Rhan Tri:
Litwrgïau ychwanegol ar gyfer amgylchiadau arbennig, wedi eu cymeradwyo gan Fainc yr Esgobion (heb fod yn rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin)
Gweddïau dros blentyn - Gweddïau ar ôl camesgor
Amser o weddi a myfyrdod i’r rhai sy’n methu â bod mewn angladd
Dolen ddefnyddiol:
Gweddïau dros blentyn - Gweddïau ar ôl camesgor
Cymeradwywyd y Litwrgi a gynhwysir gan Fainc yr Esgobion (Mehefin 2015) ac fe’i cynhyrchwyd gan y Comisiwn Sefydlog Ymgynghorol ar Litwrgi i’w ddefnyddio yng ngwasanaethau’r Eglwys yng Nghymru.
Ymgynnull
Yn enw’r Tad
a’r Mab
a’r Ysbryd Glân. Amen.
Cyfarchiad
Duw pob tosturi a gobaith a fo gyda chwi.
A hefyd gyda thi.
Rhagarweiniad
Y mae ein bywydau, a lanwyd unwaith â chymaint o obaith a llawenydd, yn awr wedi eu cyffwrdd â thristwch gan farwolaeth y plentyn bychan hwn. Eto, â chalonnau drylliedig, gallwn ymgysuro yn yr Arglwydd a adnabu’r plentyn hwn (hyd yn oed tra tyfai yng nghroth ei fam/mam) oherwydd Duw yw Arglwydd bywyd.Yn Iesu, a gnawdiwyd yng nghroth Mair (neu: a anwyd o Fair), fe’n harwain ni adref i’r nef. Ac felly gallwn, â ffydd a gobaith, draddodi’r un bychan hwn/fechan hon i ofal cariadus Duw, ei Dad/Thad nefol.
Darlleniad
Gellir defnyddio un neu fwy o’r darlleniadau canlynol neu ddarlleniad priodol arall:
Yna gwelais nef newydd a daear newydd. Clywais lais uchel o’r orsedd yn dweud, “Wele, y mae preswylfa Duw gyda dynion; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy yn Dduw iddynt. Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen.Y mae’r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”Yna dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd, “Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd.”
Codaf fy llygaid tua’r mynyddoedd, o ble y daw cymorth i mi? Daw fy nghymorth oddi wrth yr Arglwydd, creawdwr nefoedd a daear.
Nid yw’n gadael i’th droed lithro, ac nid yw dy geidwad yn cysgu. Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno.
Yr Arglwydd yw dy geidwad, yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw; ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd, na’r lleuad yn y nos. Bydd yr Arglwydd yn dy gadw rhag pob drwg, bydd yn cadw dy einioes.
Bydd yr Arglwydd yn gwylio dy fynd a’th ddod yn awr a hyd byth.
Ymbiliau
O Dduw, yr wyt yn ein hadnabod gorff ac enaid.
Cryfha E. ac E. a dyro iddynt obaith newydd.
Y mae dy law yn fy arwain:
dy ddeheulaw yn fy nghynnal.
Gwyddost pa bryd y byddwn yn codi ac yn mynd i orffwys.
Dyro i’r teulu hwn sicrwydd o'r bywyd tragwyddol.
Y mae dy law yn fy arwain:
dy ddeheulaw yn fy nghynnal.
Adnabuost y plentyn hwn,
hyd yn oed cyn ei fod.
Derbyn ef/hi i’th ofal cariadus.
Y mae dy law yn fy arwain:
dy ddeheulaw yn fy nghynnal.
[Yr wyt wedi cau amdanom yn ôl ac ymlaen.
Gweddïwn dros E.,
a fu’n edrych ymlaen â’r fath lawenydd a chyffro at eni brawd bach/chwaer fach newydd.
Bydded iddo/iddi deimlo agosrwydd dy gariad.
Y mae dy law yn fy arwain:
dy ddeheulaw yn fy nghynnal.]
Y mae dy wybodaeth y tu hwnt i’n deall.
