Rhan Dau:
Nodiadau, gwasanaethau ychwanegol, deunydd ychwanegol a samplau o wasanaethau
I. Nodiadau ar Y Gwasanaeth Angladd
II. Gwasanaeth yn y Cartref Cyn yr Angladd
III. Derbyn yr Arch i’r Eglwys Cyn yr Angladd
VI. Rhagarweiniad Bugeiliol i’r Gwasanaeth Angladd
VII. Amlinelliad o’r Drefn ar gyfer Angladdau
X. Gwasanaeth yn y Cartref ar ôl yr Angladd
XII. Gweddïau mewn Gwasanaethau Angladd a Choffa
XIII. Darlleniadau o’r Beibl a Salmau i’w Defnyddio mewn Gwasanaethau Angladd a Gwasanaethau Coffa
XIV. Cantiglau i’w Defnyddio mewn Gwasanaethau Angladd a Choffa
XV. Detholiad o Emynau ac Anthemau i’w Defnyddio mewn Gwasanaethau Angladd a Gwasanaethau Coffa
I. Nodiadau ar Y Gwasanaeth Angladd
1) Brawddegau
Gellir dweud brawddegau o’r Ysgrythur wrth ddod i mewn, ar ôl y Rhagarweiniad, neu mewn mannau priodol eraill.
2) Derbyn yr Arch
Gellir derbyn yr arch i’r eglwys ar ddechrau’r gwasanaeth, neu’n gynt yn y dydd, neu ar y diwrnod cyn yr angladd. Gellir gosod Cannwyll y Pasg wrth yr arch, a gellir ei chario o flaen yr arch wrth fynd i mewn i’r eglwys. Gellir taenellu’r arch â dŵr wedi ei fendithio wrth fynd â hi i mewn. Gellir hefyd wneud hynny yn ystod y Cyflwyniant neu’r Traddodiant. Gall y teulu, cyfeillion neu aelodau o’r gynulleidfa osod gorchudd galar dros yr arch yn yr eglwys. Gellir gosod symbolau priodol o fywyd a ffydd yr ymadawedig ar yr arch neu’n agos ati cyn neu ar ddechrau’r gwasanaeth, neu ar ôl y weddi a’r emyn agoriadol. Ceir cyfnod o ddistawrwydd. Wrth daenellu, neu osod y gorchudd galar neu’r symbolau, gellir dweud y geiriau yn Adran VIII isod.
3) Ymatebion
Mae’r ymatebion cynulleidfaol yn ddewisol, ac eithrio pan fo’r gwasanaeth angladd yn digwydd yng nghyd-destun y Cymun Bendigaid.
4 ) Emynau, Salmau a Darlleniadau.
Awgrymir mannau lle y gellir canu emyn, ond gellir gwneud hynny mewn unrhyw fan addas. Darperir detholiad o emynau ac anthemau yn Adran XV isod. Fel rheol, dylid dewis Salmau a Darlleniadau o blith y rhai sydd yn Rhan 1, neu yn Adran XIII isod. Fel rheol, dylid dewis salm. Gall fod ar ffurf fydryddol neu ar ffurf emyn neu gellir defnyddio cân ysgrythurol. Am Gantiglau gweler Adran XIV isod. Rhaid cynnwys darlleniad o’r Beibl bob amser. Gellir darllen testunau priodol heb fod o’r Beibl cyn y Deyrnged.
5) Pregeth a Theyrnged
Prif bwrpas y Bregeth yw cyhoeddi Efengyl marwolaeth ac atgyfodiad Crist yng nghyd-destun marwolaeth yr ymadawedig ac fe ddylai gweinidog awdurdodedig ei phregethu. Gellir traddodi teyrnged addas, yn fwyaf priodol ar ddechrau’r gwasanaeth. Gellir darllen testun cymwys heb fod o’r Beibl fel y barno’r gweinidog yn ddoeth.
6) Credo
Gellir dweud Credo awdurdodedig neu Ddatganiad awdurdodedig o’r Ffydd ar ôl y Bregeth.
7) Y Traddodiant
Defnyddir y Traddodiant yn y man lle bo’i angen, er enghraifft:
(a) wrth gladdu corff mewn mynwent neu fynwent eglwys;
(b) wrth gladdu llwch pan ddigwydd hynny ar yr un dydd â’r amlosgi neu drannoeth; mewn achos o’r fath, defnyddir yn yr amlosgfa y weddi “os yw’r Traddodiant i ddilyn wrth Gladdu Llwch wedi Amlosgiad”;
(c) yn yr amlosgfa pan nad yw claddu’r llwch i ddilyn yn union wedyn;
(ch) wrth gladdu llwch wedi amlosgiad heb unrhyw wasanaeth ffurfiol;
(d) pan gleddir y môr;
(dd) pan osodir y corff neu’r llwch mewn claddgell, beddadail neu fedd brics; mewn achos o’r fath, gellir defnyddio’r geiriau hyn i’r Traddodiant: “Yr ydym wedi ymddiried ein brawd/chwaer i drugaredd Duw, ac yr ydym yn awr yn traddodi ei gorff/chorff i’w orffwysfan olaf”. Darperir ffurfiau ar gyfer y Cyflwyniant a’r Traddodiant, ond gellir defnyddio ffurfiau awdurdodedig eraill pan fo galw.
8) Claddu Gweddillion
Dylid claddu gweddillion Cristnogion mewn tir cysegredig, ac eithrio pan gleddir y môr. Gan inni yn ein bedydd gael ein claddu gyda Christ, y mae’n addas fod claddedigaeth yn ein hatgoffa o’r atgyfodiad yr ydym yn ei rannu ag ef. Mae claddu’r gweddillion yn sicrhau ffordd barchus o ymadael â’r corff ac, o’i osod mewn cyd-destun Cristnogol â gweddïau addas, rhydd gynhaliaeth fugeiliol i’r teulu a lle ar gyfer gweddïo a choffáu yn y broses hir o alaru.
Ni ddylai Clerig na Darllenydd yn yr Eglwys yng Nghymru gymryd rhan mewn gwasgaru gweddillion, ac ni ddylai Clerig ganiatáu gwasgaru gweddillion oddi mewn i unrhyw fynwent yn ei ofal.
9) Y Gwasanaeth Angladd oddi mewn i’r Cymun Bendigaid
Y mae’r Nodiadau ar y Drefn ar gyfer y Cymun Bendigaid a’r Nodiadau ar y Gwasanaeth Angladd yr un mor berthnasol â’i gilydd i’r gwasanaeth hwn. Awgrymir testunau mewn gwahanol fannau, ond gellir defnyddio testunau eraill.Yn Litwrgi’r Gair dylid bod un neu ddau ddarlleniad o’r Beibl a darlleniad o’r Efengyl yn dilyn.
II. Gwasanaeth yn y Cartref Cyn yr Angladd
Gellir canu emynau lle bo’n briodol.
Paratoad
Yn ein galar y mae’r Arglwydd yn ein plith ac yn ein cysuro â’i air:
Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro.
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy’n trugarhau a’r Duw sy’n rhoi pob diddanwch. Y mae’n ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau, trwy’r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu’r rhai sydd dan bob math o orthrymder.
Nid ydym i gyd i huno, ond yr ydym i gyd i gael ein newid. Oherwydd bydd yr utgorn yn seinio, y meirw’n cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau’n cael ein newid. Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, a’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb.
Nid ydym i gyd i huno, ond yr ydym i gyd i gael ein newid.
Gellir defnyddio’r darlleniadau hyn neu ddarlleniadau addas eraill:
1 Thesaloniaid 4. 13-15
Salm 121
Ioan 11. 21-25
Gweddïau
O Dduw, rhoddaist ynom anadl einioes ac,
wrth i ti ei gymryd ymaith,
byddwn yn marw yn dy freichiau.
Yn ein galar a’n braw cynnal a chysura ni;
cofleidia ni â’th gariad,
dyro inni obaith yn ein dryswch
a gras i ildio i fywyd newydd;
trwy Iesu Grist. Amen.
