dduw,
ein hiachawdwr a’n barnwr trugarog;
i draddodi ei gorff/chorff i’w gladdu/amlosgi,
ac i gysuro ein gilydd yn ein galar.
neu eiriau cyffelyb.
Gall y gweinidog ddweud un o’r gweddïau canlynol:
Dduw pob diddanwch,
torrodd dy Fab Iesu Grist i wylo wrth fedd Lasarus ei ffrind.
Edrych yn drugarog ar dy blant yn eu colled; dyro i galonnau gofidus oleuni gobaith
a chryfha ynom ddawn ffydd
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
neu
Hollalluog Dduw,
yr wyt yn ein barnu â thrugaredd a chyfiawnder diderfyn ac yn caru pob peth a wnaethost.
Yn dy drugaredd
cynorthwya ni i wybod dy fod yn troi tywyllwch marwolaeth yn wawr bywyd newydd
a galar gwahanu yn llawenydd y nefoedd; trwy ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.
Gellir canu emyn.
Y Colect
Y mae’r gweinidog yn gwahodd y bobl i weddïo; cedwir distawrwydd a dywed y gweinidog naill ai un o’r Colectau a ganlyn neu Golect addas arall:
Dad trugarog,
clyw ein gweddïau a chysura ni;
adnewydda ein hymddiried yn dy Fab,
a gyfodaist oddi wrth y meirw;
cryfha ein ffydd
y bydd i bawb a fu farw yng nghariad Crist rannu ei atgyfodiad ef,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi, yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr a hyd byth. Amen.
DARLLENIADAU A PHREGETH
Gellir darllen o’r Hen Destament neu o’r Testament Newydd.
Gellir defnyddio’r salm hon, neu salm arall neu emyn:
Yr Arglwydd yw fy mugail:
ni bydd eisiau arnaf.
Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision:
a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,
Ac y mae ef yn fy adfywio.
fe’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du:
nid ofnaf unrhyw niwed,
Oherwydd yr wyt ti gyda mi:
a’th wialen a’th ffon yn fy nghysuro.
Yr wyt yn arlwyo bwrdd o’m blaen:
yng ngŵydd fy ngelynion;
yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew:
y mae fy nghwpan yn llawn.
Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o’m bywyd:
a byddaf yn byw yn nhŷ’r Arglwydd weddill fy nyddiau.
Defnyddir darlleniad o’r Testament Newydd (a all fod yn ddarlleniad o’r Efengyl).
Gellir traddodi pregeth.
GWEDDÏAU
Y mae'r gweinidog yn arwain gweddïau’r bobl.
Fel rheol, bydd y gweddïau’n dilyn y drefn a ganlyn:
- † Diolchgarwch am fywyd yr ymadawedig
- † Gweddi dros y rhai sy’n galaru
- † (Gweddïau o edifeirwch)
- † Gweddi am barodrwydd i fyw yng ngoleuni tragwyddoldeb
Gellir defnyddio’r ffurf a ganlyn. Os bydd achos, gellir hepgor yr ymatebion a gall y gweinidog ei hun ddweud y weddi derfynol.
Dduw trugarog, Arglwydd pob bywyd,
lluniaist ni ar dy ddelw
i adlewyrchu dy wirionedd a’th oleuni.
Diolchwn iti am E.,
am y cariad a’r trugaredd a dderbyniodd gennyt,
am y cyfan a fu’n dda yn ei fywyd/bywyd,
am yr atgofion yr ydym yn eu trysori heddiw.
(Diolchwn iti yn arbennig am ...)
Distawrwydd
(Arglwydd, yn dy drugaredd: gwrando ein gweddi.)
Diolchwn iti am bawb a fu byw, trwy dy ras,
yn ôl dy ewyllys ac sy’n awr yn gorffwyso.
Bydded i’w hesiampl dda ein hannog a’n tywys
holl ddyddiau ein bywyd.
Tyrd i gwrdd â ni yn ein tristwch
a llanw ein calonnau â moliant a diolch.
Distawrwydd
(Arglwydd, yn dy drugaredd: gwrando ein gweddi.)
Yn dy Fab yr wyt yn addo bywyd tragwyddol i bawb sy’n credu.
Dwg E. a phawb sy’n gorffwyso yng Nghrist i gyflawnder dy deyrnas
lle y maddeuwyd pechodau ac nid oes angau mwyach.
Distawrwydd
(Arglwydd, yn dy drugaredd: gwrando ein gweddi.)
Daw dy allu nerthol â llawenydd o dristwch a bywyd o farwolaeth.
Edrych yn drugarog ar bawb sy’n galaru.
([neu] Edrych yn drugarog ar E. a phawb sy’n galaru).
Dyro iddynt ffydd amyneddgar pan fo’r dyddiau’n dywyll.
Nertha hwy ag ymwybod o’th gariad.
Distawrwydd
(Arglwydd, yn dy drugaredd: gwrando ein gweddi.)
Yr wyt yn dyner wrth dy blant ac y mae dy drugaredd dros dy holl weithredoedd.
Dyro inni ddoethineb a gras
i iawn ddefnyddio’r amser sy’n weddill inni ar y ddaear hon,
i droi at Grist a dilyn ôl ei draed
ar y ffordd sy’n arwain i fywyd tragwyddol.
Distawrwydd
(Arglwydd, yn dy drugaredd: gwrando ein gweddi.)
Yna dywed y gweinidog:
Dduw trugarog,
gan ymddiried i’th ddwylo bopeth a wnaethost
a chan lawenhau yn ein cymundeb â’th holl bobl ffyddlon, offrymwn ein gweddïau trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr. Amen.
Gellir dweud Gweddi’r Arglwydd.
Fel y dysgodd ein Hiachawdwr ni, gweddïwn yn hyderus:
Ein Tad,
yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol
a maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw’r deyrnas,
a’r gallu, a’r gogoniant,
yn oes oesoedd. Amen.
neu
Gweddïwn yn hyderus ar y Tad:
Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef.
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;
a maddau inni ein troseddau,
fel yr ŷm ni wedi maddau
i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
a phaid â’n dwyn i brawf,
ond gwared ni rhag yr Un drwg.
Oherwydd eiddot ti yw’r deyrnas
a’r gallu a’r gogoniant
am byth. Amen.
Gellir canu emyn.
CYFLWYNO A FFARWELIO
Saif y gweinidog wrth yr arch a gall wahodd eraill i ymgynnull o’i chwmpas.
Dywed y gweinidog:
Cyflwynwn E. i ddwylo Duw,
ein crëwr a’n gwaredwr.
Cedwir distawrwydd.
Defnyddia’r gweinidog un o’r gweddïau canlynol o ymddiried a chyflwyno, neu weddi briodol arall:
O Dduw ein crëwr a’n gwaredwr, trwy dy allu gorchfygodd Crist farwolaeth a mynd i mewn i’w ogoniant.
Yn llawn hyder yn ei fuddugoliaeth
a chan hawlio ei addewidion,
ymddiriedwn E. i’th ofal
yn enw Iesu ein Harglwydd,
a fu farw ac sy’n fyw
ac yn teyrnasu gyda thi,
yn awr ac am byth. Amen.
neu
I’th ddwylo di, O Waredwr trugarog,
y cyflwynwn dy was/wasanaethferch E.
Gweddïwn arnat i ti arddel dafad o’th gorlan dy hun, oen o’th ddiadell dy hun,
pechadur a waredwyd gennyt ti dy hun. Cofleidia ef/hi ym mreichiau dy drugaredd,
yng ngorffwys bendigaid tangnefedd tragwyddol
ac yng nghwmni gogoneddus y saint yn y goleuni. Amen.
Gall y sawl sy’n gweinyddu ychwanegu un o’r canlynol:
Dyro orffwys, O Grist, i’th was/wasanaethferch gyda’r saint:
lle nad oes poen na thristwch na galar mwy,
ond bywyd yn dragwyddol.
Ti yn unig yw’r un anfarwol,
crëwr a lluniwr pob un ohonom.
Marwolion ydym:
o’r ddaear y’n lluniwyd, i’r ddaear y dychwelwn;
oherwydd felly yr ordeiniaist pan greaist fi, gan ddweud:
“llwch wyt ti, ac i’r llwch y dychweli”.
I’r llwch y disgyn pawb ohonom ni;
ond hyd yn oed uwch y bedd canwn ein cân:
Alelwia, Alelwia, Alelwia.
neu
E., dos allan o’r byd hwn:
yng nghariad Duw’r Tad a’th greodd,
yn nhrugaredd Iesu Grist a’th brynodd,
yn nerth yr Ysbryd Glân sy’n dy gryfhau.
Boed i’r angylion dy arwain i baradwys;
Boed i’r merthyron dy dderbyn pan gyrhaeddi
a’th arwain i’r ddinas sanctaidd Jerwsalem.
Boed i gorau o angylion dy dderbyn a chyda Lasarus,
a fu unwaith yn dlawd, boed i ti orffwys tragwyddol. Amen.
Onid yw’r Traddodiant yn rhan o’r un gwasanaeth yn yr un lle, gellir defnyddio yma adrannau o’r Anfon Allan.
Y TRADDODIANT
Gellir defnyddio brawddegau o’r Ysgrythur.
Dywed y gweinidog:
Trugarog a graslon yw’r Arglwydd,
araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.
Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant,
felly y tosturia’r Arglwydd wrth y rhai sy’n ei ofni.
Oherwydd y mae ef yn gwybod ein deunydd,
yn cofio mai llwch ydym.
Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn;
y mae’n blodeuo fel blodeuyn y maes —
pan â’r gwynt drosto fe ddiflanna,
ac nid yw ei le’n ei adnabod mwyach.
Ond y mae ffyddlondeb yr Arglwydd
dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb ar y rhai sy’n ei ofni,
a’i gyfiawnder i blant eu plant.
neu
Nid oes gennym i fyw ond byr amser.
Blodeuwn fel blodau’r maes ac yna gwywo,
ehedwn ymaith fel cysgod heb aros byth.
Yng nghanol bywyd yr ydym mewn angau;
at bwy y gallwn droi am gymorth
ond atat ti, O Arglwydd,
sydd am ein pechodau’n gyfiawn yn ddicllon?
Er hynny, Arglwydd sancteiddiaf, Arglwydd galluocaf,
O Iachawdwr sanctaidd a thrugarocaf,
na ollwng ni i chwerw boenau angau tragwyddol.
Arglwydd, adwaenost ddirgelion ein calonnau;
O Dduw galluocaf, clyw ein gweddi;
tydi, deilyngaf Farnwr tragwyddol, arbed ni;
O Waredwr sanctaidd a thrugarog.
na ad inni yn ein hawr olaf syrthio oddi wrthyt.
Mae’r gweinidog yn defnyddio un o’r ffurfiau canlynol ar y Traddodiant.
Wrth gladdu corff:
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E.
yn nwylo Duw,
yr ydym yn traddodi ei gorff/chorff i’r ddaear:
pridd i’r pridd, lludw i’r lludw, llwch i’r llwch:
mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
a newidia ein cyrff eiddil ni
i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef,
a fu farw, a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn.
Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.
neu
Caniatâ, O Arglwydd, i ni a fedyddiwyd
i farwolaeth dy Fab, ein Hiachawdwr Iesu Grist,
farwhau’n wastad ein dymuniadau llygredig,
a chael ein claddu gydag ef;
a, thrwy’r bedd a phorth angau,
yr awn rhagom i’n hatgyfodiad llawen;
trwy ei haeddiannau ef, a fu farw, ac a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn,
dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
neu
Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist,
trwy ei orffwys yn y bedd
sancteiddiaist feddau pawb sy’n credu ynddo.
Mae ei bresenoldeb gwastadol
yn cryfhau gobaith yr atgyfodiad ynom ni sydd â chyrff marwol yn dihoeni a darfod.
Gorffwysed dy was/wasanaethferch E. yma mewn heddwch hyd yr awr pan eilw llais y Gwaredwr ef/hi i atgyfodiad ac i fywyd.
Gofynnwn hyn trwy dy Fab,
a oedd yn farw ond a gyfodwyd i fywyd gan dy Ysbryd
ac sy’n teyrnasu yn Arglwydd yn oes oesoedd. Amen.
Yn yr amlosgfa, os yw’r Traddodiant i ddigwydd yno:
Yr ydym wedi ymddiried ein brawd/chwaer E. i drugaredd Duw.
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E. yn nwylo Duw,
yr ydym yn awr yn traddodi ei gorff/chorff i’w amlosgi:
mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
a newidia ein cyrff eiddil ni
i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef,
a fu farw, a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn.
Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.
Yn yr amlosgfa, os yw’r Traddodiant i ddilyn wrth Gladdu’r Llwch:
Yr ydym wedi ymddiried ein brawd/chwaer E. i drugaredd Duw.
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E. yn nwylo Duw,
paratown ar gyfer ei gladdedigaeth/chladdedigaeth, trwy roddi ei gorff/chorff i’w amlosgi.
Disgwyliwn am gyflawnder yr atgyfodiad pan fydd Crist yn casglu ynghyd ei holl saint
i deyrnasu gydag ef mewn gogoniant am byth. Amen.
neu
Hollalluog Dduw,
na all nac angau nac einioes ein gwahanu
oddi wrth dy gariad yng Nghrist Iesu,
ac y mae dy garedigrwydd yn cofleidio pawb o’th blant
yn y byd hwn a’r byd sydd i ddod:
tynn E. atat dy hun
fel, yn ein cymdeithas â thi,
y gwybyddom ein bod yn un ag ef/â hi.
Gofynnwn hyn trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Pan gleddir corff yn y môr:
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E.
yn nwylo Duw,
yr ydym yn traddodi ei gorff/chorff i’r dwfn:
mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
a newidia ein cyrff eiddil ni
i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef,
a fu farw, a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn.
Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.
YR ANFON ALLAN
Gall hyn gynnwys:
- † Gweddi’r Arglwydd (onis defnyddiwyd eisoes)
- † Y Nunc Dimittis
- † Gweddi neu weddïau addas
- † Diweddglo
Gweddi’r Arglwydd
Nunc Dimittis (Cân Simeon):
Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd O Arglwydd:
mewn tangnefedd yn unol â’th air;
Oherwydd y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth:
a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd;
Goleuni i fod yn ddatguddiad i’r Cenhedloedd:
ac yn ogoniant i’th bobl Israel.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab,
ac i’r Ysbryd Glân;
fel yr oedd yn y dechrau, y mae yn awr,
ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
Gellir dweud un neu ragor o’r gweddïau hyn, neu weddïau addas eraill:
Dad nefol,
yn dy Fab Iesu Grist
rhoddaist inni wir ffydd a gobaith diogel.
Cryfha ynom y ffydd a’r gobaith hyn holl ddyddiau ein bywyd
fel y byddom fyw yn bobl sy’n credu
yng nghymundeb y saint, maddeuant pechodau
a’r atgyfodiad i fywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Duw fo yn fy mhen
ac yn fy neall;
Duw fo yn fy nhrem,
ac yn f’edrychiad;
Duw fo yn fy ngair
ac yn fy siarad;
Duw fo yn fy mron
ac yn fy nirnad;
Duw fo ar ben fy nhaith,
ac ar f’ymadawiad. Amen.
O Arglwydd, cynnal ni
trwy gydol dydd ein bywyd blin,
hyd onid estynno’r cysgodion a dyfod yr hwyr,
distewi o ddwndwr byd,
tawelu o dwymyn bywyd
a gorffen ein gwaith.
Yna, Arglwydd, yn dy drugaredd dyro inni breswylfa ddiogel,
gorffwysfa sanctaidd a thangnefedd yn y diwedd;
trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Gellir defnyddio un o’r canlynol neu ddiweddglo addas arall:
Bydded i Dduw yn ei gariad a’i drugaredd diderfyn
ddwyn yr Eglwys gyfan,
y byw a’r meirw yn yr Arglwydd Iesu,
i atgyfodiad llawen
a chyflawniad ei deyrnas dragwyddol. Amen.
Rhodded Duw ichwi
ei ddiddanwch a’i dangnefedd,
ei oleuni a’i lawenydd,
yn y byd hwn a’r byd sydd i ddod;
a bendith Duw hollalluog,
y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,
a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.
Fe ddengys Duw inni lwybr bywyd;
yn ei bresenoldeb ef y mae cyflawnder llawenydd:
ac yn ei ddeheulaw fwyniant bythol.
Iddo ef, sydd â’r gallu ganddo i’ch cadw rhag syrthio,
a’ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant,
iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr,
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
y byddo gogoniant a mawrhydi,
gallu ac awdurdod,
cyn yr oesoedd,
ac yn awr, a byth bythoedd! Amen.
Dyro iddo/iddi, O Arglwydd, orffwys tragwyddol:
A llewyrched goleuni gwastadol arno/arni.
Arhosed cymorth Duw gyda ni,
a gorffwysed ein brodyr a’n chwiorydd ymadawedig
mewn tangnefedd yn yr Arglwydd,
a chyfodi mewn gogoniant. Amen.
Ewch mewn tangnefedd i garu a gwasanaethu’r Arglwydd:
Yn enw Crist. Amen.
GWASANAETH ANGLADD ODDI MEWN I’R CYMUN BENDIGAID
Nodyn (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Cyhyd ag y bo modd, dylai fod yn amlwg mai’r offeiriad sy’n llywyddu drwy gydol y Cymun Bendigaid er mwyn pwysleisio undod y gwasanaeth. Pan fo angen gall diacon neu ddarllenydd arwain y rhannau penodol o’r gwasanaeth lle bo ganddynt awdurdod dilys i wneud. Yn yr amgylchiadau hynny, deellir bod y rhuddell sy’n cyfeirio at eiriau neu weithred yr offeiriad yn cyfeirio at y diacon neu’r darllenydd, fel y bo’n gymwys.
Y DOD YNGHYD (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Gall yr offeiriad dderbyn yr arch.
Gellir defnyddio brawddeg neu frawddegau o’r Ysgrythur:
‘Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd,’ medd yr Arglwydd. ‘Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth.’
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod â’r rhai a hunodd drwy Iesu; ac felly byddwn gyda’r Arglwydd yn barhaus. Calonogwch eich gilydd, felly, â’r geiriau hyn.
Ni ddaethom â dim i’r byd, ac felly ni allwn fynd â dim allan ohono. Yr Arglwydd a roddodd, a’r Arglwydd a ddygodd ymaith. Bendigedig fyddo enw’r Arglwydd.
Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.
Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro.
Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
Os byw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw. Prun bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo’r Arglwydd ydym. Oherwydd pwrpas Crist wrth farw a dod yn fyw oedd bod yn Arglwydd ar y meirw a’r byw.
Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon. Credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle’r wyf fi.
Dywed yr offeiriad:
Yn enw’r Tad,
a’r Mab,
a’r Ysbryd Glân. Amen.
Gras a thangnefedd a fo gyda chwi
A’th gadw di yng nghariad Crist.
(neu yn nhymor y Pasg):
Alelwia! Atgyfododd Crist.
Atgyfododd yn wir. Alelwia!
Yr ydym wedi dod ynghyd i gyflwyno ein brawd/chwaer E.
i ddwylo Duw hollalluog, ein Tad nefol.
Yn wyneb angau mae gan Gristnogion sail sicr i obaith a hyder,
ie, i lawenydd,
am fod yr Arglwydd Iesu Grist,
a fu byw a marw fel dyn,
wedi atgyfodi mewn buddugoliaeth
ac yn fyw yn byth.
Ynddo ef y mae ei bobl yn etifeddion bywyd tragwyddol,
a chan gredu hyn,
yr ydym yn ymddiried yn llwyr yn ei ddaioni a’i drugaredd.
neu
Yr ydym yn cwrdd yn enw Iesu Grist,
a fu farw ac a gyfododd er gogoniant Duw Dad.
Daethom yma heddiw
i gofio gerbron Duw ein brawd/chwaer E.
i ddiolch am ei fywyd/bywyd;
i’w gyflwyno/chyflwyno i Dduw,
ein hiachawdwr a’n barnwr trugarog;
i draddodi ei gorff/chorff i’w gladdu/amlosgi,
ac i gysuro ein gilydd yn ein galar.
neu eiriau cyffelyb.
Gall yr offeiriad ddweud un o’r gweddïau canlynol:
Dduw pob diddanwch,
torrodd dy Fab Iesu Grist i wylo wrth fedd Lasarus ei ffrind.
Edrych yn drugarog ar dy blant yn eu colled;
dyro i galonnau gofidus oleuni gobaith
a chryfha ynom ddawn ffydd
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
neu
Hollalluog Dduw,
yr wyt yn ein barnu â thrugaredd a chyfiawnder diderfyn
ac yn caru pob peth a wnaethost.
Yn dy drugaredd
cynorthwya ni i wybod dy fod yn troi tywyllwch marwolaeth yn wawr bywyd newydd a galar gwahanu yn llawenydd y nefoedd;
trwy ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.
Gellir canu emyn.
GWEDDÏAU O EDIFEIRWCH (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Dywed yr offeiriad y geiriau hyn neu eiriau cyffelyb:
A ninnau’n blant i Dad nefol cariadus,
cydnabyddwn ein pechod a gofynnwn am ei faddeuant,
oherwydd y mae ef yn drugarog ac yn addfwyn.
Gellir darllen un neu fwy o’r brawddegau o ‘Geiriau Sicrwydd’ naill ai i gyflwyno’r distawrwydd cyn y gyffes neu ar ôl y gollyngdod.
Dywedodd ein Harglwydd Iesu Grist, Dewch ataf fi , bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.
Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
A dyma air i’w gredu, sy’n teilyngu derbyniad llwyr: Daeth Crist Iesu i’r byd i achub pechaduriaid.
Os bydd i rywun bechu, y mae gennym Eiriolwr gyda’r Tad, sef Iesu Grist, y cyfiawn; ac ef sy’n foddion ein puredigaeth oddi wrth ein pechodau.
Gellir cadw distawrwydd.
Gellir defnyddio’r geiriau hyn:
Arglwydd Iesu, yr wyt yn cyfodi’r meirw i fywyd yn yr Ysbryd.
Arglwydd trugarha. Arglwydd, trugarha.
Arglwydd Iesu, yr wyt yn rhoddi i’r pechadur faddeuant a thangnefedd.
Crist trugarha. Crist, trugarha.
Arglwydd Iesu, yr wyt yn rhoddi goleuni i’r rhai sydd mewn tywyllwch.
Arglwydd trugarha. Arglwydd, trugarha.
neu
Dad nefol,
yr ydym wedi pechu ar feddwl, gair a gweithred,
a heb wneud yr hyn a ddylem.
Mae’n wir ddrwg gennym,
ac yr ydym o ddifrif yn edifarhau.
Er mwyn dy Fab Iesu Grist a fu farw drosom,
maddau inni’r cwbl a aeth heibio
ac arwain ni yn ei ffordd ef
i gerdded fel plant y goleuni. Amen.
Yna dywed yr offeiriad:
Yr Hollalluog Dduw,
sy’n maddau i bawb sy’n wir edifeiriol,
a drugarhao wrthych, a’ch rhyddhau o bechod, eich cadarnhau mewn daioni a’ch cadw yn y bywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gloria in Excelsis
Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
ac ar y ddaear tangnefedd i’r rhai sydd wrth ei fodd.
Moliannwn di, bendithiwn di,
addolwn di, gogoneddwn di, diolchwn i ti am dy fawr ogoniant.
Arglwydd Dduw, Frenin nefol, Dduw Dad Hollalluog.
O Arglwydd, yr Unig Fab, Iesu Grist;
O Arglwydd Dduw, Oen Duw, Fab y Tad,
sy’n dwyn ymaith bechod y byd, trugarha wrthym;
tydi sy’n eistedd ar ddeheulaw Duw Dad, derbyn ein gweddi.
Oherwydd ti yn unig sy’n Sanctaidd; ti yn unig yw’r Arglwydd;
ti yn unig, O Grist, gyda’r Ysbryd Glân,
sydd Oruchaf yng ngogoniant Duw Dad. Amen.
Y Colect (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Y mae’r offeiriad yn gwahodd y bobl i weddïo; cedwir distawrwydd a dywed yr offeiriad y Colect hwn neu Golect addas arall:
Dad trugarog,
clyw ein gweddïau a chysura ni;
adnewydda ein gobaith yn dy Fab,
a gyfodaist o blith y meirw;
cryfha ein ffydd
y bydd i bawb a fu farw yng nghariad Crist
rannu ei atgyfodiad ef
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw yn awr a byth. Amen.
CYHOEDDI’R GAIR (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Bydd un neu ddau ddarlleniad o’rYsgrythur cyn y darlleniad o’r Efengyl.
Ar ddiwedd y darlleniad(au) gall y darllenydd ddweud:
Gwrandewch ar yr hyn y mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwys.
Diolch a fo i Dduw.
neu
Dyma air yr Arglwydd.
Diolch a fo i Dduw.
Bydd salm neu gantigl yn dilyn y darlleniad cyntaf; gellir defnyddio emynau neu ganeuon eraill rhwng y darlleniadau.
Darlleniad o’r Efengyl:
Gellir rhagflaenu’r darlleniad o’r Efengyl â banllef. Gellir defnyddio un o’r canlynol:
Alelwia, Alelwia,
Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab,
er mwyn i ni gael bywyd tragwyddol.
Alelwia.
neu
Alelwia, Alelwia,
Gwyn eu byd y meirw sy’n marw yn yr Arglwydd.
Cânt orffwys am byth o’u llafur.
Alelwia.
(neu, yn y Garawys)
O Dduw sanctaidd,
sanctaidd a nerthol,
sanctaidd ac anfarwol,
trugarha wrthym.
Wrth gyhoeddi’r Efengyl dywed y darllenydd:
Gwrandewch Efengyl Crist yn ôl Sant …
Gogoniant i ti, O Arglwydd.
Ar ôl yr Efengyl dywed y darllenydd:
Dyma Efengyl yr Arglwydd.
Moliant i ti, O Grist.
YMBILIAU (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Y mae'r gweinidog yn arwain gweddïau’r bobl.
Fel rheol, bydd y gweddïau’n dilyn y drefn a ganlyn:
- † Diolchgarwch am fywyd yr ymadawedig
- † Gweddi dros y rhai sy’n galaru
- † Gweddi am barodrwydd i fyw yng ngoleuni tragwyddoldeb
Gellir defnyddio’r ffurf a ganlyn. Os bydd achos, gellir hepgor yr ymatebion a gall yr offeiriad ei hun ddweud y weddi derfynol.
Dduw trugarog, Arglwydd pob bywyd,
lluniaist ni ar dy ddelw
i adlewyrchu dy wirionedd a’th oleuni.
Diolchwn iti am E.,
am y cariad a’r trugaredd a dderbyniodd gennyt,
am y cyfan a fu’n dda yn ei fywyd/bywyd,
am yr atgofion yr ydym yn eu trysori heddiw.
(Diolchwn iti yn arbennig am ...)
Distawrwydd
(Arglwydd, yn dy drugaredd: gwrando ein gweddi.)
Diolchwn iti am bawb a fu byw, trwy dy ras,
yn ôl dy ewyllys ac sy’n awr yn gorffwyso.
Bydded i’w hesiampl dda ein hannog a’n tywys holl ddyddiau ein bywyd.