Cymorth ni i ddirnad dy ewyllys
ac i sefyll yn dy ŵydd â pharchedig ofn.
Gweddïwn ar Dduw ein Tad nefol a thosturiol:
Ein Tad,
yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol
a maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw’r deyrnas,
a’r gallu, a’r gogoniant,
yn oes oesoedd. Amen.
neu
Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef.
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;
a maddau inni ein troseddau,
fel yr ŷm ni wedi maddau
i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
a phaid â’n dwyn i brawf,
ond gwared ni rhag yr Un drwg.
Oherwydd eiddot ti yw’r deyrnas
a’r gallu a’r gogoniant
am byth. Amen.
Gweddi ar ôl Camesgor
Arglwydd Dduw,
sy’n llawn tiriondeb a thosturi,
traddodwn i’th gariad yr un bychan hwn/fechan hon.
Er byrred ei fywyd/bywyd,
cofleidia ef/hi yn dy gariad tragwyddol.
Bydded i’w rieni/rhieni,
a dristawyd mor enbyd o golli eu plentyn,
gael gwroldeb a gobaith.
Tywys hwy drwy eu poen a’u galar
i ddyddiau a fydd yn llawn o lawenydd a gorfoledd.
Byddent iddynt oll gwrdd ryw ddydd yn llawenydd a thangnefedd dy deyrnas.
Gofynnwn hyn trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
neu
Dad cariadus,
Ti yw ein noddfa a’n nerth, ein gobaith a’n gofal cyson.
Cysura’r rhieni hyn a dyro iddynt wybod
bod yr un bach/fach y maent yn galaru amdano/amdani
yn awr wedi ei ymddiried/hymddiried i’th ofal cariadus.
Sych bob deigryn o’u llygaid
a chyfnertha eu calonnau drylliedig fel gan ddyheu am fywyd,
y canfyddant gyflawnder yn Iesu dy Fab y mae ei atgyfodiad
yn adfer ein bywydau i ti,
ac yn ein harwain i fywyd nefol.
Trwy’r un Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
neu
Arglwydd Dduw,
mae gorthrwm galar yn drwm ar y rhieni hyn.
Gwyddost eu poen a’r tristwch a deimlant o golli’r plentyn.
Cysura hwy â’r wybodaeth
fod y plentyn yn fyw yn dy ofal cariadus. Gofynnwn hyn trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Bendith
Bydded i’r Arglwydd eich bendithio a’ch cadw;
bydded i’r Arglwydd lewyrchu ei wyneb arnoch a bod yn drugarog wrthych;
bydded i’r Arglwydd edrych arnoch yn gariadus a rhoi i chwi dangnefedd; a bendith Duw hollalluog,
y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân,
a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.
Amser o weddi a myfyrdod i’r rhai sy’n methu â bod mewn angladd
Cymeradwywyd y Litwrgi a gynhwysir gan Fainc yr Esgobion (Mai 2020).
Pan fo rhywun annwyl ac adnabyddus inni yn marw, mae’n bwysig ffarwelio a chofio ac anrhydeddu bywyd a olygai lawer i ni. Ond yn wyneb y sefyllfa bresennol mae nifer a fyddai’n dymuno bod mewn angladd benodol yn cael eu gwahardd. Bydd y drefn fer hon yn gymorth ichi ffarwelio’n ffurfol yn eich cartref.
Wrth ichi ddarllen drwy’r weithred fer hon o addoli a chofio, dywedwch enw’r un a fu farw lle y gwelwch E. Efallai y carech oleuo cannwyll a’i gosod ger llun o’r un a gofir ac, efallai, chwarae darn o gerddoriaeth a olygai lawer iddo/iddi. Oedwch ac eisteddwch yn dawel. Meddyliwch am y rhai sydd yn yr angladd a chyflwynwch hwy i Dduw yn nhawelwch yr eiliad.
Goleuo’r gannwyll
Gallwch ddweud y geiriau hyn wrth oleuo’r gannwyll:
Iesu yw Goleuni’r Byd. Boed i’w oleuni, yn cyfodi mewn gogoniant, chwalu tywyllwch ein calonnau a’n meddyliau.