Gall y gweddïau hyn neu weddïau eraill ddilyn:
Dad nefol,
ti yw ein noddfa a’n nerth.
Cynorthwya a chysura ni heddiw:
cryfha ein ffydd, dilea ein hofnau, adnewydda ein gobaith.
Arweinied yr Ysbryd Glân ni o dywyllwch ein galar i oleuni dy bresenoldeb;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Dduw pob diddanwch,
yn dy gariad a’th drugaredd diderfyn
yr wyt yn troi tywyllwch marwolaeth yn wawr bywyd newydd.
Trwy farw drosom gorchfygodd dy Fab farwolaeth
a thrwy gyfodi drachefn adferodd inni fywyd tragwyddol.
Bydded inni felly fynd rhagom yn eiddgar i gwrdd â’n Hiachawdwr
ac, wedi ein bywyd ar y ddaear,
ein haduno â’n holl frodyr a’n chwiorydd yn dy deyrnas dragwyddol,
lle y sychir ymaith bob deigryn ac y gwneir pob peth yn newydd;
trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Dduw cariadus,
galluoga ni i glywed y newyddion da
am drechu angau ac adnewyddu bywyd:
fel, a ninnau’n wynebu dirgelwch marwolaeth,
y cawn gipolwg ar oleuni tragwyddoldeb;
trwy Grist ein Hiachawdwr atgyfodedig. Amen.
Diweddglo
Iddo ef, sydd â’r gallu ganddo i’ch cadw rhag syrthio,
a’ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant,
iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr,
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
y byddo gogoniant a mawrhydi,
gallu ac awdurdod,
cyn yr oesoedd,
ac yn awr, a byth bythoedd. Amen.
III. Derbyn yr Arch i’r Eglwys Cyn yr Angladd
Gellir derbyn yr arch i’r eglwys ar ddechrau’r Gwasanaeth Angladd, neu’n gynt yn y dydd, neu ar y diwrnod cyn yr angladd. Dylid gosod Cannwyll y Pasg wrth ben uchaf yr arch.
Derbyn yr Arch
Y mae’r gweinidog yn derbyn yr arch wrth ddrws yr eglwys ac yn dweud:
Derbyniwn gorff ein brawd/chwaer E. gan ymddiried yn Nuw, rhoddwr bywyd, a gyfododd yr Arglwydd Iesu o blith y meirw.
Gellir taenellu’r arch â dŵr a fendithiwyd, a dweud y geiriau hyn:
Â’r dŵr hwn dygwn i gof fedydd E. Fel yr aeth Crist trwy ddyfroedd dyfnion marwolaeth er ein mwyn, felly dyged ni i gyflawnder bywyd yr atgyfodiad gyda E. a phawb a waredwyd.
neu
Caniatâ, O Arglwydd, i ni a fedyddiwyd i farwolaeth dy Fab ein Hiachawdwr Iesu Grist, farwhau’n wastad ein dymuniadau llygredig, a chael ein claddu gydag ef; a, thrwy’r bedd a phorth angau, yr awn rhagom i’n
hatgyfodiad llawen; trwy ei haeddiannau ef, a fu farw, ac a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn, dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gellir defnyddio’r brawddegau a ganlyn, neu frawddegau addas eraill o’r Ysgrythur.
Gall y gweinidog ychwanegu ‘Alelwia’ at unrhyw un o’r brawddegau hyn.
Ioan 11. 25, 26
Rhufeiniaid 8. 38, 39
1 Thesaloniaid 4. 14, 17b, 18
1 Timotheus 6. 7; Job 1. 21b
Galarnad 3. 22, 23
Mathew 5. 4
Ioan 3. 16
Pan fo’r arch yn ei lle, y mae’r gweinidog yn gweddïo gan ddweud y geiriau a ganlyn neu eiriau addas eraill:
Dduw ein Tad,
trwy gyfodi Crist dy Fab dinistriaist rym marwolaeth ac agor inni’r ffordd i fywyd tragwyddol.
A ninnau’n cofio ger dy fron ein brawd/chwaer E.,
gofynnwn am dy gymorth i bawb a ddaw ynghyd i’w goffáu/ choffáu.
Dyro inni sicrwydd o’th bresenoldeb a’th ras,
trwy’r Ysbryd a roddaist inni yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gall aelodau o’r teulu, cyfeillion neu aelodau o’r gynulleidfa osod gorchudd galar dros yr arch, a gellir dweud y geiriau hyn:
Yr ydym eisoes yn blant Duw, ond nid amlygwyd eto beth a fyddwn.
Yr ydym yn gwybod, pan fydd Crist yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae.
neu
Ar Fynydd Seion fe ddifa Duw y gorchudd o alar a daenwyd dros yr holl bobloedd.
Llyncir angau mewn buddugoliaeth a sychir ymaith y dagrau oddi ar bob wyneb.
Gellir gosod Beibl ar yr arch, a gellir dweud y geiriau hyn:
O Arglwydd Iesu Grist,
dwg dy air bywiol ac anfarwol ni i enedigaeth newydd.
Yn y Beibl datgenir dy addewidion tragwyddol i ni ac i E.
Gellir gosod croes ar yr arch, a gellir dweud y geiriau hyn:
O Arglwydd Iesu Grist,
o gariad at E. ac at bob un ohonom dygaist ein pechodau ar y groes.
Darlleniadau a Gweddïau
Dad nefol,
fe’n gwnaethost nid i dywyllwch a marwolaeth,
ond i fyw gyda thi am byth.
Hebot ti nid oes gennym ddim i obeithio amdano;
gyda thi, nid oes gennym ddim i’w ofni.
Llefara wrthym yn awr eiriau dy fywyd tragwyddol.
Cyfod ni o boen meddwl
ac euogrwydd i oleuni a thangnefedd dy bresenoldeb,
a gosod ogoniant dy gariad o’n blaen;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gellir darllen Ioan 14. 1-6 neu ddarlleniadau addas eraill, ynghyd â salmau a gweddïau; hefyd gellir cael cyfnod o ddistawrwydd.
Hollalluog Dduw,
yr wyt yn caru pob peth a wnaethost ac yn ein barnu â thrugaredd a chyfiawnder diderfyn.
Llawenhawn yn dy addewidion o faddeuant a thangnefedd i bawb sy’n dy garu.
Yn dy drugaredd tro nos marwolaeth yn wawrddydd bywyd newydd a galar ein gwahanu yn llawenydd y nefoedd;
trwy ein Hiachawdwr Iesu Grist, a fu farw ac a gyfododd drachefn ac sy’n byw byth bythoedd. Amen.
Gweddi i Gloi
Dywed y gweinidog un neu ragor o’r gweddïau hyn:
Bu farw E. yn nhangnefedd Crist.
Wrth inni adael ei gorff/chorff yma,
ymddiriedwn ef/hi, mewn gobaith a ffydd yn y bywyd tragwyddol,
i gariad a thrugaredd ein Tad,
ac amgylchwn ef/hi â’n cariad a’n gweddïau.
(Yn ei fedydd/bedydd, fe’i gwnaed trwy fabwysiad yn blentyn Duw.)
(Yn y Cymun, fe’i cynhaliwyd ac fe’i porthwyd.Y mae
Duw yn awr yn ei groesawu/chroesawu i’w fwrdd yn y nefoedd i rannu bywyd tragwyddol â’i holl saint.)
Dduw pob diddanwch,
torrodd dy Fab Iesu Grist i wylo wrth fedd Lasarus ei ffrind.
Edrych yn drugarog ar dy blant yn eu colled; dyro i galonnau gofidus oleuni gobaith
a chryfha ynom ddawn ffydd
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Arglwydd Dduw hollalluog yw ein Tad:
y mae’n ein caru ac yn gofalu’n dyner amdanom.
Yr Arglwydd Iesu Grist yw ein Gwaredwr:
fe’n prynodd ac fe’n hamddiffyn hyd y diwedd.