Tyrd i gwrdd â ni yn ein tristwch
a llanw ein calonnau â moliant a diolch.
Distawrwydd
(Arglwydd, yn dy drugaredd: gwrando ein gweddi.)
Yn dy Fab yr wyt yn addo bywyd tragwyddol i bawb sy’n credu.
Dwg E. a phawb sy’n gorffwyso yng Nghrist i gyflawnder dy deyrnas
lle y maddeuwyd pechodau ac nid oes angau mwyach.
Distawrwydd
(Arglwydd, yn dy drugaredd: gwrando ein gweddi.)
Daw dy allu nerthol â llawenydd o dristwch a bywyd o farwolaeth.
Edrych yn drugarog ar bawb sy’n galaru.
([neu] Edrych yn drugarog ar E. a phawb sy’n galaru).
Dyro iddynt ffydd amyneddgar pan fo’r dyddiau’n dywyll.
Nertha hwy ag ymwybod o’th gariad.
Distawrwydd
(Arglwydd, yn dy drugaredd: gwrando ein gweddi.)
Yr wyt yn dyner wrth dy blant
ac y mae dy drugaredd dros dy holl weithredoedd.
Dyro inni ddoethineb a gras
i iawn ddefnyddio’r amser sy’n weddill inni ar y ddaear hon,
i droi at Grist a dilyn ôl ei draed
ar y ffordd sy’n arwain i fywyd tragwyddol.
Distawrwydd
(Arglwydd, yn dy drugaredd: gwrando ein gweddi.)
Dduw trugarog,
gan ymddiried i’th ddwylo bopeth a wnaethost a chan lawenhau yn ein cymundeb â’th holl bobl ffyddlon, offrymwn ein gweddïau trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr. Amen.
LITWRGI’R SACRAMENT (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Y Tangnefedd
Gellir darllen brawddeg o’r Ysgrythur:
Dywed Iesu,
Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd;
fy nhangnefedd yr wyf yn ei roi i chwi.
Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon a pheidiwch ag ofni.
neu
Daeth y Crist atgyfodedig a sefyll ymhlith ei ddisgyblion a dweud, Tangnefedd i chwi!
Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion.
Tangnefedd yr Arglwydd a fo gyda chwi bob amser.
A hefyd gyda thi.
Gellir cyfnewid arwydd o dangnefedd.
Y DIOLCH (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Cymer yr offeiriad y bara a’r cwpan. Gall yr offeiriad ddweud naill ai:
Dathlwn gyda’n gilydd roddion a gras Duw.
Cymerwn y bara hwn,
cymerwn y gwin hwn
i ddilyn esiampl Crist
ac i ufuddhau i’w orchymyn.
neu gall foli Duw am ei roddion yn y geiriau hyn:
Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw yr holl greadigaeth.
Trwy dy ddaioni y mae gennym y bara hwn i’w offrymu,
rhodd y ddaear a gwaith dwylo dynol.
Fe ddaw i ni yn fara’r bywyd.
Bendigedig fyddo Duw am byth.
Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw yr holl greadigaeth.
Trwy dy ddaioni y mae gennym y gwin hwn i’w offrymu,
ffrwyth y winwydden a gwaith dwylo dynol.
Fe ddaw i ni yn ddiod ysbrydol.
Bendigedig fyddo Duw am byth.
Yr Arglwydd a fo gyda chwi.
A hefyd gyda thi.
neu
Y mae’r Arglwydd yma.
Y mae ei Ysbryd gyda ni.
Dyrchefwch eich calonnau.
Yr ydym yn eu dyrchafu at yr Arglwydd.
Diolchwn i’r Arglwydd ein Duw.
Iawn yw rhoi ein diolch a’n clod.
Iawn yn wir, ein dyletswydd a’n llawenydd
bob amser ac ym mhob lle
yw diolch i ti, Dad Sanctaidd,
hollalluog a bythfywiol Dduw,
trwy Iesu Grist ein Harglwydd:
a gyfododd yn fuddugoliaethus o blith y meirw
ac sy’n ein cysuro ni â’r gobaith gwynfydedig o fywyd tragwyddol.
I’th bobl ffyddlon di, O Arglwydd,
newidir bywyd ond nid ei gymryd ymaith,
ac wedi dileu’r corff anianol hwn gan angau,
fe ddarperir cartref tragwyddol inni
yn y nefoedd gyda thi.
Felly, gyda llu’r angylion a holl gwmpeini’r nef,
cyhoeddwn ogoniant dy enw
ac ymuno â hwy yn eu hemyn diderfyn o fawl:
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Arglwydd,
Duw gallu a nerth,
nef a daear sy’n llawn o’th ogoniant.
Hosanna yn y goruchaf.
Bendigedig yw’r hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.
Hosanna yn y goruchaf.
Pob moliant a diolch i ti, y gwir a’r bywiol Dduw,
Crëwr pob peth, Rhoddwr bywyd.
Lluniaist ni ar dy ddelw dy hun,
ond yr ydym ni wedi difwyno’r ddelw honno a syrthio’n brin o’th ogoniant.
Rhoddwn ddiolch i ti
am anfon dy Fab i rannu ein bywyd ni;
fe’i hildiaist i farwolaeth fel y câi’r byd ei achub,
a’i atgyfodi oddi wrth y meirw
fel y bo i ni fyw ynddo ef, ac yntau ynom ninnau.
Sancteiddia â’th Ysbryd y bara hwn a’r gwin hwn,
dy roddion inni,
fel y bônt i ni yn gorff a gwaed ein Hiachawdwr Iesu Grist.
Y nos y bradychwyd ef, cymerodd fara ac, wedi rhoi diolch,
fe’i torrodd a’i roi i’w ddisgyblion, gan ddweud,
Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff a roddir drosoch:
gwnewch hyn er cof amdanaf.
Yr un modd ar ôl swper cymerodd y cwpan, ac, wedi rhoi diolch,
fe’i rhoddodd iddynt, gan ddweud,
Yfwch o hwn bawb,
oherwydd hwn yw fy ngwaed o’r cyfamod newydd
a dywelltir drosoch a thros lawer
er maddeuant pechodau:
gwnewch hyn bob tro yr yfwch ef er cof amdanaf.
[Gadewch inni gyhoeddi dirgelwch y ffydd:]
Bu farw Crist.
Atgyfododd Crist.
Daw Crist mewn gogoniant.
Fel y gorchmynnodd ef inni, O Dad,
yr ydym yn cofio Iesu Grist, dy Fab.
Gan gyhoeddi ei farwolaeth fuddugoliaethus,
a chan ymlawenhau yn ei atgyfodiad,
a disgwyl iddo ddod mewn gogoniant,
deuwn â’r bara hwn a’r cwpan hwn i ti.
Derbyn ein haberth o ddiolch a moliant.
Adfer ac adfywia dy holl bobl,
adnewydda ni a phawb y gweddïwn trostynt â’th ras a’th fendith nefol
a derbyn ni yn y diwedd gyda’th holl saint
i’r llawenydd diderfyn hwnnw a addawyd inni gan dy Fab,
ein Harglwydd Iesu Grist.
Trwyddo ef, gydag ef, ynddo ef,
yn undod yr Ysbryd Glân,
eiddot ti, Dad hollalluog,
yw pob anrhydedd a gogoniant,
yn oes oesoedd. Amen.
Distawrwydd
Gellir dweud Gweddi’r Arglwydd.
Fel y dysgodd ein Hiachawdwr ni, gweddïwn yn hyderus:
Ein Tad,
yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol
a maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw’r deyrnas,
a’r gallu, a’r gogoniant,
yn oes oesoedd. Amen.
neu
Gweddïwn yn hyderus ar y Tad:
Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef.
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;
a maddau inni ein troseddau,
fel yr ŷm ni wedi maddau
i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
a phaid â’n dwyn i brawf,
ond gwared ni rhag yr Un drwg.
Oherwydd eiddot ti yw’r deyrnas
a’r gallu a’r gogoniant
am byth. Amen.
Y CYMUN (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Mae’r offeiriad yn torri’r bara.
Yr ydym yn torri’r bara hwn i rannu yng Nghorff Crist.
A ninnau’n llawer, un corff ydym,
gan ein bod ni oll yn rhannu’r un bara.
neu
Bob tro y bwytawn y bara hwn ac yr yfwn y cwpan hwn
yr ydym yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd hyd nes y daw.
Gellir defnyddio’r anthem hon yma neu adeg y cymun.
Iesu, Oen Duw:
trugarha wrthym.
Iesu, sy’n dwyn ein pechodau:
trugarha wrthym.
Iesu, iachawdwr y byd:
dyro inni dy dangnefedd.
neu
Oen Duw,
sy’n dwyn ymaith bechodau’r byd:
trugarha wrthym.
Oen Duw,
sy’n dwyn ymaith bechodau’r byd:
trugarha wrthym.
Oen Duw,
sy’n dwyn ymaith bechodau’r byd:
dyro inni dangnefedd.
Un o’r gwahoddiadau canlynol:
Rhoddion sanctaidd Duw ar gyfer pobl sanctaidd Duw.
Y mae Iesu Grist yn sanctaidd,
y mae Iesu Grist yn Arglwydd,
er gogoniant Duw Dad.
neu
Iesu yw Oen Duw
sy’n dwyn ymaith bechodau’r byd.
Gwyn eu byd y rhai a elwir i’w swper.
Arglwydd, nid wyf yn deilwng i’th dderbyn,
ond dywed y gair a chaf fy iacháu.
neu
Dewch, derbyniwn gorff a gwaed ein Harglwydd Iesu Grist,
a roddwyd drosom, ac ymborthwn arno yn ein calonnau trwy ffydd gan roi diolch.
(neu yn nhymor y Pasg):
Alelwia. Crist, ein Pasg, a aberthwyd drosom ni.
Felly, gadewch i ni gadw’r ŵyl. Alelwia.
Mae’r offeiriad a’r bobl yn derbyn y cymun.
Gweinyddir y sacrament â’r geiriau hyn:
Corff Crist a’th gadwo yn y bywyd tragwyddol. Amen.
neu Corff Crist, bara’r bywyd. Amen.
neu Corff Crist. Amen.
Gwaed Crist a’th gadwo yn y bywyd tragwyddol. Amen.
neu Gwaed Crist, y wir winwydden. Amen.
neu Gwaed Crist. Amen.
Gellir bendithio’r rhai nad ydynt yn cymuno.
Darperir ffurf ar gyfer cysegru pellach yn yr atodiad ar dudalen 90.
Ar ôl y cymun, gellir darllen brawddeg addas oYsgrythur a ddarllenwyd wrth Gyhoeddi’r Gair.
Cedwir distawrwydd. Gellir canu emyn.
Bwyteir ac yfir unrhyw fara a gwin cysegredig nas neilltuir ar gyfer cymun cadw.
Ar ôl y cymun â’r offeiriad ymlaen:
Diolchwch i’r Arglwydd, oherwydd graslon yw ef;
ei gariad sy’n dragywydd.
Defnyddir gweddi ôl-gymun ac/neu un o’r gweddïau a ganlyn:
Dduw’r gwirionedd,
yr ydym wedi gweld â’n llygaid
a chyffwrdd â’n dwylo fara’r bywyd.
Cryfha ein ffydd
fel y tyfwn mewn cariad atat ti, ac at ein gilydd,
trwy Iesu Grist, ein Harglwydd atgyfodedig. Amen.
neu
Dad nefol,
yn dy Fab Iesu Grist
rhoddaist inni wir ffydd a gobaith diogel.
Cryfha ynom y ffydd a’r gobaith
hyn holl ddyddiau ein bywyd
fel y byddom fyw yn bobl sy’n credu yng nghymundeb y saint,
maddeuant pechodau
a’r atgyfodiad i fywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
CYFLWYNO A FFARWELIO (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Saif yr offeiriad wrth yr arch a gall wahodd eraill i ymgynnull o’i chwmpas.
Dywed yr offeiriad:
Cyflwynwn E. i ddwylo Duw,
ein crëwr a’n gwaredwr.
Cedwir distawrwydd.
Defnyddia’r offeiriad un o’r gweddïau canlynol o ymddiried a chyflwyno, neu weddi briodol arall:
O Dduw ein crëwr a’n gwaredwr,
trwy dy allu gorchfygodd Crist farwolaeth
a mynd i mewn i’w ogoniant.
Yn llawn hyder yn ei fuddugoliaeth
a chan hawlio ei addewidion, ymddiriedwn E. i’th ofal
yn enw Iesu ein Harglwydd, a fu farw ac sy’n fyw
ac yn teyrnasu gyda thi,
yn awr ac am byth. Amen.
neu
I’th ddwylo di, O Waredwr trugarog,
y cyflwynwn dy was/wasanaethferch E.
Gweddïwn arnat i ti arddel dafad o’th gorlan dy hun,
oen o’th ddiadell dy hun,
pechadur a waredwyd gennyt ti dy hun.
Cofleidia ef/hi ym mreichiau dy drugaredd,
yng ngorffwys bendigaid tangnefedd tragwyddol
ac yng nghwmni gogoneddus y saint yn y goleuni. Amen.
Gall yr offeiriad ychwanegu un o’r canlynol:
Dyro orffwys, O Grist, i’th was/wasanaethferch gyda’r saint:
lle nad oes poen na thristwch na galar mwy,
ond bywyd yn dragwyddol.
Ti yn unig yw’r un anfarwol,
crëwr a lluniwr pob un ohonom.
Marwolion ydym:
o’r ddaear y’n lluniwyd, i’r ddaear y dychwelwn;
oherwydd felly yr ordeiniaist pan greaist fi, gan ddweud:
“llwch wyt ti, ac i’r llwch y dychweli”.