Rhai geiriau cysurlon o’r Beibl:
Duw'r oesoedd yw dy noddfa, ac oddi tanodd y mae'r breichiau tragwyddol.
Dywedodd Iesu,
“Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni.”
Gweddi Agoriadol
Iesu cariadus, addewaist i’th ddisgyblion y byddet ti gyda hwy bob amser. Cynorthwya ni i wybod dy fod di gyda ni yn awr yn ein tristwch a’n galar. Pan wynebaist y groes dywedaist wrth dy ddisgyblion am beidio â gofidio nac ofni, oherwydd yr oeddet ti yn mynd o’u blaen hwy.Yn hyderus fod E. yn ddiogel yn dy gariad, cynorthwya ni i fod yn gadarn ein ffydd a dyro inni heddwch meddwl. Bydd gyda ni yn ystod yr ysbaid fer hon o fyfyrdod ac amgylcha ni â’th gariad ac â’th dangnefedd, yn awr ac am byth. Amen.
Darllener naill ai Salm 23
Yr Arglwydd yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.
Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision,
a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel, ac y mae ef yn fy adfywio.
Fe'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed,
oherwydd yr wyt ti gyda mi,
a'th wialen a'th ffon yn fy nghysuro.
Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaen yng ngŵydd fy ngelynion;
yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew;
y mae fy nghwpan yn llawn.
Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o'm bywyd,
a byddaf yn byw yn nhŷ'r Arglwydd weddill fy nyddiau.
neu Salm 139. 1-11, 13
Arglwydd, yr wyt wedi fy chwilio a'm hadnabod.
Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi:
yr wyt wedi deall fy meddwl o bell.
Yr wyt wedi mesur fy ngherdded a'm gorffwys:
ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd.
Oherwydd nid oes air ar fy nhafod:
heb i ti, Arglwydd, ei wybod i gyd.
Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen:
ac wedi gosod dy law drosof.
Y mae'r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi:
y mae'n rhy uchel i mi ei chyrraedd.
I ble yr af oddi wrth dy ysbryd?:
I ble y ffoaf o'th bresenoldeb?
Os dringaf i'r nefoedd, yr wyt yno:
os cyweiriaf wely yn Sheol,
yr wyt yno hefyd.
Os cymeraf adenydd y wawr a thrigo ym mhellafoedd y môr:
yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain,
a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.
Os dywedaf, "Yn sicr bydd y tywyllwch yn fy nghuddio:
a'r nos yn cau amdanaf",
Eto nid yw tywyllwch yn dywyllwch i ti:
y mae'r nos yn goleuo fel dydd,
a'r un yw tywyllwch a goleuni.
Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,
ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol:
yr wyt yn fy adnabod mor dda.
Efallai yr hoffech ddarllen, hefyd, un o’r darnauYsgrythurol isod.
Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato. Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn: "Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro. Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear. Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon. Gwyn eu byd y rhai trugarog, oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd. Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw. Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i. Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.
Dywedodd Martha wrth Iesu, "Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw. A hyd yn oed yn awr, mi wn y rhydd Duw i ti beth bynnag a ofynni ganddo." Dywedodd Iesu wrthi, "Fe atgyfoda dy frawd." "Mi wn," meddai Martha wrtho, "y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf." Dywedodd Iesu wrthi, "Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy'n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti'n credu hyn?" "Ydwyf, Arglwydd," atebodd hithau, "yr wyf fi'n credu mai tydi yw'r Meseia, Mab Duw, yr Un sy'n dod i'r byd."