Y mae’r Arglwydd, yr Ysbryd Glân, yn ein plith:
bydd yn ein harwain yn ffordd sanctaidd Duw.
I Dduw Hollalluog, Tad, Mab ac Ysbryd Glân:
y byddo’r moliant a’r gogoniant yn awr a hyd byth. Amen.
Gall y gwasanaeth ddiweddu â chyfnod o ddistawrwydd.
IV. Gwylfa Angladd
Gall yr wylfa fod yn rhan o wasanaeth yn yr eglwys cyn yr Angladd, neu’n wasanaeth ar wahân. Gall fod yn yr eglwys, yn y cartref, neu mewn man addas arall, megis capel ysbyty. Gellir hefyd ei harfer gydag aelodau o’r teulu neu gyfeillion agos na allant, oherwydd gwaeledd neu resymau o’r fath, ddod i’r Angladd. Os yw’r wylfa yn rhan o wasanaeth arall, gellir hepgor y DodYnghyd a’r Diweddglo.
Y Dod Ynghyd
Arglwydd, agor ein gwefusau:
a’n genau a fynega dy foliant.
Bendigedig wyt ti, Dduw trugaredd a chariad,
bugail ac amddiffynnydd dy bobl alarus,
eu dechrau a’u diwedd.
Arwain ni i fan lle y mae tangnefedd ac adfywhad;
tywys ni at ffynhonnau’r dyfroedd bywiol;
sych ymaith bob deigryn o’n llygaid a dwg ni i’r nefoedd
lle nad oes marw mwyach, na galar, nac wylo, na phoen yn dy bresenoldeb di,
Dad, Mab ac Ysbryd Glân:
Bendigedig fyddo Duw am byth.
Iesu Grist ddoe a heddiw,
y dechrau a’r diwedd,
yr Alffa a’r Omega;
iddo ef y perthyn yr holl amseroedd a’r oesoedd;
iddo ef y bo’r gogoniant a’r gallu
ym mhob oes ac am byth. Amen.
Os goleuir canhwyllau:
Bydded i oleuni Crist, yr hwn sy’n cyfodi mewn gogoniant, ymlid pob tywyllwch o’n calonnau a’n meddyliau.
Darlleniad neu Ddarlleniadau Addas
Y mae awgrymiadau yn dilyn. Sicrwydd a Diddanwch:
Eseia 61. 1-3: Cysuro pawb sy’n galaru.
Salm 139
Salm-weddi:
Arglwydd,
ti sydd wedi ein creu a’n llunio,
yr wyt wedi ein chwilio a’n hadnabod,
yr wyt bob amser gyda ni mewn goleuni a thywyllwch:
cynorthwya ni i adnabod dy bresenoldeb yn y bywyd hwn ac,
yn y bywyd a ddaw, i barhau i fod gyda thi,
lle’r wyt yn fyw ac yn teyrnasu, yn Dduw am byth. Amen.
1 Pedr 1. 3-9: Ganwyd ni o’r newydd i obaith bywiol.
Cantigl: Cân Plant Duw
Ioan 14. 1-6: Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau.
Ffyddlondeb Duw:
Eseia 53.1-10: Y gwas dioddefus.
Salm: 116. 1-8 (9-17)
Salm-weddi:
Arglwydd bywyd,
rhodiwn drwy dragwyddoldeb yn dy bresenoldeb.
Arglwydd marwolaeth,
galwn arnat yn ein gofid a’n galar:
ac yr wyt ti yn ein clywed a’n hachub.
Gwylia drosom wrth inni alaru am dy was/wasanaethferch,
sy’n werthfawr werthfawr yn dy olwg,
a chadw ni’n ffyddlon i ti. Amen.
Rhufeiniaid 8. 31-diwedd: Ni all dim ein gwahanu oddi wrth gariad Crist.
Datguddiad 21. 1-7: Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd.
Cantigl: Cân y Rhai a Gyfiawnhawyd.
Ioan 6. 35-40 (53-58): Bydd pob un y mae’r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi.
Gobaith am y Nefoedd:
Doethineb Solomon 3. 1-5, 9: Y mae eneidiau’r cyfiawn yn llaw Duw
Salm: 25. 1-9.
Salm-weddi:
Dduw ein hiachawdwriaeth,
yn ein galar dyrchafwn ein calonnau atat ti
a rhoddwn ein ffydd ynot ti.
Tosturia wrthym, maddau inni, a châr ni hyd dragwyddoldeb,
dysg ni a thywys ni ar y ffordd sydd o’n blaen
yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Amen.
Rhufeiniaid 8. 18-25 (26-30): Y gogoniant sydd i ddod.
Datguddiad 21. 22-diwedd; 22. 3b-5: Yr Arglwydd Dduw fydd eu goleuni.
Cantigl: Cân o Ffydd.
Ioan 14. 1-6: Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau.
Y Pasg:
Job 19. 23-27: Gwn fod fy Amddiffynnwr yn fyw.
Salm: 32
Salm-weddi:
Arglwydd, ein cysgod mewn cyfyngder,
dygi ein heuogrwydd i gof.
Y mae dy law yn drwm arnom;
sychwyd ein nerth
ac yr ydym yn cydnabod yn agored ein heuogrwydd.
Amgylcha ni â’th drugaredd.
Dysg ni i ymddiried ynot,
a dwg ni yn y diwedd i lawenhau yn dy bresenoldeb am byth. Amen.
2 Timotheus 2. 8-13: Os buom farw gydag ef, byddwn fyw hefyd gydag ef.
Cantigl: Cân y Rhai a Brynwyd.
Ioan 11. 17-27: Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd.
Yr Adfent:
Daniel 12. 1-3 (5-9): Pob un yr ysgrifennwyd ei enw yn y llyfr.
Salm: 27
Salm-weddi:
O Dduw ein hamddiffynnwr,
dyro inni oleuni gwirionedd a doethineb
fel y gosodwn ein holl obaith yn ddiysgog arnat ti a’th Fab, Iesu Grist. Amen.
Cantigl: Cân Manasse
Mathew 25. 31-diwedd: Y farn olaf
Marwolaeth Annisgwyl:
Doethineb Solomon 4. 8-11, 13-15: Nid hirhoedledd sy’n rhoi ei werth i henaint.
Salm 6
Salm-weddi:
O Arglwydd,
pylodd ein llygaid gan ofid;
gwyddost ein bod wedi diffygio gan ein cwynfan.
A ninnau, yng ngwacter tywyll y nos yn cofio am ein marwolaeth
trugarha wrthym ac iachâ ni; maddau inni a dwg ymaith ein hofn
trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu dy Fab. Amen.
2 Corinthiaid 4. 7-15: Dygwn yn ein corff farwolaeth Iesu.
Cantigl: Nunc Dimittis (Cân Simeon).
Luc 12. 35-40: Dyfodiad Mab y Dyn.
Plentyn:
2 Samuel 12. 16-23: Marw mab Dafydd.
Salm 38. 9-diwedd
Salm-weddi:
Arglwydd,
trugarha wrth y sawl sy’n galaru ar hyd y dydd,
wedi eu llethu gan faich o ofid,
eu nerth yn pallu,
a’u cyfeillion a’u cymdogion wedi cilio.
Gwyddost am ein holl ocheneidio a’n dyheu:
bydd yn agos atom a dysg i ni obeithio ynot ti;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Doethineb Solomon: 4. 8-11, 13-15: Nid hirhoedledd sy’n rhoi ei werth i henaint.
Cantigl: Cân Sant Anselm.
Luc 12. 35-40: Dyfodiad Mab y Dyn.
Gweddi i Gloi
Dywed y gweinidog y geiriau hyn neu ddiweddglo addas arall:
Yr Arglwydd Dduw hollalluog yw ein Tad:
y mae’n ein caru ac yn gofalu’n dyner amdanom.