I’r llwch y disgyn pawb ohonom ni;
ond hyd yn oed uwch y bedd canwn ein cân:
Alelwia, Alelwia, Alelwia.
neu
E., dos allan o’r byd hwn:
yng nghariad Duw’r Tad a’th greodd,
yn nhrugaredd Iesu Grist a’th brynodd,
yn nerth yr Ysbryd Glân sy’n dy gryfhau.
Boed i’r angylion dy arwain i baradwys;
Boed i’r merthyron dy dderbyn pan gyrhaeddi
a’th arwain i’r ddinas sanctaidd Jerwsalem.
Boed i gorau o angylion dy dderbyn a chyda Lasarus,
a fu unwaith yn dlawd, boed i ti orffwys tragwyddol. Amen.
Onid yw’r Traddodiant yn rhan o’r un gwasanaeth yn yr un lle, gellir defnyddio yma adrannau o’r Anfon Allan.
Y TRADDODIANT (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Gellir defnyddio brawddegau o’r Ysgrythur.
Dywed yr offeiriad:
Trugarog a graslon yw’r Arglwydd,
araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.
Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant,
felly y tosturia’r Arglwydd wrth y rhai sy’n ei ofni.
Oherwydd y mae ef yn gwybod ein deunydd,
yn cofio mai llwch ydym.
Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn;
y mae’n blodeuo fel blodeuyn y maes —
pan â’r gwynt drosto fe ddiflanna,
ac nid yw ei le’n ei adnabod mwyach.
Ond y mae ffyddlondeb yr Arglwydd
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb ar y rhai sy’n ei ofni,
a’i gyfiawnder i blant eu plant.
neu
Nid oes gennym i fyw ond byr amser.
Blodeuwn fel blodau’r maes ac yna gwywo,
ehedwn ymaith fel cysgod heb aros byth.
Yng nghanol bywyd yr ydym mewn angau;
at bwy y gallwn droi am gymorth
ond atat ti, O Arglwydd,
sydd am ein pechodau’n gyfiawn yn ddicllon?
Er hynny, Arglwydd sancteiddiaf, Arglwydd galluocaf,
O Iachawdwr sanctaidd a thrugarocaf,
na ollwng ni i chwerw boenau angau tragwyddol.
Arglwydd, adwaenost ddirgelion ein calonnau;
O Dduw galluocaf, clyw ein gweddi;
tydi, deilyngaf Farnwr tragwyddol, arbed ni;
O Waredwr sanctaidd a thrugarog.
na ad inni yn ein hawr olaf syrthio oddi wrthyt.
Mae’r offeiriad yn defnyddio un o’r ffurfiau canlynol ar y Traddodiant.
Wrth gladdu corff:
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E. yn nwylo Duw,
yr ydym yn traddodi ei gorff/chorff i’r ddaear:
pridd i’r pridd, lludw i’r lludw, llwch i’r llwch:
mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
a newidia ein cyrff eiddil ni
i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef,
a fu farw, a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn.
Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.
neu
Caniatâ, O Arglwydd, i ni a fedyddiwyd
i farwolaeth dy Fab, ein Hiachawdwr Iesu Grist,
farwhau’n wastad ein dymuniadau llygredig,
a chael ein claddu gydag ef;
a, thrwy’r bedd a phorth angau,
yr awn rhagom i’n hatgyfodiad llawen;
trwy ei haeddiannau ef, a fu farw, ac a gladdwyd,
ac a gyfododd drachefn er ein mwyn,
dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
neu
Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist,
trwy ei orffwys yn y bedd
sancteiddiaist feddau pawb sy’n credu ynddo.
Mae ei bresenoldeb gwastadol
yn cryfhau gobaith yr atgyfodiad ynom ni sydd â chyrff marwol yn dihoeni a darfod.
Gorffwysed dy was/wasanaethferch E. yma mewn heddwch
hyd yr awr pan eilw llais y Gwaredwr
ef/hi i atgyfodiad ac i fywyd. Gofynnwn hyn trwy dy Fab,
a oedd yn farw ond a gyfodwyd i fywyd gan dy Ysbryd
ac sy’n teyrnasu yn Arglwydd yn oes oesoedd. Amen.
Yn yr amlosgfa, os yw’r Traddodiant i ddigwydd yno:
Yr ydym wedi ymddiried ein brawd/chwaer E. i drugaredd Duw.
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E. yn nwylo Duw,
yr ydym yn awr yn traddodi ei gorff/chorff i’w amlosgi:
mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol
trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
a newidia ein cyrff eiddil ni
i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef,
a fu farw, a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn.
Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.
Yn yr amlosgfa, os yw’r Traddodiant i ddilyn wrth Gladdu’r Llwch:
Yr ydym wedi ymddiried ein brawd/chwaer E. i drugaredd Duw.
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E. yn nwylo Duw,
paratown ar gyfer ei gladdedigaeth/chladdedigaeth,
trwy roddi ei gorff/chorff i’w amlosgi.
Disgwyliwn am gyflawnder yr atgyfodiad
pan fydd Crist yn casglu ynghyd ei holl saint
i deyrnasu gydag ef mewn gogoniant am byth. Amen.
neu
Hollalluog Dduw,
na all nac angau nac einioes ein gwahanu
oddi wrth dy gariad yng Nghrist Iesu,
ac y mae dy garedigrwydd yn cofleidio pawb o’th blant
yn y byd hwn a’r byd sydd i ddod:
tynn E. atat dy hun
fel, yn ein cymdeithas â thi,
y gwybyddom ein bod yn un ag ef/â hi.
Gofynnwn hyn trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Pan gleddir corff yn y môr:
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E. yn nwylo Duw,
yr ydym yn traddodi ei gorff/chorff i’r dwfn:
mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol
trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
a newidia ein cyrff eiddil ni
i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef,
a fu farw, a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn.
Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.
YR ANFON ALLAN (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
Gall hyn gynnwys:
- † Y Nunc Dimittis
- † Gweddi neu weddïau addas
- † Diweddglo
Y Nunc Dimittis (Cân Simeon):
Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd O Arglwydd:
mewn tangnefedd yn unol â’th air;
Oherwydd y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth:
a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd;
Goleuni i fod yn ddatguddiad i’r Cenhedloedd:
ac yn ogoniant i’th bobl Israel.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân;
fel yr oedd yn y dechrau, y mae yn awr,
ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
Gellir dweud un neu ragor o’r gweddïau hyn, neu weddïau addas eraill:
Dad nefol,
yn dy Fab Iesu Grist
rhoddaist inni wir ffydd a gobaith diogel.
Cryfha ynom y ffydd a’r gobaith hyn holl ddyddiau ein bywyd
fel y byddom fyw yn bobl sy’n credu
yng nghymundeb y saint,
maddeuant pechodau
a’r atgyfodiad i fywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Duw fo yn fy mhen
ac yn fy neall;
Duw fo yn fy nhrem,
ac yn f’edrychiad;
Duw fo yn fy ngair
ac yn fy siarad;
Duw fo yn fy mron
ac yn fy nirnad;
Duw fo ar ben fy nhaith,
ac ar f’ymadawiad. Amen.
O Arglwydd, cynnal ni
trwy gydol dydd ein bywyd blin,
hyd onid estynno’r cysgodion a dyfod yr hwyr,
distewi o ddwndwr byd,
tawelu o dwymyn bywyd
a gorffen ein gwaith.
Yna, Arglwydd, yn dy drugaredd dyro inni breswylfa ddiogel,
gorffwysfa sanctaidd a thangnefedd yn y diwedd;
trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Gellir defnyddio un o’r canlynol neu ddiweddglo addas arall:
Bydded i Dduw yn ei gariad a’i drugaredd diderfyn
ddwyn yr Eglwys gyfan,
y byw a’r meirw yn yr Arglwydd Iesu,
i atgyfodiad llawen
a chyflawniad ei deyrnas dragwyddol. Amen.
Rhodded Duw ichwi
ei ddiddanwch a’i dangnefedd,
ei oleuni a’i lawenydd,
yn y byd hwn a’r byd sydd i ddod;
a bendith Duw hollalluog,
y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,
a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.
Fe ddengys Duw inni lwybr bywyd;
yn ei bresenoldeb ef y mae cyflawnder llawenydd:
ac yn ei ddeheulaw fwyniant bythol.
Iddo ef, sydd â’r gallu ganddo i’ch cadw rhag syrthio,
a’ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant,
iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr,
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
y byddo gogoniant a mawrhydi,
gallu ac awdurdod,
cyn yr oesoedd,
ac yn awr, a byth bythoedd! Amen.
Dyro iddo/iddi, O Arglwydd, orffwys tragwyddol:
A llewyrched goleuni gwastadol arno/arni.
Arhosed cymorth Duw gyda ni,
a gorffwysed ein brodyr a’n chwiorydd ymadawedig
mewn tangnefedd yn yr Arglwydd,
a chyfodi mewn gogoniant. Amen.
Yr Arglwydd a fo gyda chwi.
A hefyd gyda thi.
Defnyddir y fendith hon neu fendith addas arall:
Bydded i Dduw Dad,
a gyfododd Crist oddi wrth y meirw trwy ei gariad,
agor i chwi sy’n credu byrth y bywyd tragwyddol. Amen.
Bydded i Dduw Fab,
a enillodd, trwy ddryllio pyrth y bedd, y fuddugoliaeth
ogoneddus, roddi ichwi lawenydd wrth rannu ffydd y Pasg. Amen.
Bydded i Dduw Ysbryd Glân,
yr hwn a anadlodd yr Arglwydd atgyfodedig ar ei ddisgyblion,
eich nerthu a’ch llenwi â thangnefedd Crist. Amen.
A bendith Duw hollalluog,
y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,
a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.
Ewch mewn tangnefedd i garu a gwasanaethu’r Arglwydd:
Yn enw Crist. Amen.
(neu yn nhymor y Pasg):
Ewch mewn tangnefedd i garu a gwasanaethu’r Arglwydd.
Alelwia! Alelwia!
Yn enw Crist.
Alelwia! Alelwia!
ATODIAD (oddi mewn i’r Cymun Bendigaid)
BRAWDDEGAU AR GYFER Y TANGNEFEDD
Y Tangnefedd
Gellir darllen brawddeg o’r Ysgrythur:
Crist yw ein heddwch ni. Cymododd ni â Duw mewn un corff ar y Groes. Deuwn ynghyd yn ei enw a rhannwn ei dangnefedd.
Ni yw corff Crist. Mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un corff. Gadewch inni, felly, geisio’r pethau sy’n arwain i heddwch, ac sy’n nerthu ein bywyd fel cymuned.
Y mae Crist, Tywysog tangnefedd, yn dymchwel y muriau sydd yn ein gwahanu oddi wrth ein gilydd. Galwodd Duw ni i fyw mewn tangnefedd.
Duw sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogaeth y cymod.
Dywedodd Iesu, Dyma fy ngorchymyn: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi.
Yr ydym ni’n gwybod ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, am ein bod yn caru’n brodyr a’n chwiorydd.
Y mae’r sawl nad yw’n caru yn aros mewn marwolaeth.
Bydded eich cariad yn ddiragrith. Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb. Os yw’n bosibl, ac os yw’n dibynnu arnoch chwi, daliwch mewn heddwch â phob un.
Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy’n rhwymyn perffeithrwydd. Bydded i dangnefedd Crist lywio ein penderfyniadau; i’r tangnefedd hwn y cawsom ein galw, yn un corff.
Dywedodd Iesu,Yr wyf yn gadael i chwi fy nhangnefedd; nid fel y mae’r byd yn rhoi yr wyf fi’n rhoi i chwi.
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw yn blant i Dduw.
Bydd yr Arglwydd yn cyhoeddi heddwch i’w bobl ac i’w ffyddloniaid, ac i’r rhai uniawn o galon.
Yr Adfent
Hyn yw trugaredd calon ein Duw – fe ddaw â’r wawrddydd oddi uchod i’n plith, i lewyrchu ar y rhai sy’n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau ac i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
Bydded i Dduw tangnefedd eich gwneud yn gwbl sanctaidd, yn barod ar gyfer dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
Y Nadolig a’rYstwyll
Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd i bawb y mae’n ymhyfrydu ynddynt.
Ein Gwaredwr Crist yw Tywysog Tangnefedd; ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth nac ar ei heddwch.
Y Garawys
Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym feddiant ar heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
Tymor y Dioddefaint
Ond yn awr, yng Nghrist Iesu, yr ydych chwi, a fu unwaith ymhell, wedi eich dwyn yn agos trwy farw aberthol Crist.
Y Pasg a’r Dyrchafael
Dywed Iesu,Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr wyf yn ei roi i chwi. Pe baech yn fy ngharu i, byddech yn llawenhau fy mod yn mynd at y Tad.
Y Pentecost
Y mae bod â’n bryd ar y cnawd yn farwolaeth, ond y mae bod â’n bryd ar yr Ysbryd yn fywyd a heddwch.
Ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunan-ddisgyblaeth. Os yw ein bywyd yn yr Ysbryd, ynddo hefyd bydded ein buchedd.
Tymor y Deyrnas
Teyrnas Dduw yw cyfiawnder, tangnefedd a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
Saint
Cyd-ddinasyddion ydym â’r saint ac aelodau o deulu Duw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd a ddaeth a phregethu heddwch i’r rhai pell a heddwch hefyd i’r rhai agos.
Bedydd
Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. Y mae cariad Duw eisoes wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy’r Ysbryd Glân y mae ef wedi ei roi i ni.
Diolchgarwch
Tangnefedd yw meithrinfa cyfiawnder, a bydd tangnefeddwyr yn medi ei gynhaeaf.
Cenhadaeth
Dywedodd y Crist atgyfodedig, Tangnefedd i chwi! Fel y mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.Yna anadlodd arnynt a dweud: Derbyniwch yr Ysbryd Glân!