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad. Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe'u hadnabu, a'u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd â'i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer. A'r rhai a ragordeiniodd, fe'u galwodd hefyd; a'r rhai a alwodd, fe'u cyfiawnhaodd hefyd; a'r rhai a gyfiawnhaodd, fe'u gogoneddodd hefyd. O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef? Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r un sy'n dyfarnu'n gyfiawn. Pwy sydd yn ein collfarnu? Crist Iesu yw'r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom. Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf? Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae'n ysgrifenedig: "Er dy fwyn di fe'n rhoddir i farwolaeth drwy'r dydd, fe'n cyfrifir fel defaid i'w lladd." Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy'r hwn a'n carodd ni. Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Amser i fyfyrio
Yn awr treuliwch ychydig o funudau yn myfyrio ar y darlleniadau ac ar unrhyw eiriau sy’n siarad yn arbennig â chi. Trowch eich meddwl at yr un a fu farw. Os ydych gyda phobl eraill efallai yr hoffech rannu atgofion.Ystyriwch pam yr oedd yr ymadawedig mor arbennig i chi, cofiwch am yr hyn a wnaethoch gyda’ch gilydd ac er ei fwyn/mwyn –a’r hyn a wnaeth er eich mwyn chi. Meddyliwch beth y carech ei ddweud pe bai yma’n awr. Fe gofiwch am bethau yr ydych am ddiolch i Dduw amdanynt ac am bethau sy’n flin gennych amdanynt. Bydd tristwch, hefyd, am nad ydych yn gallu bod yn yr angladd. Gallwch offrymu’r meddyliau hyn i gyd i Dduw. Wedi rhai munudau o ddistawrwydd ewch ymlaen â’r gweddïau hyn:
Dad nefol,
diolchwn i ti am ein llunio ar dy ddelw di ac am roddi inni ddoniau a thalentau i’th wasanaethu.
Diolchwn iti am E., am y blynyddoedd a gawsom gyda’n gilydd, am y daioni a welsom ynddo/ynddi,
am y cariad a gawsom ganddo/ganddi.
Dyro inni yn awr nerth a dewrder i’w adael/gadael yn dy ofal, yn hyderus yn dy addewid o fywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yn y weddi hon, pan geir “A. a B.” enwch y rhai hynny sydd, efallai, yn yr angladd.
O Dduw,
rhoddaist ynom anadl einioes a byddwn yn marw yn dy freichiau.
Yn dy dyner drugaredd edrych yn dirion ar A. a B. wrth iddynt ddod ynghyd heddiw i alaru am E.,
i ddiolch am ei fywyd/bywyd ac i’w ymddiried/hymddiried i ti.
Yn ein galar a’n braw cynnal ni a chysura ni; cofleidia ni â’th gariad,
dyro inni obaith yn ein dryswch a gras i ymollwng i fywyd newydd;
trwy Iesu Grist. Amen.
Gweddi’r Arglwydd
Ein Tad,
yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys;
megis yn y nef,
felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol
a maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw’r deyrnas,
a’r gallu, a’r gogoniant,
yn oes oesoedd. Amen.
Dywedir y weddi isod ar ddiwedd gwasanaeth yr angladd i gyflwyno’r ymadawedig i gariad a gofal Duw am byth. Terfynwn yr amser byr hwn o fyfyrdod â’r weddi arbennig hon:
O Dduw ein crëwr a’n gwaredwr,
trwy dy allu gorchfygodd Crist farwolaeth
a mynd i mewn i’w ogoniant.
Yn llawn hyder yn ei fuddugoliaeth a chan hawlio ei addewidion,
ymddiriedwn E. i’th ofal yn enw Iesu ein Harglwydd,
a fu farw ac sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn awr a byth. Amen.
Gweddïau i gloi
O Arglwydd, cynnal ni trwy gydol dydd ein bywyd blin,
hyd onid estynno’r cysgodion a dyfod yr hwyr,
distewi o ddwndwr byd, tawelu o dwymyn bywyd, a gorffen ein gwaith.
Yna, Arglwydd, yn dy drugaredd dyro inni breswylfa ddiogel,
gorffwysfa sanctaidd a thangnefedd yn y diwedd;
trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Arhosed cariad a chymorth Duw gyda ni am byth, a gorffwysed E.,
a’r holl ffyddloniaid ymadawedig mewn tangnefedd byth bythoedd. Amen.