Yr Arglwydd Iesu Grist yw ein Gwaredwr:
fe’n prynodd a bydd yn ein hamddiffyn hyd y diwedd.
Y mae’r Arglwydd, yr Ysbryd Glân, yn ein plith:
bydd yn ein harwain yn ffordd sanctaidd Duw.
I Dduw Hollalluog, Tad, Mab ac Ysbryd Glân:
y byddo’r moliant a’r gogoniant yn awr a hyd byth. Amen.
V. Ar Fore’r Angladd
Bwriedir i’r gwasanaeth hwn gynnig ysbaid i gofio cyn mynd i’r Angladd. Gall cyfaill, aelod o’r teulu neu weinidog ei arwain.
Paratoad
Wrth inni gychwyn ar ein taith heddiw, gweddïwn am bresenoldeb Crist, a aeth y ffordd hon o’n blaen.
Arglwydd Iesu, dangosaist inni’r ffordd at y Tad:
Arglwydd, trugarha.
Arglwydd Iesu, y mae dy air yn llewyrch i’n llwybr:
Crist, trugarha.
Arglwydd Iesu, ti yw’r bugail da sydd yn ein tywys i fywyd tragwyddol:
Arglwydd, trugarha.
Y Gair
Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.
Dywedais, "Yr Arglwydd yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho." Da yw'r Arglwydd i'r rhai sy'n gobeithio ynddo, i'r rhai sy'n ei geisio.Y mae'n dda disgwyl yn dawel am iachawdwriaeth yr Arglwydd.
Oherwydd nid yw'r Arglwydd yn gwrthod am byth; er iddo gystuddio, bydd yn trugarhau yn ôl ei dosturi mawr, gan nad o'i fodd y mae'n dwyn gofid ac yn cystuddio pobl.
Gweddi
Dad nefol,
fe’n gwnaethost nid i dywyllwch a marwolaeth,
nd i fyw gyda thi am byth.
Hebot ti nid oes gennym ddim i obeithio amdano;
gyda thi, nid oes gennym ddim i’w ofni.
Llefara wrthym yn awr eiriau dy fywyd tragwyddol.
Cyfod ni o boen meddwl ac euogrwydd i oleuni a thangnefedd dy bresenoldeb,
a gosod ogoniant dy gariad o’n blaen;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen
VI. Rhagarweiniad Bugeiliol i’r Gwasanaeth Angladd
Y mae cariad a gallu Duw yn ymestyn dros y greadigaeth gyfan. Yng ngolwg Duw mae pob bywyd yn werthfawr. Cred y Cristion bob amser yw bod gobaith mewn angau fel sydd mewn bywyd, a bod bywyd newydd yng Nghrist y tu draw i farwolaeth.
Dywedodd Iesu,
“Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth”.
Y mae gwir ymdeimlad o golled pan fydd farw un sy’n annwyl gennym. Fe fydd gan bawb ohonom ein profiadau ein hunain o’r ymadawedig ac atgofion a theimladau gwahanol o gariad, galar a pharch. Dylai cydnabod hyn ar ddechrau’r gwasanaeth ein cynorthwyo i fynegi ein ffydd a’n teimladau wrth ffarwelio. Dylai hefyd ein cynorthwyo i gydnabod ein colled a myfyrio ar ein meidroldeb ni ein hunain. Y mae angen cefnogaeth a chysur ar y rhai sy’n galaru. Y mae ein presenoldeb ni yma heddiw yn rhan o’r gefnogaeth gyson honno.
VII. Amlinelliad o’r Drefn ar gyfer Angladdau
Y Dod Ynghyd
1) Gall y gweinidog dderbyn yr arch wrth y drws.
2) Gellir darllen brawddegau o’r ysgrythur.
Cyflwyniad
3) Mae’r gweinidog yn croesawu’r bobl ac yn cyflwyno’r gwasanaeth.
4) Gellir canu emyn.
5) Dywedir y Colect.
Darlleniadau a Phregeth
6) Defnyddir un neu fwy o ddarlleniadau o’r Beibl.
7) Gall Salmau neu emynau ddilyn y darlleniadau.
8) Gellir traddodi pregeth.
Gweddïau
9) Mae’r gweddïau fel arfer yn dilyn y drefn hon:
- † Diolchgarwch am fywyd yr ymadawedig.
- † Gweddi dros y rhai sy’n galaru.
- † Gweddi am y parodrwydd i fyw yng ngoleuni. tragwyddoldeb.
10) Gellir canu emyn.
Cyflwyniant a Ffarwelio
11) Cyflwynir yr ymadawedig i Dduw.
Y Traddodiant
12) Traddodir y corff i’w orffwysfan.
Yr Anfon Allan
13) Gellir adrodd Gweddi’r Arglwydd.
14) Gellir defnyddio’r Nunc Dimittis.
15) Gellir dweud gweddïau addas.
16) Gall y gwasanaeth orffen â bendith.
Os bydd y Gwasanaeth Angladd yn digwydd mewn gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid, dilynir yr adrannau priodol ar gyfer y rhan honno o’r gwasanaeth.
VIII. Testunau Atodol
Brawddegau
Dengys Duw inni lwybr bywyd;
yn ei bresenoldeb ef y mae digonedd o lawenydd,
ac yn ei ddeheulaw fwyniant bythol.
O’r dyfnderau y gwaeddais arnat,
O Arglwydd. Arglwydd, clyw fy llef;
bydded dy glustiau’n agored i lef fy ngweddi.
Gwn fod fy Mhrynwr yn fyw,
ac y saif yn y diwedd ar y ddaear;
ac wedi i’m croen ddifa fel hyn,
eto o’m cnawd caf weld Duw.
Fe’i gwelaf ef o’m plaid;
ie, fy llygaid fy hun a’i gwêl, ac nid yw’n ddieithr.
Gan inni gredu i Iesu farw ac atgyfodi,
felly hefyd credwn y bydd Duw, gydag ef,
yn dod â’r rhai a hunodd drwy Iesu.
Ac felly byddwn gyda’r Arglwydd yn barhaus.
Calonogwch eich gilydd, felly, â’r geiriau hyn.
Ni ddaethom â dim i’r byd,
ac felly hefyd ni allwn fynd â dim allan ohono.
Yr Arglwydd a roddodd,
a’r Arglwydd a ddygodd ymaith.
Bendigedig fyddo enw’r Arglwydd.
Mewn gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid:
Dywedodd Iesu:
“Y mae gan y sawl sy’n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd tragwyddol, a byddaf fi’n ei atgyfodi yn y dydd olaf.” (Alelwia!)
Salm 46. 1
Pregethwr 5. 15, 16
Galarnad 3. 22, 23
Mathew 5. 4
Mathew 25. 34
Luc 23. 43
Ioan 3. 16
Ioan 6. 40
Ioan 11. 25, 26
Ioan 14. 2, 3
Rhufeiniaid 8. 38, 39
1 Corinthiaid 2. 9-10a
1 Corinthiaid 15. 25, 26
2 Corinthiaid 1. 3, 4
2 Corinthiaid 5. 1
Rhai testunau y gall y gweinidog eu defnyddio:
Derbyn yr Arch
Derbyniwn gorff ein brawd/chwaer E.
â hyder yn Nuw, rhoddwr bywyd,
a gyfododd yr Arglwydd Iesu o blith y meirw.
Taenellu Dŵr a Fendithiwyd ar yr Arch
Â’r dŵr hwn dygwn i gof fedydd E.
Megis yr aeth Crist trwy ddyfroedd dyfnion marwolaeth er ein mwyn,
felly dyged ni i gyflawnder bywyd yr atgyfodiad gyda E. a phawb a brynwyd.
neu
Caniatâ, O Arglwydd,
i ni a fedyddiwyd i farwolaeth
dy Fab ein Hiachawdwr Iesu Grist,
farwhau’n wastad ein dymuniadau llygredig,
a chael ein claddu gydag ef;
a, thrwy’r bedd a phorth angau,
yr awn rhagom i’n hatgyfodiad llawen;
trwy ei haeddiannau ef, a fu farw,
ac a gladdwyd,
ac a gyfododd drachefn er ein mwyn,
dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
osod Gorchudd Galar dros yr Arch
Yr ydym eisoes yn blant Duw,
ond nid amlygwyd eto beth a fyddwn.