Undeb
Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae’r Ysbryd yn ei roi.
FFURF AR GYFER CYSEGRIAD YCHWANEGOL
Dad nefol, gwrando ar y weddi a’r diolchgarwch
a offrymwn trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
a gymerodd fara (a’r / y) cwpan ac a ddywedodd:
Hwn yw fy nghorff (a hwn yw fy) ngwaed.
Cymerwn ninnau y bara (a’r / y) cwpan hwn
a gweddïwn y bydd trwy dy Air a’th Ysbryd
yn sacrament corff (a) gwaed Crist. Amen.
CLADDU LLWCHWEDI AMLOSGIAD
BENDITHIO BEDD (Llwchwedi amlosgiad)
Nodyn
Os bydd y gwasanaeth yn dechrau mewn eglwys neu gapel, fe all y bydd yn addas gwahodd y galarwyr i fan y claddu ar ddiwedd y darlleniadau, a defnyddio’r salmau ym man y claddu.
BENDITHIO BEDD
Os nad yw’r man claddu yn dir sydd wedi ei gysegru, defnyddir y weddi ganlynol i fendithio’r bedd:
O Dduw,
y gosodwyd dy Fab Iesu Grist mewn bedd:
gweddïwn ar i ti fendithio’r bedd hwn
fel y bo’n breswylfa dawel lle gall corff E.
dy was/wasanaethferch orffwys mewn tangnefedd,
trwy dy Fab, yr atgyfodiad a’r bywyd;
a fu farw ac sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn awr a hyd byth. Amen.
PARATOAD
Gellir defnyddio brawddegau priodol o’r Ysgrythur.
Y mae’r gweinidog yn cyfarch y bobl â’r geiriau hyn neu eiriau addas eraill:
Gras a thangnefedd a fo gyda chwi:
A’th gadw di yng nghariad Crist.
Er nad ydym ond llwch a lludw,
y mae Duw wedi paratoi i’r rhai sy’n ei garu drigfan yn y nef.
Yn ei angladd/hangladd cyflwynasom E. i ddwylo Duw hollalluog.
Wrth inni ymddiried gweddillion E. i’r ddaear,
ymddiriedwn ein hunain a phawb sy’n caru Duw i’w ofal cariadus.
DARLLENIADAU (Llwchwedi amlosgiad)
Y mae darlleniad neu ddarlleniadau yn dilyn. Gellir defnyddio’r salmau ym man y claddu.
Mi wn fod fy amddiffynnwr yn fyw:
ac y saif o’m plaid yn y diwedd;
Ac wedi i’m croen ddifa fel hyn:
eto o’m cnawd caf weld Duw.
Fe’i gwelaf ef o’m plaid:
ie, fy llygaid fy hun a’i gwêl, ac nid yw’n ddieithr.
Ti, Arglwydd, yw fy nghyfran a’m cwpan:
ti sy’n diogelu fy rhan;
Syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol:
ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.
Bendithiaf yr Arglwydd a roddodd gyngor i mi:
yn y nos y mae fy meddyliau’n fy hyfforddi.
Gosodais yr Arglwydd o’m blaen yn wastad:
am ei fod ar fy neheulaw, ni’m symudir.
Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f’ysbryd:
a chaiff fy nghnawd fyw’n ddiogel;
Oherwydd ni fyddi’n gadael fy enaid i Sheol:
ac ni chaiff yr un teyrngar i ti weld Pwll Distryw.
Dangosi i mi lwybr bywyd:
yn dy bresenoldeb di y mae digonedd o lawenydd,
ac yn dy ddeheulaw fwyniant bythol.
Arglwydd, yr wyt wedi fy chwilio a’m hadnabod:
Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi
yr wyt wedi deall fy meddwl o bell;
Yr wyt wedi mesur fy ngherdded a’m gorffwys:
ac yr wyt yn gyfarwydd â’m holl ffyrdd.
Oherwydd nid oes air ar fy nhafod:
heb i ti Arglwydd ei wybod i gyd.
Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen:
ac wedi gosod dy law drosof.
Y mae’r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi:
y mae’n rhy uchel i mi ei chyrraedd.
I ble yr af oddi wrth dy ysbryd:
i ble y ffoaf o’th bresenoldeb?
Os dringaf i’r nefoedd, yr wyt yno:
os cyweiriaf wely yn Sheol, yr wyt yno hefyd.
Os cymeraf adenydd y wawr:
a thrigo ym mhellafoedd y môr,
Yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain:
a’th ddeheulaw yn fy nghynnal.
Os dywedaf, “Yn sicr bydd y tywyllwch yn fy nghuddio:
a’r nos yn cau amdanaf ”,
Eto nid yw tywyllwch yn dywyllwch i ti:
y mae’r nos yn goleuo fel dydd
a’r un yw tywyllwch a goleuni.
Ti a greodd fy ymysgaroedd:
a’m llunio yng nghroth fy mam.
Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol :
ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol;
Yr wyt yn fy adnabod mor dda
Bydd rhywun yn dweud: “Pa fodd y mae’r meirw’n cael eu cyfodi? Â pha fath gorff y byddant yn dod?”
Y ffŵl! Beth am yr had yr wyt ti yn ei hau? Ni roddir bywyd iddo heb iddo farw yn gyntaf. A’r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd ydyw, ond gronyn noeth, o wenith efallai, neu o ryw rawn arall. Ond Duw, yn ôl ei ewyllys ei hun, sydd yn rhoi corff iddo, i bob un o’r hadau ei gorff ei hun.
Felly hefyd y bydd gyda golwg ar atgyfodiad y meirw. Heuir mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth. Heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Yn gorff anianol yr heuir ef, yn gorff ysbrydol y cyfodir ef.
Ar ôl hyn, gofynnodd Joseff o Arimathea ganiatâd gan Pilat i gymryd corff Iesu i lawr.Yr oedd Joseff yn ddisgybl i Iesu, ond yn ddisgybl cudd, gan fod ofn yr Iddewon arno. Rhoddodd Pilat ganiatâd, ac felly aeth Joseff i gymryd y corff i lawr. Aeth Nicodemus hefyd, y dyn oedd wedi dod at Iesu y tro cyntaf liw nos, a daeth ef â thua chan mesur o fyrr ac aloes yn gymysg. Cymerasant gorff Iesu, a’i rwymo, ynghyd â’r peraroglau, mewn llieiniau, yn unol ag arferion claddu’r Iddewon.
Yn y fan lle croeshoeliwyd ef yr oedd gardd, ac yn yr ardd yr oedd bedd newydd nad oedd neb erioed wedi ei roi i orwedd ynddo. Felly, gan ei bod yn ddydd Paratoad i’r Iddewon, a chan fod y bedd hwn yn ymyl, rhoesant Iesu i orwedd ynddo.
A theml ni welais ynddi, oherwydd ei theml hi yw’r Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, a’r Oen. Nid oes ar y ddinas angen na’r haul na’r lleuad i dywynnu arni, oherwydd gogoniant Duw sy’n ei goleuo, a’i lamp hi yw’r Oen. A bydd y cenhedloedd yn rhodio yn ei goleuni hi, a brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant i mewn iddi. Byth ni chaeir ei phyrth y dydd, ac ni bydd nos yno.
Yna dangosodd yr angel imi afon dŵr y bywyd, yn ddisglair fel grisial, yn llifo allan o orsedd Duw a'r Oen, ar hyd canol heol y ddinas. Ar ddwy lan yr afon yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg cnwd, gan roi pob cnwd yn ei fis; ac yr oedd dail y pren er iachâd y cenhedloedd. Ni bydd dim mwyach dan felltith. Yn y ddinas bydd gorsedd Duw a’r Oen, a’i weision yn ei wasanaethu; cânt weld ei wyneb, a bydd ei enw ar eu talcennau. Ni bydd nos mwyach, ac ni bydd arnynt angen na golau lamp na golau haul, oherwydd bydd yr Arglwydd Dduw yn eu goleuo, a byddant hwy’n teyrnasu byth bythoedd.
Y TRADDODIANT (Llwchwedi amlosgiad)
Gellir defnyddio brawddegau o’r Ysgrythur.
Dywed y gweinidog:
Yr ydym wedi ymddiried ein brawd/chwaer E. i drugaredd Duw.
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E. yn nwylo Duw
yr ydym yn awr yn traddodi ei weddillion/gweddillion marwol i’r ddaear:
pridd i’r pridd, lludw i’r lludw, llwch i’r llwch:
mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol
trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
a newidia ein cyrff eiddil ni
i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef,
a fu farw, a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn.
Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.
neu
Dduw ffyddlon,
Arglwydd y cread oll,
sy’n ewyllysio na chollir byth
neb o’r rhai a brynwyd gan dy Fab,
ac y cyfodir yr uniawn yn y dydd olaf:
cysura ni heddiw â gair dy addewid
wrth inni ddychwelyd llwch ein brawd/chwaer i’r ddaear.
Dyro i E. orffwysfa mewn tangnefedd lle nad oes gan angau golyn mwy.
Cryfha ynom y gobaith y crëir ef/hi o’r newydd ar y dydd pan atgyfodi di ef/hi mewn gogoniant i fyw gyda thi a’r holl saint byth bythoedd. Amen.
GWEDDÏAU
Gellir dweud Gweddi’r Arglwydd.
Fel y dysgodd ein Hiachawdwr ni, gweddïwn yn hyderus:
Ein Tad,
yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol
a maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw’r deyrnas,
a’r gallu, a’r gogoniant,
yn oes oesoedd. Amen.
neu
Gweddïwn yn hyderus ar y Tad:
Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef.
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;
a maddau inni ein troseddau,
fel yr ŷm ni wedi maddau
i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
a phaid â’n dwyn i brawf,
ond gwared ni rhag yr Un drwg.
Oherwydd eiddot ti yw’r deyrnas
a’r gallu a’r gogoniant
am byth. Amen.
Dad nefol,
diolchwn iti am bawb o’r rhai a garwn
ond na welwn mwyach.
Dyro iddynt dy dangnefedd
a llewyrched goleuni gwastadol arnynt.
A ninnau yn y lle hwn yn cofio E.,
dwg ar gof inni ein dechrau a’n diwedd,
y llwch y daethom ohono
a’r angau yr ydym yn teithio tuag ato,
â gobaith cadarn yn dy gariad tragwyddol
a’th bwrpas ar ein cyfer,
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gellir defnyddio gweddïau eraill, a diweddu â:
Dduw gobaith,
caniatâ fod i ni, gyda phawb a gredodd ynot,
gael ein huno mewn llwyr adnabyddiaeth o’th gariad
a gweledigaeth ddigwmwl o’th ogoniant;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
YR ANFON ALLAN (Llwchwedi amlosgiad)
Bydded i’r Drindod dragwyddol a gogoneddus,
y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,
gyfarwyddo ein bywyd mewn gweithredoedd da,
a rhoddi inni, ar derfyn ein taith trwy’r byd hwn,
orffwysfa dragwyddol gyda’r saint. Amen.
Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN, 1984 - TREFN CLADDEDIGAETH Y MEIRW
DERBYN Y CORFF I’R EGLWYS - 1984
Adeg y claddu, neu cyn hynny
Gan gyfarfod â’r corff wrth y fynedfa i'r fynwent, neu wrth borth yr eglwys, â’r Gweinidog o’i flaen, tra dywedir neu cenir un neu fwy o’r brawddegau neu’r salmau hyn:
Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth.
Myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear: yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a’m llygaid a’i gwelant, ac nid arall.
Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon. Credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle’r wyf fi.
Os byw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw. Prun bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo’r Arglwydd ydym. Oherwydd pwrpas Crist wrth farw a dod yn fyw oedd bod yn Arglwydd ar y meirw a’r byw.
Ni ddygasom ni ddim i’r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith.Yr Arglwydd a roddodd, a’r Arglwydd a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo Enw yr Arglwydd.
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O’i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o’r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw.
Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth * rhag / pwy yr / ofnaf?: yr Arglwydd yw nerth fy mywyd * rhag / pwy / y dych/rynaf?
Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd / hynny a / geisiaf: sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd * i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd * ac i y/mofyn / yn ei / deml.
Canys yn y dydd blin y’m cuddia o / fewn ei / babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia * ar / graig y’m / cyfyd / i.
Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf * na fwrw ymaith dy / was mewn / soriant: fy nghymorth fuost * na ad fi ac na wrthod fi O / Dduw fy / iachaw/dwriaeth.
Dysg i mi dy / ffordd / Arglwydd: ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb * o / herwydd / fy nge/lynion.
Na ddyro fi i fyny i ewyllys / fy nge/lynion: canys gau dystion a rhai a adroddant drawster * a / gyfo/dasant . i’m / herbyn.
Diffygiaswn pe na chredaswn weled / daioni . yr / Arglwydd: yn / nhir y / rhai / byw.
Disgwyl wrth yr Arglwydd * ymwrola ac efe a / nertha . dy / galon: disgwyl, / meddaf, / wrth yr / Arglwydd.
O’r dyfnder y / llefais / arnat: O / - / Ar/glwydd.
Arglwydd / clyw fy / llefain: ystyried dy glustiau wrth / lef / fy ngwe/ddïau.
Os creffi ar anwi/reddau, / Arglwydd: O / Arglwydd / pwy a / saif?
Ond y mae / gyda / thi: fa/ddeuant / fel y’th / ofner.
Disgwyliaf am yr Arglwydd disgwyl . fy / enaid: ac yn ei / air ef / y go/beithiaf.
Fy enaid sydd yn / disgwyl . am yr / Arglwydd: yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore * yn fwy nag y mae y / gwylwyr / am y / bore.