Yr ydym yn gwybod,
pan fydd Crist yn ymddangos,
y byddwn yn debyg iddo,
oherwydd cawn ei weld ef fel y mae.
neu
Ar Fynydd Seion fe symuda Duw y gorchudd o alar sydd dros yr holl genhedloedd.
Fe ddinistria angau am byth,
a sychu ymaith y dagrau oddi ar bob wyneb.
Gosod Beibl ar yr Arch
O Arglwydd Iesu Grist,
dwg dy air bywiol ac anfarwol ni i enedigaeth newydd.
Yn y Beibl datgenir dy addewidion tragwyddol i ni ac i E.
Gosod Croes ar yr Arch
O Arglwydd Iesu Grist,
o gariad at E. ac at bob un ohonom dygaist ein pechodau ar y groes.
Bendithio Bedd
O Dduw,
y gosodwyd dy Fab Iesu Grist mewn bedd:
gweddïwn ar i ti fendithio’r bedd hwn
fel y bo’n breswylfa dawel lle gall corff E.
dy was/wasanaethferch orffwys mewn tangnefedd,
trwy dy Fab, yr atgyfodiad a’r bywyd;
a fu farw ac sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi yn awr a hyd byth. Amen.
IX. Angladd Plentyn
Nodiadau
- Y mae’r Nodiadau cyffredinol ar y Gwasanaeth Angladd (adran I) a Strwythur y Drefn ar gyfer Gwasanaethau Angladd (adran VII) yr un mor berthnasol i’r gwasanaeth hwn.
- Dylid croesawu presenoldeb plant bach yn angladd plentyn, a dylid bod yn effro i’w hanghenion.Y mae’n gymorth arbennig os oes oedolyn addas a all ofalu am y plant i gyd.
- Dylid sicrhau ei bod yn glir pwy sy’n llywyddu gydol y gwasanaeth, pwy sy’n agor y gwasanaeth ac yn ei gloi, ac nad yw nifer y siaradwyr, yr eitemau cerddorol a’r darlleniadau heb fod o’r Beibl yn rhwystro’r gwasanaeth rhag canolbwyntio ar glywed gair Duw, gweddïo a diolch.
- Pryd bynnag y bo’n bosibl, dylid defnyddio enw’r plentyn yn nhestun y gwasanaeth.
- Efallai y bydd rhiant am gario arch plentyn ieuanc iawn neu faban.
- Pan weinyddir y Cymun a phlant yn bresennol, dylid defnyddio gweddïau ewcharistaidd priodol.
Adnoddau at Angladd Plentyn
Y mae’r adnoddau hyn yn addas ar gyfer gwahanol achlysuron a gwahanol oedrannau.
Y Dod Ynghyd
Gras a thangnefedd a fo gyda chwi:
A’th gadw di yng nghariad Crist.
Yr ydym yn cwrdd yn enw Iesu Grist,
a fu farw ac a gyfodwyd er gogoniant Duw Dad.
Daethom ynghyd i addoli Duw.
Bu ei Fab Iesu farw ar y groes
er mwyn inni gael bywyd tragwyddol.
Diolchwn i Dduw am ei gariad;
cofiwn am fywyd daearol E. bach/fach;
a gweddïwn y caiff ei rieni/rhieni E. a E.,
a’i frawd/brawd E. a’i chwaer E. eu cysuro yn eu tristwch.
Daethom ynghyd i alaru gyda’n gilydd ac i gyflwyno E.
i ofal cariadus Duw.
Brawddegau Rhagarweiniol
Rwy’n dweud wrthych fod angylion y rhai bychain hyn bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Rhufeiniaid 8. 38, 39
Datguddiad 7. 17
1 Ioan 3. 2
Marc 10. 14
Eseia 66. 13
Gweddïau Agoriadol
Dduw pob trugaredd,
ni fyddi’n gwneud dim yn ofer
ac yr wyt yn caru pob peth a wnaethost.
Cysura ni yn ein galar,
a chynnal ni ag ymwybod o’th gariad di-ffael,
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
O Dduw, rhoddaist ynom anadl einioes ac,
wrth i ti ei gymryd ymaith,
byddwn yn marw yn dy freichiau.
Yn ein galar a’n braw cynnal a chysura ni;
cofleidia ni â’th gariad,
dyro inni obaith yn ein dryswch
a gras i ildio i fywyd newydd;
trwy Iesu Grist. Amen.
Dduw cariad,
unaist ni mewn bywyd â E. / â’r rhai a garwn,
ac agoraist borth y nefoedd
trwy ddioddefaint ac atgyfodiad Iesu;
edrych arnom yn dy drugaredd,
dyro inni ddewrder i wynebu ein galar
a dwg ni oll i gyflawnder y bywyd atgyfodedig;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Darlleniadau
Gall un o’r darnau a ganlyn o’rYsgrythur fod yn addas:
Salm 23
Salm 84. 1-4
Caniad Solomon 2. 10-13
Eseia 49. 15, 16
Jeremeia 1. 4-8
Jeremeia 31. 15-17
Mathew 18. 1-5, 10
Marc 10. 13-16
Ioan 6. 37-40
Ioan 10. 27, 28
Rhufeiniaid 8. 18, 28, 35, 37-39
1 Corinthiaid 13. 1-13
Effesiaid 3. 14-19
Gweddïau
Fel rheol, bydd y gweddïau yn dilyn y drefn hon:
Diolchgarwch am fywyd y plentyn, ni waeth pa mor fyr bynnag y bu. Gweddi dros y rhai sy’n galaru.
Gweddi am y parodrwydd i fyw yng ngoleuni tragwyddoldeb.
Y mae rhai awgrymiadau yn dilyn. Bydd yn rhaid dethol o’u plith yn ôl oedran ac amgylchiadau.
1.
Y mae’r Arglwydd Iesu yn caru ei bobl,
ac ef yn unig yw ein gobaith diogel.
Gofynnwn iddo ddyfnhau ein ffydd a’n cynnal yn yr awr dywyll hon.
Daethost yn blentyn bach er ein mwyn a rhannu ein bywyd meidrol.
Arnat ti y gweddïwn: bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.
Croesewaist blant ac addo iddynt dy deyrnas.
Arnat ti y gweddïwn: bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.
Cysuraist y rhai a fu’n galaru o golli plant a chyfeillion.
Arnat ti y gweddïwn: bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.
Cymeraist arnat dy hun ddioddefaint a marwolaeth pawb ohonom.
Arnat ti y gweddïwn: bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.
Addewaist gyfodi’r sawl sy’n credu ynot, fel y’th gyfodwyd di i ogoniant gan y Tad.
Arnat ti y gweddïwn: bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.
2.
O Dad, yr wyt yn adnabod ein calonnau,
ac yn rhannu yn ein profedigaeth,
a ninnau’n gwahanu oddi wrth E., sy’n annwyl gennym:
pan fyddwn yn ddig oherwydd ein colled,
ac yn dyheu am eiriau o gysur,
ond eto’n ei chael hi’n anodd eu clywed,
tro ein galar yn ffydd amyneddgar,
a’n cystudd yn obaith cadarn
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
3.
O Dad,
[oherwydd marwolaeth E. daeth gwacter i’n bywydau.
Gwahanwyd ni oddi wrtho/wrthi
ac yr ydym mewn gwae a gwewyr.]
Dyro inni hyder fod E. yn ddiogel
a bod ei fywyd/bywyd yn gyflawn gyda thi.
Dwg ni ynghyd yn y diwedd
i gyflawnder a helaethrwydd dy bresenoldeb di yn y nefoedd,
lle mae dy saint a’th engyl yn dy fwynhau byth bythoedd. Amen.
4.
Arglwydd,
gweddïwn dros y rhai sy’n galaru, dros rieni a phlant,
cyfeillion a chymdogion.
Bydd yn dyner wrthynt yn eu galar.
Dangos iddynt ddyfnder dy gariad,
a dyro iddynt gipolwg ar deyrnas nefoedd.
Arbed hwy rhag gwewyr euogrwydd ac anobaith.
Bydd gyda hwy wrth iddynt wylo,
fel yr wylodd Mair wrth fedd gwag ein Hiachawdwr atgyfodedig. Amen.
5.
Drugarocaf Dduw,
y mae dy ddoethineb uwchlaw ein deall,
amgylchyna deulu E. â’th gariad
fel na fyddant yn cael eu llethu gan eu colled,
ond yn cael hyder yn dy ddaioni
a nerth i wynebu’r dyfodol.
Gofynnwn hyn trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
6.
Dduw gobaith,
deuwn atat mewn galar a dryswch calon.
O wybod am dy drugaredd cariadus at bawb o’th blant,
cynorthwya ni i ddirnad dy dangnefedd
a dyro inni oleuni i’n tywys o’n tywyllwch i gadernid dy gariad
na ellir ein gwahanu oddi wrtho. Amen.
7.
O Dduw,
nid wyt o’th wirfodd yn peri gofid na chystudd i’th blant.
Edrych yn dosturiol ar ddioddefaint y teulu hwn yn eu colled.
Cynnal hwy yn eu gwewyr;
ac i dywyllwch eu galar dyro oleuni dy gariad;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
8.
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist:
Tad pob trugaredd a Duw pob cysur.
Y mae’r Arglwydd yn agos at bawb sy’n galw arno:
at bawb sy’n galw arno mewn gwirionedd.
Fel y mae Tad yn tosturio wrth ei blant:
felly y tosturia’r Arglwydd wrth y rhai sy’n ei ofni.
Fel y cysura mam ei phlentyn:
felly y rhydd yr Arglwydd gysur.
Yna cymerodd Iesu y plant i’w freichiau:
rhoddodd ei ddwylo ar bob un ohonynt a’u bendithio.
Dros y Rhieni
9.
Dad nefol,
ti yn unig all iacháu ein calonnau briwedig;
ti yn unig all sychu ymaith y dagrau sy’n cronni ynom;
ti yn unig all roi’r tangnefedd y mae arnom ei angen;
ti yn unig all ein nerthu i ddyfalbarhau.
Gofynnwn iti agosáu at y rhai
y mae eu llawenydd bellach yn dristwch.
Rho iddynt y sicrwydd nad oes dim yn ofer nac yn anghyflawn gyda thi,
a chadw hwy â’th gariad tyner.
Wedi ein cynnal gan dy nerth,
bydded inni ddyfnhau ein cariad at ein gilydd
wrth inni adnabod dy gariad at bob un ohonom. Amen.
10.
Dad cariadus,
daethost ti â’th ferch E.
yn ddiogel drwy enedigaeth ei phlentyn.
Gweddïwn y bydd E. (ac E.) yn teimlo dy gynhaliaeth
a’th gariad yn ystod y trallod a’r tristwch o golli eu plentyn E.
a dirnad dy nodded di bob amser;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
11.
Dad cariadus,
safodd dy wasanaethyddes Mair,
mam ein Harglwydd a’n Duw, Iesu Grist,
wrth droed y groes tra oedd ei mab yn marw.
Bydded i’r un Iesu hwnnw,
a orchfygodd angau,
a gyfododd ac a esgynnodd i’r nefoedd gysuro rhieni galarus,
a chryfhau eu ffydd ynot ti;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Dros y Plant yn y Teulu
12.
Arglwydd Iesu,
gofynnwn iti fod yn agos at blant y teulu hwn,
â’u bywydau wedi eu newid gan alar.
Dyro iddynt ddewrder i wynebu eu colled,
a chysura hwy â’th gariad digyfnewid. Amen.
13.
O Dduw, gwrando,
os gweli di’n dda,
wrth inni siarad â thi am E. sydd wedi marw.
Gofala amdano/amdani,
a gofala amdanom ninnau hefyd.
Diolch iti am yr amseroedd a gawsom gyda’n gilydd.
Diolch iti am Iesu,
sy’n dangos inni ei gariad.
Y mae ef yn agos at E., ac yn agos atom ninnau.
Diolch iti, Dduw. Amen.
Mewn achos o Enedigaeth Farw neu Gamesgoriad
14.
Dduw ein creawdwr
a ffynhonnell ein bod,
cysura E. (ac E.) sy’n galaru am E.
Cynorthwya ef/hi/hwy i ganfod sicrwydd
nad oes yr un bywyd yn ofer nac yn anghyflawn gyda thi,
a chynnal ef/hi/hwy â’th gariad,
trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr. Amen.
15.
Dduw grasol,
diolchwn iti am y cariad y cenhedlwyd (E.) bach/fach ynddo,
ac am gariad y cartref yr oedd i’w eni/geni iddo.
Gweddïwn y bydd i gariad ei rieni/rhieni at ei gilydd dyfu a dyfnhau.
Dyro inni ras i wrando ar ein gilydd yn amyneddgar ac ystyriol,
ac i gynorthwyo ein gilydd yn y dyddiau sydd i ddod. Amen.
Gweddi Ffarwelio
16.
Dad nefol,
y mae E. ac E. wedi rhoi i’w baban yr enw E. – enw a drysorir yn eu calonnau am byth.
Ond ti a’i lluniodd ef/hi yn y groth
a’i hadnabod wrth ei enw/henw cyn seilio’r byd.
Cyflwynwn E. yn awr i’th ofal cariadus a thyner.
Am gyfnod a oedd mor fyr
daeth ag addewid o lawenydd i lawer.
Cofleidia ef/hi yn awr yn y bywyd tragwyddol,
yn enw ein Hiachawdwr atgyfodedig,
a anwyd ac a fu farw,
ac sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân am byth. Amen.
weddïau at ddefnydd personol y rhieni
17.
Dduw cariad a bywyd,
rhoddaist ti E. yn fab/ferch inni.
Dyro sicrwydd inni yn awr
nad aeth o’th olwg nac o’th ofal di,
er iddo/iddi fynd o’n golwg ni.
Tyrd atom ni yn ein tristwch, a thro di ein nos yn ddydd.
Cynorthwya ni yn ein dagrau
a’n poen i’th adnabod di yn sefyll gyda ni
ac i deimlo dy gariad a’th iachâd;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
18.
Dduw pob dirgelwch,
mae dy ffyrdd uwchlaw pob deall.
Tywys ni, sy’n galaru oherwydd y farwolaeth annhymig hon,
i ddyfnach ymddiried yn dy gariad,
a ddug dy unig Fab Iesu
trwy farwolaeth i fywyd yr atgyfodiad.
Gweddïwn yn enw Iesu. Amen.
Dduw’r tosturi di-ffael
yn dy gariad creadigol a’th dynerwch rhoddaist inni E.,
yn llawn gobaith am y dyfodol.
Ti yw ffynhonnell bywyd pob un ohonom,
a nerth ein holl ddyddiau.
Nid i dywyllwch a marwolaeth y’n gwnaethost ni,
ond i’th weld wyneb yn wyneb
ac i fwynhau cyflawnder bywyd.
Cynorthwya ni i gysuro ein gilydd
â’r cysur a gawn oddi wrthyt ti;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
20.
Dduw pob gras a chysur, diolchwn iti am E.,
ac am ei le/lle yn ein calonnau.
Diolchwn am y cariad a’i cenhedlodd ac am y gofal a’i cynhaliai.
Wrth inni gofio amseroedd o ddagrau a chwerthin,
diolchwn iti am y cariad a ddaeth i’n rhan drwyddo/drwyddi,
sy’n adlewyrchu’r cariad hwnnw a dywelltaist ti arnom
yn dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
21.