Disgwylied Israel / am yr / Arglwydd: oherwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd * ac aml ym/wared / gydag / ef.
Ac ef a / wared / Israel: oddi wrth ei / holl / anwi/reddau.
Onis defnyddiwyd yn yr Orymdaith, gellir defnyddio un o’r salmau hyn o flaen y Llith, pan ddygir y corff i’r eglwys y noson cyn y claddu, neu yn lle’r salmau yn Y Gwasanaeth yn yr Eglwys (pan na weinyddir y Cymun Bendigaid).
DARLLENIADAU A GWEDDÏAU AR NOSWYL CLADDEDIGAETH - 1984
Pan ddygir y corff i’r eglwys ar noswyl y claddu, darllenir un o’r llithoedd a geir yn Y Llithoedd.
Dywed y Gweinidog:
Yr Arglwydd a fo gyda chwi;
A chyda’th ysbryd dithau.
Gweddïwn.
Arglwydd, trugarha wrthym.
Crist, trugarha wrthym.
Arglwydd, trugarha wrthym.
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;
gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
Yna dyweder un neu fwy o'r gweddïau canlynol, a’r Gras.
Dad pawb oll, gweddïwn arnat dros y rhai a garwn, er eu bod o’n golwg ni. Dyro iddynt dy dangnefedd; llewyrched bythol oleuni arnynt; ac yn dy ddoethineb grasol a’th allu anfeidrol cyflawna ynddynt fwriad daionus dy ewyllys perffaith; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
O Arglwydd Iesu Grist, Mab y Duw byw, a orffwysaist mewn beddrod, a thrwy hynny a sancteiddiaist y bedd i fod yn wely gobaith i’th bobl: gwna i ni ddwys ofidio am ein pechodau a fu’n achos dy ddioddefaint, fel, pan orwedd ein cyrff yn y llwch, y gall ein heneidiau fyw gyda thi sy’n byw ac yn teyrnasu gyda’r Tad a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, byth heb ddiwedd. Amen.
Cantiatâ, O Arglwydd, megis y’n bedyddir ni i farwolaeth dy fendigedig Fab ein Hiachawdwr Iesu Grist, fod inni felly, trwy farwhau’n wastad ein serchiadau llygredig, gael ein claddu gydag ef; a thrwy’r bedd a phorth angau fynd ymlaen i’n hatgyfodiad llawen; trwy ei haeddiannau ef a fu farw, ac a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn, dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fo gyda ni oll byth bythoedd. Amen.
Gellir hefyd ddefnyddio’r ddwy adran flaenorol o’r Drefn hon, neu unrhyw ran ohonynt mewn gwasanaeth yn y tŷ, lle mae’n arfer lleol.
Y GWASANAETH YN YR EGLWYS (Os gweinyddir y Cymun Bendigaid) - 1984
Pan fydd pawb wedi ymgynnull, gall y Gweinidog ddweud:
Yr ydym wedi dod ynghyd i gyflwyno ein brawd/chwaer E. i ddwylo Duw hollalluog, ein Tad nefol.Yn wyneb angau mae gan Gristionogion sail sicr i obaith a hyder, ie, i lawenydd, am fod yr Arglwydd Iesu Grist, a fu byw a marw fel dyn, wedi atgyfodi, gan orchfygu angau, ac yn byw byth.Ynddo ef, gan hynny, y mae ei bobl yn etifeddion bywyd tragwyddol, a chan gredu hyn, yr ydym yn gosod ein holl ymddiried yn ei ddaioni a’i drugaredd.
Dechreuir yn awr drefn y Cymun Bendigaid.
Gellir defnyddio un neu’r ddau o’r Colectau hyn:
O Dduw, Crëwr a Gwaredwr pawb sy’n credu: dyro i’th was/wasanaethferch E. a’r holl ffyddloniaid ymadawedig ddoniau anchwiliadwy dioddefaint dy Fab, fel yn nydd ei ymddangosiad yr amlygir hwy’n blant i ti; trwy Iesu Grist ein Harglwydd, sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, byth heb ddiwedd. Amen.
O Dduw, a roddaist dy annwyl Fab i farwolaeth y groes er ein hiachawdwriaeth, a’n gwaredu oddi wrth allu’r gelyn trwy ei atgyfodiad gogoneddus: dyro inni farw beunydd i bechod, fel y byddwn byw byth gydag ef yn llawenydd ei atgyfodiad; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Darllener un o’r llithoedd, ac eithrio’r Efengylau, a geir yn Y Llithoedd.
Gellir defnyddio’r salm neu’r anthemau canlynol:
Gofidion angau a’m cylchynasant * a gofidiau uffern / a’m dal-/ iasant: ing a / blinder / a / gefais.
Yna y gelwais ar / enw yr / Arglwydd: Atolwg / Arglwydd / gwared . fy / enaid.
Graslon yw yr / Arglwydd . a / chyfiawn: a thosturiol / yw ein / Duw / ni.
Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai / anni/chellgar: tlodais ac e/fe / a’m ha/chubodd.
Dychwel O fy enaid / i’th or/ffwysfa: canys yr / Arglwydd . fu / dda / wrthyt.
Oherwydd i ti waredu fy / enaid oddi wrth / angau: fy llygaid oddi wrth / ddagrau . a’m / traed rhag / llithro.
Nid yw Crist, * wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, * yn / marw / mwyach: nid yw marwolaeth yn arglwydd/iaethu / arno / mwyach.
Canys fel y bu farw * bu farw / unwaith . i / bechod: ac fel y mae’n byw, * / byw y / mae i / Dduw.
Felly chwithau hefyd, * cyfrifwch eich hunain yn / feirw i / bechod: eithr yn fyw i Dduw yng / Nghrist / Iesu . ein / Harglwydd.
Crist a gyfodwyd oddi / wrth y / meirw: ac a wnaed yn / flaenffrwyth . y / rhai a / hunodd.
Canys gan fod mar/wolaeth . trwy / ddyn: trwy ddyn hefyd y mae / atgy/fodiad . y / meirw.
Oblegid megis yn Adda y mae / pawb yn / marw: felly hefyd yng / Nghrist . y byw/heir / pawb.
Darllener yn Efengyl un o’r rhai a geir ynY Llithoedd. Ar ôl y Cymun, dyweder:
Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofna ef;
Fe gofia ei gyfamod yn dragywydd.
Hollalluog Dduw, ein Tad nefol, a roddaist i ni dy Fab Iesu Grist yn fara’r bywyd tragwyddol: pâr i ni oll sy’n gyfrannog o’i Gorff a’i Waed gael ein cyfodi y dydd diwethaf ynddo ef, sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi yn undod yr Ysbryd Glân, yn un Duw, byth heb ddiwedd. Amen.
Parheir â'r Gwasanaeth yn yr Eglwys gyda’r Cyflwyniant a’r Diweddglo.
Y GWASANAETH YN YR EGLWYS (Pan na weinyddir y Cymun Bendigaid) - 1984
Gellir defnyddio’r Gwasanaeth hwn wrth y bedd neu yng nghapel yr amlosgfa neu’r gladdfa.
Pan fydd pawb wedi ymgynnull, gall y Gweinidog ddweud:
Yr ydym wedi dod ynghyd i gyflwyno ein brawd/chwaer E. i ddwylo Duw hollalluog, ein Tad nefol.Yn wyneb angau mae gan Gristionogion sail sicr i obaith a hyder, ie, i
lawenydd, am fod yr Arglwydd Iesu Grist, a fu byw a marw fel dyn, wedi atgyfodi, gan orchfygu angau, ac yn byw byth. Ynddo ef, gan hynny, y mae ei bobl yn etifeddion bywyd tragwyddol, a chan gredu hyn, yr ydym yn gosod ein holl ymddiried yn ei ddaioni a’i drugaredd.
Dyweder neu caner un neu fwy o’r salmau canlynol. Gellir dweud neu ganu yr antiffon hwn o flaen ac ar ôl unrhyw salm neu nifer o salmau.
Iachawdwr y byd a’n prynodd trwy dy Groes a’th werthfawr waed: achub a chymorth ni, O Arglwydd.
Yr Arglwydd / yw fy / Mugail: ni / bydd eisiau / arnaf.
Efe a wna i mi orwedd mewn por/feydd gwelltog: efe a’m tywys ger/llaw y / dyfroedd / tawel.
Efe a / ddychwel . fy / enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyf/iawnder . er / mwyn ei / enw.
Ie pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau nid / ofnaf / niwed: canys yr wyt ti gyda mi * dy wi/alen . a’th / ffon a’m . cy/surant.
Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy / ngwrthwy/nebwyr: iraist fy mhen ag / olew; . fy / ffiol / sydd / lawn.
Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl / ddyddiau . fy / mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr / Arglwydd / yn dra/gywydd.
Ti Arglwydd fuost yn bre/swylfa . i / ni: ym / mhob / cen / hedlaeth.
Cyn gwneuthur y mynyddoedd * a llunio ohonot y / ddaear . a’r / byd: ti hefyd wyt Dduw o dragwy/ddoldeb . hyd / dragwy/ddoldeb.
Trôi / ddyn i / ddinistr; a dywedi, Dy/chwelwch feibion / dynion.
Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg / di fel / doe: wedi yr êl heibio ac fel / gwylia/dwriaeth / nos.
Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant * y / maent fel / hun: y bore y maent fel llys/ieuyn / a ne/widir.
Y bore y blo/deua . ac y /tyf: prynhawn y torrir ef / ymaith / ac y / gwywa.
Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain * ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar . ugain / mlynedd: eto eu nerth sydd boen a blinder * canys ebrwydd y derfydd a / ni . a e/hedwn / ymaith.
Dysg i ni felly / gyfrif . ein / dyddiau: fel y dygom ein / calon / i ddoe/thineb.
Dychwel / Arglwydd . pa / hyd?: ac edifar/ha o / ran dy / weision.
Diwalla ni yn fore / â’th dru/garedd: fel y gorfoleddom ac y llawenychom / dros ein / holl / ddyddiau.
Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cys/tuddiaist / ni: a’r bly / nyddoedd . y / gwelsom / ddrygfyd.
Gweler dy waith tuag / at dy / weision: a’th o/goniant . tuag at eu / plant hwy.
A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein / Duw / arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni * ie / trefna / waith ein / dwylo.
Fy enaid, ben/dithia . yr / Arglwydd: a chwbl sydd ynof ei / enw / sanctaidd / ef.
Fy enaid, ben/dithia . yr / Arglwydd: ac nac anghofia ei / holl / ddoniau / ef.
Yr hwn sydd yn maddau dy / holl . anwi/reddau: yr hwn sydd yn ia/cháu dy / holl / lesgedd,
Yr hwn sydd yn gwaredu dy / fywyd . o / ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thru/garedd . ac / â thos/turi.
Fel y tosturia / tad . wrth ei / blant: felly y tosturia yr Arglwydd wrth y / rhai a’i / hofnant / ef.
Canys efe a edwyn ein / defnydd / ni: cofia / mai / llwch / ydym.
Dyddiau dyn sydd / fel glas/welltyn: megis blodeuyn y maes / felly . y blo/deua . e fe.
Canys y gwynt a â drosto * ac ni bydd / mwy / o/hono: a’i le nid edwyn / ddim o/hono . ef / mwy.
Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb * ar y rhai a’i / hofnant / ef: a’i gyf/iawnder . i / blant eu / plant;
I’r sawl a gadwant ei / gyfamod / ef: ac a gofiant / ei orch-/ mynion . i’w / gwneuthur.
Dyrchafaf fy llygaid / i’r my/nyddoedd: o’r / lle y / daw / fy / nghymorth.
Fy nghymorth a ddaw oddi / wrth yr / Arglwydd: yr hwn a / wnaeth / nefoedd . a / daear.
Ni ad efe i’th / droed / lithro: ac / ni / huna . dy / geidwad.
Wele / ni / huna: ac ni / chwsg / ceidwad / Israel.
Yr Arglwydd / yw dy / geidwad: yr Arglwydd yw dy / gysgod / ar dy . dde/heulaw.
Ni’th dery yr / haul y / dydd: na’r / lleuad / y / nos.
Yr Arglwydd a’th geidw / rhag pob / drwg: e/fe a / geidw dy / enaid.
Yr Arglwydd a geidw dy fynediad / a’th ddy/fodiad: o’r / pryd hwn / hyd yn dra/gywydd.
Ar/glwydd / chwiliaist: ac / adna/buost / fi.
Ti a adwaenost fy eis/teddiad . meddwl . o / bell. a’m cy/fodiad: de/elli fy /
Amgylchyni fy / llwybr . a’m gor/weddfa: a hysbys / wyt . yn fy / holl / ffyrdd.
Canys nid oes / air . ar fy / nhafod: ond wele Arglwydd / ti a’i / gwyddost / oll.
Amgylchynaist fi yn / ôl . ac ym/laen: a go/sodaist . dy / law / arnaf.
Dyma wybodaeth ry / ryfedd . i/mi: uchel yw * ni fedraf / oddi / wrthi.
I ba le yr af oddi / wrth dy / ysbryd?: ac i ba / le y / ffoaf . o’th / ŵydd?
Os dringaf i’r nefoedd / yno . yr wyt / ti: os cyweiriaf fy ngwely yn / uffern / wele . di / yno.
Pe cymerwn a/denydd . y / wawr: a phe trigwn / yn ei-/ thafoedd . y / môr:
Yno hefyd y’m ty/wysai . dy / law: ac y’m / daliai / dy dde-/ heulaw.
Pe dywedwn * Diau y ty/wyllwch . a’m / cuddiai: yna y byddai y / nos . yn o/leuni . o’m / hamgylch.
Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti * ond y nos a o/leua . fel / dydd: un ffunud yw ty/wyllwch . a go/leuni . i/ ti.