Dduw ein Tad,
yr wyt yn gwybod ein meddyliau
ac yn rhannu ein gofidiau.
Tywys ni o’n trallod
i ddiddanwch cysurlon dy gariad.
Pan anghofiwn beth yw hapusrwydd,
adfer ynom ffynhonnau gloyw o obaith.
Pan amddifader ni o dangnefedd,
adnewydda ein calonnau a thawela ein hofnau.
A phan ddeuwn yn y diwedd at ein hymadael olaf,
dwg ni adref atat ti am byth
i gyflawnder teulu Duw;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
22.
Dad nefol,
ein cydymaith,
y mae dy gariad bob amser gyda ni,
hyd yn oed yn nirgelwch glyn cysgod angau;
trown atat yn awr mewn ffydd,
a gofynnwn iti roddi i’n hannwyl blentyn E.
nodded dy gariad. Cysura ni, O Dad,
a thywys ef/hi i lawenydd a chyflawnder yn dy deyrnas nefol,
trwy nerth y cariad a ddatguddiwyd inni yn dy Fab,
ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.
23.
Arglwydd pob peth,
diolchwn iti am dy waith yn y greadigaeth,
am feithrin bywyd yn y groth,
am dy gariad hyd yn oed mewn angau.
Diolch iti am fywyd dy blentyn, E.,
a roddaist i ni ac a gymeraist atat dy hun.
Diolch iti am fod breichiau dy gariad yn cofleidio E.
a ninnau yn dy deulu.
Diolch iti am dy bresenoldeb yn ein galar
a’th nerth wrth i’n teulu fynd yn hŷn.
Cymer ein tristwch a llanw ni â’th
Ysbryd i’th wasanaethu ar y ddaear
ac i ymuno â’th saint mewn gogoniant; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Cyflwyno a Ffarwelio
O Dduw, ein creawdwr a’n prynwr,
trwy dy allu fe orchfygodd Crist angau a dychwelyd atat mewn gogoniant.
 hyder yn dy fuddugoliaeth a chan hawlio dy addewidion,
yr ydym yn ymddiried E. i’th ofal yn enw Iesu ein Harglwydd,
sydd, er iddo farw, yn awr yn fyw
ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw yn awr ac am byth. Amen.
Plentyn Hŷn
I’th ddwylo di, Arglwydd,
ein creawdwr ffyddlon a’n prynwr cariadus,
yr ydym yn cyflwyno dy blentyn E.,
canys eiddot ti ydyw,
mewn angau fel mewn bywyd.
Yn dy fawr drugaredd cymer ef/hi i’th freichiau
a chyflawna ynddo/ynddi bwrpas dy gariad;
fel, ac yntau/a hithau yn llawenhau yng ngoleuni dy bresenoldeb adfywiol,
y caiff fwynhau’r bywyd hwnnw a baratoaist i bawb sy’n dy garu,
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Plentyn Ieuanc
Dad nefol,
y cymerodd dy Fab, ein Gwaredwr
blant bychain i’w freichiau a’u bendithio:
gweddïwn arnat dderbyn dy blentyn E. i'th gariad a’th ofal di-ffael;
cysura bawb a’i carodd ar y ddaear, a dwg ni oll i’th deyrnas dragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Baban
I ti, addfwyn Dad,
yr ydym yn wylaidd yn ymddiried E. bach/fach,
sydd mor werthfawr yn dy olwg.
Cymer ef/hi i’th freichiau
a chroesawa ef/hi i’th bresenoldeb,
lle nad oes na galar na phoen,
ond cyflawnder tangnefedd a llawenydd gyda thi byth bythoedd. Amen.
Genedigaeth Farw
Dduw pob trugaredd,
nid yw gwaith dy law fyth yn ofer ac yr wyt yn caru popeth a greaist;
cyflwynwn iti E., plentyn E. ac E.,
a genhedlwyd mewn cariad mawr
ac a ennynodd ynddynt gymaint o obeithion a breuddwydion.
Yr oeddem yn dyheu am ei groesawu/chroesawu i’n plith;
dyro inni sicrwydd y cofleidir ef/hi yn awr
ym mreichiau dy gariad,
a’i fod/bod yn rhannu ym mywyd atgyfodedig dy Fab, Iesu Grist. Amen.
Camesgoriad
Dduw pob trugaredd,
nid yw gwaith dy law fyth yn ofer ac yr wyt yn caru popeth a greaist;
cyflwynwn i ti (E.,) plentyn E. ac E., a genhedlwyd mewn cariad mawr
ac a enynnodd ynddynt gymaint o obeithion a breuddwydion.
Er na fedrant weld E., dyro iddynt sicrwydd ei fod/bod
yn annwyl ac yn werthfawr yn dy olwg di
ac y bydd yn rhannu ym mywyd atgyfodedig dy Fab, Iesu Grist. Amen.
Y Traddodiant
Defnyddia’r gweinidog un o’r ffurfiau canlynol ar y Traddodiant.
Wrth gladdu corff:
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E. yn nwylo Duw,
yr ydym yn traddodi ei gorff/chorff i’r ddaear:
pridd i’r pridd, lludw i’r lludw, llwch i’r llwch:
mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i’r bywyd
tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
a newidia ein cyrff eiddil ni
i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef,
a fu farw, a gladdwyd,
ac a gyfododd drachefn er ein mwyn.
Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.
Mewn amlosgfa, os yw’r Traddodiant i ddigwydd yno:
Yr ydym wedi ymddiried E. i drugaredd Duw.
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E.
yn nwylo Duw,
yr ydym yn traddodi ei gorff/chorff i’w amlosgi:
mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol
trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
a newidia ein cyrff eiddil ni
i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef,
a fu farw, a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn. Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.
Mewn amlosgfa, os yw’r Traddodiant i ddilyn wrth Gladdu Llwch wedi Amlosgiad:
Yr ydym wedi ymddiried E. i drugaredd Duw.
Yn ffydd Crist a chan gredu bod E. yn nwylo Duw,
mewn paratoad at ei gladdedigaeth/chladdedigaeth,
yr ydym yn rhoddi ei gorff/chorff i’w amlosgi:
Disgwyliwn am gyflawnder yr atgyfodiad
pan fydd Crist yn casglu ynghyd ei holl saint
i deyrnasu gydag ef mewn gogoniant am byth. Amen.
Yr Anfon Allan
Duw fo yn fy mhen
ac yn fy neall;
Duw fo yn fy nhrem,
ac yn f’edrychiad;
Duw fo yn fy ngair
ac yn fy siarad;
Duw fo yn fy mron
ac yn fy nirnad;
Duw fo ar ben fy nhaith,
ac ar f’ymadawiad. Amen.
Ffurfiau ar y Fendith
Bydded i Grist y bugail da eich cofleidio yn ei gariad,
eich llenwi â thangnefedd a’ch tywys mewn gobaith hyd at derfyn eich dyddiau;
a bendith Duw hollalluog,
y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,
a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.
Bydded i Dduw roi i chwi ei ddiddanwch a’i dangnefedd,
ei oleuni a’i lawenydd, yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw;
a bendith Duw hollalluog,
y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,
a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.
Bydded i gariad Duw
a thangnefedd yr Arglwydd Iesu Grist eich bendithio a’ch cysuro chwi,
a phawb a adnabu ac a garodd E., yn awr a hyd byth. Amen.
X. Gwasanaeth yn y Cartref ar ôl yr Angladd
Gellir addasu’r gwasanaeth hwn i’w ddefnyddio naill ai’n union wedi’r Angladd neu’n ddiweddarach. Gall cyfaill, aelod o’r teulu neu weinidog ei arwain.
Wrth y Drws
Gall y gweinidog ddweud
Yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân. Amen.
Bydded i dangnefedd Duw ein Tad nefol,
ac Iesu Grist ffynhonnell tangnefedd
a’r Ysbryd Glân y diddanydd
fod ar y tŷ hwn a phawb sy’n preswylio ynddo.