Darllener un o’r llithoedd a geir yn Y Llithoedd. Yna gellir canu emyn.
Dywed y Gweinidog:
Yr Arglwydd a fo gyda chwi;
A chyda’th ysbryd dithau.
Gweddïwn.
*Arglwydd, trugarha wrthym.
Crist, trugarha wrthym.
Arglwydd, trugarha wrthym.
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;
gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
*Gellir defnyddio’r Litani Leiaf a Gweddi’r Arglwydd naill ai yn y fan hon, neu yn y lle a nodir wedi’r Traddodiant.
Ti, Grist, yw Brenin y gogoniant;
Ti yw tragwyddol Fab y Tad.
Pan orchfygaist holl nerth angau;
Agoraist deyrnas nef i bawb sy’n credu.
Ti sydd yn eistedd ar ddeheulaw Duw yng ngogoniant y Tad;
Yr ŷm yn credu mai tydi a ddaw yn Farnwr arnom.
Gan hynny yr atolygwn i ti gynorthwyo dy weision;
Y rhai a brynaist â’th werthfawr waed.
Pâr iddynt gael eu cyfrif gyda’th saint;
Yn y gogoniant tragwyddol.
Gall y Gweinidog ychwanegu un neu ragor o'r gweddïau hyn:
Bydd rasol, Arglwydd, wrth ein brawd/chwaer ymadawedig, fel, wedi ei ryddhau/rhyddhau oddi wrth rwymau pechod a marwolaeth, y perffeithir ef/hi trwy dy ras a’i dderbyn/derbyn i’r bywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Hollalluog Dduw, a ddatguddiaist mai dy annwyl Fab yw’r atgyfodiad a’r bywyd: gweddïwn arnat ein cyfodi ni o angau pechod i fywyd cyfiawnder, fel, wedi ymado â’r bywyd hwn, y gorffwyswn ynddo ef, megis y mae ein gobaith am ein brawd hwn/chwaer hon, a derbyn yn y diwedd y fendith: Da was da a ffyddlon; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd. Caniatâ hyn, O Dad trugarog, trwy Iesu Grist, ein Cyfryngwr a’n Gwaredwr. Amen.
Dad nefol, a roddaist i ni yn dy Fab Iesu Grist wir ffydd a gobaith diogel: cymorth ni i fyw fel y rhai sy’n credu ac yn ymddiried yng nghymun y saint, maddeuant pechodau, a’r atgyfodiad i fywyd tragwyddol, a chryfha ynom y ffydd a’r gobaith hwn holl ddyddiau ein bywyd; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Hollalluog Dduw, Tad pob trugaredd a rhoddwr pob cysur: bydd rasol wrth y rhai sy’n galaru, fel trwy fwrw pob gofal arnat ti, y cânt brofi diddanwch dy gariad; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Diolchwn i ti, O Dduw,
am ddatguddio dy gariad a’th ras
yn y rhai sydd wedi byw yn ôl dy ewyllys
ac sy’n awr yn gorffwys.
Gofynnwn am i’w bywyd a’u hesiampl
barhau i’n calonogi a’n harwain
holl ddyddiau ein bywyd;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Arglwydd trugarog,
yn dy gariad rhoddaist inni dy Fab
i orchfygu angau
ac i ddwyn bywyd tragwyddol i’th bobl.
Cysura dy weision yn eu profedigaeth,
a chryfha ein ffydd a’n gobaith yn dy Fab,
ein Gwaredwr Iesu Grist. Amen.
Dad nefol,
ti sy’n noddfa a nerth i ni.
Gofynnwn iti ein cynorthwyo’r awr hon;
cryfha ein ffydd,
dilea ein hofnau,
adnewydda ein gobaith.
Arweinied yr Ysbryd Glân ni
trwy dywyllwch ein tristwch
i oleuni dy gariad tragwyddol
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Parheir â'r gwasanaeth gyda’r Cyflwyniant a’r Diweddglo canlynol.
Y CYFLWYNIANT, Y DIWEDDGLO ac Y TRADDODIANT - 1984
Dywed y Gweinidog, yn sefyll:
Cyflwynwn ein brawd/chwaer E. i ddwylo Duw, ein Crëwr a’n Gwaredwr.
O Dduw, ein Tad nefol, sydd trwy dy allu mawr wedi ein cynysgaeddu â bywyd, ac yn dy drugaredd wedi rhoddi inni fywyd newydd yng Nghrist Iesu: cyflwynwn i’th ofal tosturiol E. ein brawd/chwaer, trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd, a fu farw ac a gyfododd drachefn i’n hachub, ac sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi mewn gogoniant byth bythoedd. Amen.
Gorffwys dyro, Grist, i’th weision gyda phawb o’th saint,
lle nid oes gofid mwy na phoen,
na gorthrymderau blin a gwae,
ond bywyd yn dragwyddol.
Tydi dy hun yn unig sydd anfarwol,
Creawdwr a Chynhaliwr dyn;
Marwolion ydym ni o bridd y ddaear,
ac i’r un pridd y dychwelwn,
canys felly yr ordeiniaist,
pan greaist ni, gan ddywedyd:
Pridd wyt ti, ac i’r pridd y dychweli.
I’r llwch y disgyn pawb ohonom ni;
Dan wylo uwch y bedd dyrchafwn gân:
Alelwia, Alelwia, Alelwia.
neu
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fo gyda ni oll byth bythoedd. Amen.
neu
Dyro iddo/iddi, O Arglwydd, orffwys tragwyddol;
A llewyrched goleuni gwastadol arno/arni.
neu
Awn ymaith mewn tangnefedd;
Yn enw Crist. Amen.
Os bydd y tir heb ei gysegru, dywed yr Offeiriad yn union o flaen y Traddodiant y weddi a geir yn Bendithio’r Bedd.
Yn y lle y rhoddir y corff i’w gladdu dywed y Gweinidog:
Yng nghanol bywyd yr ydym mewn angau; gan bwy y mae i ni geisio ymwared, ond gennyt ti, O Arglwydd, sydd am ein pechodau’n gyfiawn yn ddicllon?
Er hynny, Arglwydd Dduw sancteiddiaf, Arglwydd galluocaf, O iachawdwr sanctaidd a thrugarocaf, na ollwng ni i chwerw boenau angau tragwyddol.
Ti adwaenost, Arglwydd, ddirgelion ein calonnau; na thro dy glustiau trugarog oddi wrth ein gweddïau; eithr arbed ni, O Arglwydd sancteiddiaf, O Dduw galluocaf, O lachawdwr sanctaidd a thrugarog, tydi deilyngaf Farnwr tragwyddol, na ad i ni yn ein hawr olaf, er unrhyw boenau angau, syrthio oddi wrthyt.
Os na ddefnyddiwyd y Cyflwyniant eisoes, defnyddier ef yma.
Yna dywed y Gweinidog:
Yn ffydd Crist, a chan gredu fod enaid ein brawd hwn/chwaer hon yn nwylo Duw, yr ydym yn traddodi ei gorff ef/chorff hi
i’r ddaear, pridd i’r pridd, lludw i’r lludw, llwch i’r llwch,
i’w amlosgi,
i’r dwfn,
mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i fywyd tragwyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a newidia ein corff gwael ni, fel y bydd yn gyffelyb i’w gorff gogoneddus ef, trwy’r nerth sy’n ei alluogi i ddarostwng pob peth iddo ei hun.
Mi glywais lais o’r nef yn dywedyd, Gwyn eu byd y meirw sydd yn marw yn yr Arglwydd o hyn allan. Ie. Gwyn eu byd, medd yr Ysbryd: cânt orffwys oddi wrth eu llafur.
Yna, os na ddywedwyd hyn eisoes yn y Gweddïau, ychwaneger:
Arglwydd, trugarha wrthym.
Crist, trugarha wrthym.
Arglwydd, trugarha wrthym.
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;
gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
Gellir defnyddio yma rai o’r Gweddïau a geir o’r blaen, os na ddefnyddiwyd hwy’n barod.
Arhosed cymorth Duw gyda ni’n wastad a, thrwy ei drugaredd, gorffwysed eneidiau’r ffyddloniaid mewn tangnefedd. Amen.
neu
Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd. wrth i chwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith. Oblegid ohono ef a thrwyddo ef ac ynddo ef y mae pob peth. Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.
neu
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fo gyda ni oll byth bythoedd. Amen.
neu
Bydded i Dduw tangnefedd, yr hwn a ddug yn ôl oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol, eich cyflawni â phob daioni, er mwyn ichwi wneud ei ewyllys ef; a bydded iddo lunio ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo, trwy Iesu Grist, i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
neu
Bydded i Dduw yn ei gariad a’i drugaredd diderfyn ddwyn yr Eglwys gyfan, y byw a’r meirw yn yr Arglwydd Iesu, i atgyfodiad llawen a chyflawniad ei deyrnas dragwyddol. Amen.
Nodiad.
Gellir defnyddioY Gwasanaeth yn yr Eglwys, ar wahân i’r Cyflwyniant, fel Gwasanaeth Coffa. Dylid defnyddio un o’r ffurfiau Diweddglo sy’n dilyn y Cyflwyniant i ddiweddu’r gwasanaeth.
Os bydd pregeth, fe ddaw ar ôl y Llith, neu, osY Cymun Bendigaid fyddY Gwasanaeth yn yr Eglwys, fe ddaw ar ôl yr Efengyl.
TREFN CLADDEDIGAETH PLENTYN - 1984
Gan gyfarfod â’r corff a mynd o’i flaen i’r eglwys neu at ian y bedd, dywed y Gweinidog un neu fwy o'r brawddegau hyn:
Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth.
Myfi yw’r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a’m defaid yn f’adnabod i.
Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw.
Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon. Credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle’r wyf fi.
Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan amlygir hynny, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae.
Os byw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw. Prun bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo’r Arglwydd ydym. Oherwydd pwrpas Crist wrth farw a dod yn fyw oedd bod yn Arglwydd ar y meirw a’r byw.
Yn yr eglwys gellir yn awr weinyddu’r Cymun Bendigaid.
Gellir defnyddio Mathew 18. 1-5, 10 fel Efengyl. Dilynir y Cymun Bendigaid gan y Cyflwyniant.
Os na weinyddir y Cymun Bendigaid, parheir â'r gwasanaeth fel a ganlyn:
Yr Arglwydd / yw fy / Mugail: ni / bydd eisiau / arnaf.
Efe a wna i mi orwedd mewn por/feydd gwelltog: efe a’m tywys ger/llaw y / dyfroedd / tawel.
Efe a / ddychwel . fy / enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyf/iawnder . er / mwyn ei / enw.
Ie pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau nid / ofnaf / niwed: canys yr wyt ti gyda mi * dy wi/alen . a’th / ffon a’m . cy/surant.
Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy / ngwrthwy/nebwyr: iraist fy mhen ag / olew; . fy / ffiol / sydd / lawn.
Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl / ddyddiau . fy / mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr / Arglwydd / yn dra/gywydd.
Yr amser hwnnw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, “Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?” Galwodd Iesu blentyn ato, a’i osod yn eu canol hwy, a dywedodd, “Yn wir, ’rwy’n dweud wrthych, heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd. Pwy bynnag, felly, fydd yn ei ddarostwng ei hun i fod fel y plentyn hwn, dyma’r un sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd. A phwy bynnag sy’n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i. Gwyliwch rhag i chwi ddirmygu un o’r rhai bychain hyn; oherwydd ’rwy’n dweud wrthych fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd.”
Gellir canu emyn.
Yr Arglwydd a fo gyda chwi;
A chyda’th ysbryd dithau.
Gweddïwn.
*Arglwydd, trugarha wrthym.
Crist, trugarha wrthym.
Arglwydd, trugarha wrthym.
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;
gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
Hollalluog Dduw, ein Tad nefol, a addewaist i ni trwy dy Fab Iesu Grist fywyd tragwyddol: dyro inni gredu’n ddiysgog fod y plentyn hwn yn ddiogel yng ngofal dy gariad tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd sy’n byw ac yn teyrnasu gyda’r Tad a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, byth heb ddiwedd. Amen.
Gellir defnyddio rhai o’r Gweddïau a geir o’r blaen naill ai yma neu ar ôl y Traddodiant yn ôl dewis y Gweinidog.
I ti, O Dduw sanctaidd a Thad cariadlon, y cyflwynwn dy blentyn E., a gweddïwn y bydd i ni yn dy amser di dy hun lawenhau gydag ef/gyda hi yn dy deyrnas dragwyddol; trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd. Amen.
*Gellir defnyddio’r Litani Leiaf a Gweddi’r Arglwydd naill ai yn y fan hon, neu yn y lle a nodir wedi’r Traddodiant.
Os bydd y tir heb ei gysegru, dywed yr Offeiriad yn union o flaen y Traddodiant y weddi a geir yn Bendithio’r Bedd.
Yn y lle y rhoddir y corff i’w gladdu dywed y Gweinidog:
Fel y tosturia tad wrth ei blant: felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a’i hofnant ef. Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym. Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe. Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono: a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy. Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb ar y rhai a’i hofnant ef: a’i gyfiawnder i blant eu plant.
Yn ffydd Crist, a chan gredu fod enaid y plentyn hwn yn nwylo Duw, cyflwynwn ei gorff/chorff.
(yn yr amlosgfa)
(ar y môr)
mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i fywyd tragwyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a newidia ein corff gwael ni, fel y bydd yn gyffelyb i’w gorff gogoneddus ef, trwy’r nerth sy’n ei alluogi i ddarostwng pob peth iddo ei hun.
Yna, os na ddywedwyd hyn eisoes yn y Gweddïau, ychwaneger:
Arglwydd, trugarha wrthym.
Crist, trugarha wrthym.
Arglwydd, trugarha wrthym.
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
Gellir defnyddio yma rai o’r Gweddïau a geir o’r blaen, os na ddefnyddiwyd hwy’n barod.
Iddo ef, sydd â’r gallu ganddo i’ch cadw rhag syrthio, a’ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant, iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y byddo gogoniant a mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn yr oesoedd, ac yn awr, ac yn oes oesoedd. Amen.
CLADDU LLWCH WEDI AMGLOSGIAD - 1984
Pan fydd llwch wedi amlosgiad i’w gladdu mewn tir sydd wedi ei gysegru gellir amlosgi heb unrhyw wasanaeth ffurfiol. Yna defnyddier ffurf briodol y Traddodiant i gladdu’r llwch.
Gellir defnyddio’r Gwasanaeth yn yr Eglwys naill ai o flaen yr amlosgiad neu ar ei ôl.
Dylid claddu llwch Cristionogion mewn tir sydd wedi ei gysegru, oddieithr pan gleddir yn y môr. Ni chaniateir i glerigwr yn yr Eglwys yng Nghymru gymryd rhan mewn gwasgaru llwch, ac ni all yntau ychwaith ganiatáu i lwch gael ei wasgaru mewn unrhyw fynwent dan ei ofal.
Pan fydd llwch i’w gladdu, a'r Traddodiant wedi ei ddefnyddio, gall y Gweinidog ddefnyddio’n gyntaf Y Gwasanaeth yn yr Eglwys ynghyd ag unrhyw rai o’r Gweddïau.
Yn y lle y bydd y claddu dywed y Gweinidog:
Gan gredu fod ein brawd/chwaer yn gorffwys yng Nghrist, a chan lawenhau yng nghymun y saint, yr ydym yn traddodi ei lwch/llwch i’r ddaear mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i fywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yna, os na wnaed hyn eisoes, fe ddywedir:
Arglwydd, trugarha wrthym.
Crist, trugarha wrthym.
Arglwydd, trugarha wrthym.
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;
gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
Gellir defnyddio yma rai o’r Gweddïáu a geir or blaen os na ddefnyddiwyd hwy’n barod.
I Frenin tragwyddoldeb, yr anfarwol a’r anweledig a’r unig Dduw, y byddo’r anrhydedd a’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Os bydd y tir heb ei gysegru, defnyddier y weddi hon cyn y Traddodiant.
O Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, bendithia’r bedd hwn yn orffwysfa i gorff dy was/wasanaethferch; trwy dy Fab bendigaid, yr atgyfodiad a’r bywyd, sy’n byw ac yn terynasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, byth heb ddiwedd. Amen.
Y LLITHOEDD
Eithr y mae eneidiau y rhai cyfiawn yn llaw Duw; ac ni chyffwrdd cystudd â hwynt. Y rhai angall oedd yn tybied eu bod hwy yn meirw; a drwg y cyfrifid eu diwedd hwynt, a’u mynediad oddi wrthym ni yn ddinistr: eithr y maent hwy mewn heddwch. Oblegid er eu cystuddio hwy yng ngolwg dynion, y mae eu gobaith hwy yn llawn tragwyddoldeb. A lle y ceryddwyd hwy ychydig, hwy a gânt lawer o fudd: oblegid Duw a’u profodd hwynt, ac a’u cafodd yn addas iddo ei hun. Efe a’u profodd hwynt fel aur yn y ffwrn, ac a’u derbyniodd fel aberth llosg. Ac yn amser eu gofwy hwy a ddisgleiriant, ac a redant i mewn ac allan, fel gwreichion mewn sofl. Hwy a farnant genhedloedd, ac a lywodraethant bobloedd; a’u Harglwydd hwy a deyrnasa byth. Y rhai a ymddiriedant ynddo ef a ddeallant y gwirionedd; a’r rhai ffyddlon mewn cariad a arhosant gydag ef: oblegid gras a thrugaredd sydd i’w saint ef, ac efe a ofala dros ei etholedigion.
Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Yn wir, yn wir, ’rwy’n dweud wrthych fod y sawl sy’n gwrando ar fy ngair i ac yn credu’r hwn a’m hanfonodd i yn meddu ar fywyd tragwyddol. Nid yw’n dod dan gondemniad; i’r gwrthwyneb, y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd.Yn wir, yn wir, ’rwy’n dweud wrthych fod amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y meirw yn clywed llais Mab Duw, a’r rhai sy’n clywed yn cael bywyd. Oherwydd fel y mae gan y Tad fywyd ynddo ef ei hun, felly hefyd rhoddodd i’r Mab gael bywyd ynddo ef ei hun. Rhoddodd iddo hefyd awdurdod i weinyddu barn, am mai Mab y Dyn yw ef. Peidiwch â rhyfeddu at hyn, oherwydd y mae amser yn dod pan fydd pawb sydd yn eu beddau yn clywed ei lais ef ac yn dod allan; bydd y rhai a wnaeth ddaioni yn codi i fywyd, a’r rhai a wnaeth ddrygioni yn codi i farn.” “Bydd pob un y mae’r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf allan byth mo’r sawl sy’n dod ataf fi. Oherwydd yr wyf wedi disgyn o’r nef nid i wneud fy ewyllys fy hun ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i. Ac ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i yw hyn: nad wyf i golli neb o’r rhai y mae ef wedi eu rhoi i mi, ond fy mod i’w hatgyfodi yn y dydd olaf. Oherwydd ewyllys fy Nhad yw hyn: fod pob un sy’n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol. A byddaf fi’n ei atgyfodi ef yn y dydd olaf.”
Dywedodd Iesu wrth yr Iddewon, “Yn wir, yn wir, ’rwy’n dweud wrthych, oni fwytewch gnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, ni bydd gennych fywyd ynoch. Y mae gan yr hwn sy’n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd tragwyddol yn ei feddiant, a byddaf fi’n ei atgyfodi ef yn y dydd olaf. Oherwydd fy nghnawd i yw’r gwir fwyd, a’m gwaed i yw’r wir ddiod. Y mae’r hwn sy’n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. Y Tad byw a’m hanfonodd i, ac yr wyf fi’n byw oherwydd y Tad; felly’n union bydd hwnnw sy’n fy mwyta i yn byw o’m herwydd innau. Dyma’r bara a ddisgynnodd o’r nef. Nid yw hwn fel y bara a fwytaodd y tadau; buont hwy farw. Caiff yr hwn sy’n bwyta’r bara hwn fyw am byth.
Dywedodd Martha wrth Iesu, “Pe buasit ti yma, Syr, ni buasai fy mrawd wedi marw. A hyd yn oed yn awr, mi wn y rhydd Duw i ti beth bynnag a ofynni ganddo.” Dywedodd Iesu wrthi, “Fe atgyfoda dy frawd.” “Mi wn,” meddai Martha wrtho, “y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti’n credu hyn?” “Ydwyf, Arglwydd,” atebodd hithau, “yr wyf fi’n credu mai tydi yw’r Meseia, Mab Duw, yr Un sy’n dod i’r byd.”
Os yw Duw trosom, pwy sydd i’n herbyn? Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef? Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Ai Duw, ac yntau’r un sy’n eu dyfarnu yn ddieuog? Pwy sydd yn ein collfarnu? Ai Crist Iesu, ac yntau’r un a fu farw, yn hytrach, a gyfodwyd, yr un sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom? Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf? Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae’n ysgrifenedig: “Er dy fwyn di, fe’n rhoddir i farwolaeth ar hyd y dydd, fe’n cyfrifir fel defaid i’w lladd.” Ond yn y pethau hyn i gyd yr ydym yn ennill buddugoliaeth lwyr trwy’r hwn a’n carodd ni. Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Yn y lle cyntaf, traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau; iddo gael ei gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau; ac iddo ymddangos i Cephas, ac yna i’r Deuddeg.Yna, ymddangosodd i fwy na phum cant o’r brodyr ar unwaith — ac y mae’r mwyafrif ohonynt yn fyw hyd heddiw, er bod rhai wedi huno. Yna, ymddangosodd i Iago, yna i’r holl apostolion.Yn ddiwethaf oll, fe ymddangosodd i minnau hefyd, fel i ryw erthyl o apostol. Oherwydd y lleiaf o’r apostolion wyf fi, un nad wyf deilwng i’m galw yn apostol, gan i mi erlid eglwys Dduw. Ond trwy ras Duw yr wyf yr hyn ydwyf, ac ni bu ei ras ef tuag ataf yn ofer.Yn wir, mi lafuriais yn helaethach na hwy i gyd — eto nid myfi, ond gras Duw, a oedd gyda mi. Ond prun bynnag ai myfi ai hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwithau.
Yn awr, os pregethir Crist, ei fod wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, sut y mae rhai yn eich plith yn dweud nad oes atgyfodiad y meirw? Os nad oes atgyfodiad y meirw, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith. Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw ein pregethu ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwi. Ceir ein bod yn dystion twyllodrus i Dduw, am ein bod wedi tystiolaethu iddo gyfodi Crist — ac yntau heb wneud hynny, os yw’n wir nad yw’r meirw yn cael eu cyfodi. Oherwydd os nad yw’r meirw yn cael eu cyfodi, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith. Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd, ac yn eich pechodau yr ydych o hyd.Y mae’n dilyn hefyd fod y rhai a hunodd yng Nghrist wedi darfod amdanynt. Os ar gyfer y bywyd hwn yn unig yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, nyni yw’r mwyaf truenus ymhlith dynion. Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno.
Y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno. Gan mai trwy ddyn y daeth marwolaeth, trwy ddyn hefyd y daeth atgyfodiad y meirw. Oherwydd fel y mae pawb yn marw yn Adda, felly hefyd y gwneir pawb yn fyw yng Nghrist. Ond pob un yn ei briod drefn: Crist y blaenffrwyth, ac yna, ar ei ddyfodiad ef, y rhai sy’n eiddo Crist. Yna daw’r diwedd, pan fydd Crist yn traddodi’r deyrnas i Dduw’r Tad, ar ôl iddo ddileu pob tywysogaeth, a phob awdurdod a gallu. Oherwydd y mae’n rhaid iddo ef ddal i deyrnasu nes iddo osod pob gelyn dan ei draed.Y gelyn olaf a ddileir yw angau.
Ond bydd rhywun yn dweud: “Pa fodd y mae’r meirw yn cael eu cyfodi? Â pha fath gorff y byddant yn dod?” Ddyn ynfyd, beth am yr had yr wyt ti yn ei hau? Ni roddir bywyd iddo heb iddo farw yn gyntaf. A’r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd ydyw, ond gronyn noeth, o wenith efallai, neu o ryw rawn arall. Ond Duw, yn ôl ei ewyllys ei hun, sydd yn rhoi corff iddo, i bob un o’r hadau ei gorff ei hun. Oherwydd nid yr un cnawd yw pob cnawd, ond un peth yw cnawd dynion, peth arall yw cnawd anifeiliaid, peth arall yw cnawd adar, a pheth arall yw cnawd pysgod.Y mae hefyd gyrff nefol a chyrff daearol, ond un peth yw gogoniant y rhai nefol, a pheth gwahanol yw gogoniant y rhai daearol. Un peth yw gogoniant yr haul, a pheth arall yw gogoniant y lloer, a pheth arall yw gogoniant y sêr. Yn wir, y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.
Felly hefyd y bydd, gyda golwg ar atgyfodiad y meirw. Heuir mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth. Heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Yn gorff anianol yr heuir ef, yn gorff ysbrydol y cyfodir ef. Os oes corff anianol, y mae hefyd gorff ysbrydol. Felly, yn wir, y mae’n ysgrifenedig: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn fod byw.” Ond daeth yr Adda diwethaf yn ysbryd sydd yn rhoi bywyd. Eithr nid yr ysbrydol sy’n dod gyntaf, ond yr anianol, ac yna’r ysbrydol. Y dyn cyntaf, o’r ddaear y mae, a llwch ydyw; ond yr ail ddyn, o’r nef y mae.
Y mae’r rhai sydd o’r llwch yn debyg i’r dyn o’r llwch, ac y mae’r rhai sydd o’r nef yn debyg i’r dyn o’r nef. Ac fel y bu delw’r dyn o’r llwch arnom, felly hefyd y bydd delw’r dyn o’r nef arnom.
Hyn yr wyf yn ei olygu, frodyr: ni all cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, ac ni all llygredigaeth etifeddu anllygredigaeth. Clywch! Yr wyf yn mynegi dirgelwch i chwi: nid ydym i gyd i huno, ond yr ydym i gyd i gael ein newid, mewn eiliad, ar drawiad amrant, ar ganiad yr utgorn diwethaf. Oherwydd bydd yr utgorn yn seinio, y meirw yn cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau’n cael ein newid. Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan fydd y llygradwy hwn wedi gwisgo anllygredigaeth, a’r marwol hwn wedi gwisgo anfarwoldeb, yna bydd y geiriau hyn sydd yn ysgrifenedig yn dod yn wir: “Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth. O angau, lle mae dy fuddugoliaeth? O angau, lle mae dy golyn?” Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw’r Gyfraith. Ond i Dduw y bo’r diolch, yr hwn sy’n rhoi’r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Felly, fy mrodyr annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.
Gwelais orsedd fawr wen a’r Un oedd yn eistedd arni, hwnnw y ffoesai’r ddaear a’r nef o’i ŵydd a gadael eu lle yn wag. Gwelais y meirw, y rhai mawr a’r rhai bach, yn sefyll o flaen yr orsedd; ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall, sef llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw ar sail yr hyn oedd yn ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd. Ildiodd y môr y meirw oedd ynddo, ac ildiodd Marwolaeth a Thrigfan y Meirw y rhai oedd ynddynt hwy, ac fe’u barnwyd, pob un yn ôl ei weithredoedd.