Agor, O Dduw, ddrws y tŷ hwn;
llewyrched dy oleuni yma i ymlid ymaith bob tywyllwch;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gair Duw
Gellir defnyddio un neu ragor o’r darlleniadau a ganlyn:
Ioan 14. 1-3
Mathew 11. 28-30
Philipiaid 3.20 – 4.1
Salm 71. 1-6, 17-18
Salm 126. 5-6
Salm 139. 7-11
Gweddïau
Gellir defnyddio gweddi neu weddïau addas o Adran XII, neu gellir offrymu gweddïau anffurfiol, a fydd yn fwy addas, dros y teulu.
Gall y weddi hon fod yn arbennig o addas os darperir lluniaeth ar ôl yr angladd.
Hollalluog Dduw,
Tad ein Harglwydd Iesu Grist,
yr adnabu ei ddisgyblion ef ar ôl ei atgyfodiad ar doriad y bara.
Diolchwn iti am dy nerth i’n cynnal yn yr hyn a wnaethom heddiw,
a gofynnwn am i’th bresenoldeb gael ei gydnabod yn y lle hwn;
rho dy dangnefedd a’th lawenydd ym mhob man sy’n dwyn atgofion;
dyro dy nerth a’th bresenoldeb wrth gyflawni’r tasgau beunyddiol hynny a wnaethom gyda’n gilydd;
ac yn holl droeon bywyd dyro inni ras i wneud dy ewyllys ddydd ar ôl dydd,
ac i ddisgwyl am ddyfodiad gogoneddus Crist,
pan fyddi’n ein casglu ni ynghyd at dy fwrdd yn y nefoedd i fod gyda thi byth bythoedd. Amen.
Diweddglo
Gall y gweinidog adrodd Salm 121:
Codaf fy llygaid tua’r mynyddoedd; o ble y daw cymorth i mi?
Daw fy nghymorth oddi wrth yr Arglwydd, creawdwr nefoedd a daear.
Nid yw’n gadael i’th droed lithro, ac nid yw dy geidwad yn cysgu.
Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno.
Yr Arglwydd yw dy geidwad, yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw;
ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd, na’r lleuad yn y nos.
Bydd yr Arglwydd yn dy gadw rhag pob drwg, bydd yn cadw dy einioes.
Bydd yr Arglwydd yn gwylio dy fynd a’th ddod yn awr a hyd byth.
XI. Gwasanaeth Coffa
Amlinelliad o’r Drefn ar gyfer Gwasanaeth Coffa
Y Dod Ynghyd
1) Y mae’r gweinidog yn croesawu’r bobl ac yn cyflwyno’r gwasanaeth.
2) Gellir canu emyn
3) Gellir darllen brawddegau o’r Ysgrythur.
4) Gellir talu teyrnged yn y fan hon neu’n ddiweddarach yn y gwasanaeth.
5) Gellir darllen y Colect yn awr neu yn ystod y Gweddïau.
Darlleniadau a Phregeth
6) Defnyddir darlleniad neu ddarlleniadau o’r Beibl.
7) Gall salmau neu emynau ddilyn y darlleniadau.
8) Traddodir Pregeth.
9) Gellir defnyddio caneuon a darlleniadau eraill, a gellir talu teyrngedau.
Gweddïau
10) Fel rheol, bydd y gweddïau’n dilyn y drefn hon:
- † Diolchgarwch am fywyd yr ymadawedig;
- † Gweddi dros y rhai sy’n galaru;
- † Gweddi am barodrwydd i fyw yng ngoleuni tragwyddoldeb.
11) Dywedir Gweddi’r Arglwydd.
12) Gellid caniatáu amser i weddïo a myfyrio, yn dawel neu â cherddoriaeth briodol.
Cyflwyniant a Diolchgarwch
13) Pan fo’r amgylchiadau’n briodol, cyflwynir yr ymadawedig i Dduw gan ddefnyddio geiriau awdurdodedig.
14) Ceir gweithred briodol o ddiolchgarwch ar ddiwedd y gwasanaeth.
Yr Anfon Allan
15) Gellir canu emyn.
16) Gall y gwasanaeth ddiweddu â bendith.
Os digwydd Gwasanaeth Coffa yng nghyd-destun y Cymun Bendigaid, dilynir yr adrannau priodol i’r rhan honno o’r gwasanaeth.
Nodiadau
Cynlluniwyd y braslun-wasanaethau hyn i’w defnyddio yn yr eglwys rai wythnosau ar ôl y gwasanaeth Angladd.
Gweler un enghraifft isod.
Os cynhelir y gwasanaeth coffa yr un diwrnod â’r Angladd, neu’n fuan iawn wedyn, dylid defnyddio’r gwasanaeth Angladd, heb y traddodiant.
Dylid sicrhau ei bod yn glir pwy sy’n llywyddu gydol y gwasanaeth, pwy sy’n cyflwyno’r gwasanaeth ac yn ei gloi, ac nad yw nifer y siaradwyr eraill, yr eitemau cerddorol na’r darlleniadau sy’n rhai heb fod o’r Beibl, yn rhwystro’r
gwasanaeth rhag canolbwyntio ar glywed gair Duw, y gweddïo a’r diolch.
Gwasanaeth Coffa
(Gwasanaeth Enghreifftiol)
Y Dod Ynghyd
Y mae’r gweinidog yn croesawu’r bobl ac yn cyflwyno’r gwasanaeth. Gellir canu neu ddarllen brawddegau o’r Ysgrythur, a gellir canu emyn.
Dywed y gweinidog:
Yr ydym yn cwrdd yn enw Iesu Grist,
a fu farw ac a gyfododd er gogoniant Duw Dad.
Gras a thangnefedd a fo gyda chwi:
(a’th gadw di yng nghariad Crist).
Y mae’r gweinidog yn cyflwyno’r gwasanaeth â’r geiriau hyn neu eiriau addas eraill:
Cadwn ein golwg, nid ar y pethau a welir,
ond ar y pethau na welir
oherwydd dros amser y mae’r pethau a welir,
ond y mae’r pethau na welir yn dragwyddol.
Daethom ynghyd heddiw
i gofio gerbron Duw ein brawd/chwaer E.,
i ddiolch am ei fywyd/bywyd
ac i gysuro ein gilydd yn ein galar.
Gweddi Agoriadol. Dywedir un o’r gweddïau hyn:
Dad nefol,
diolchwn i ti am ein llunio ar dy ddelw dy hun
ac am roddi inni ddoniau’r corff, y meddwl a’r ysbryd.
Diolchwn iti yn awr am E.
ac am yr hyn a olygai i bawb ohonom.
Wrth inni dalu teyrnged iddo/iddi, gwna ni’n fwy ymwybodol
mai ohonot ti y daw pob rhodd berffaith,
ac yn bennaf oll rhodd y bywyd tragwyddol a ddaw trwy Iesu Grist. Amen.
neu
Dad nefol,
molwn dy enw
am bawb a aeth o’r bywyd hwn
yn dy garu di ac yn ymddiried ynot,
am esiampl eu bywydau,
am y bywyd a’r gras a roddaist ti iddynt,
ac am y tangnefedd y maent yn gorffwys ynddo.
Molwn di heddiw am dy was/wasanaethferch E.
ac am y cyfan a gyflawnaist drwyddo/drwyddi.
Cysura ni yn ein tristwch
a llanw ein calonnau â mawl a diolch,
er mwyn ein Harglwydd atgyfodedig, Iesu Grist. Amen.
Darlleniadau a Phregeth
Gellir defnyddio’r gantigl hon:
Bydd gwaredigion yr Arglwydd yn dychwelyd:
a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.
Llawenyched yr anial a’r sychdir:
gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo.
Cânt weld gogoniant yr Arglwydd:
a mawrhydi ein Duw ni.
Bydd gwaredigion yr Arglwydd yn dychwelyd:
a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.
Cadarnhewch y dwylo llesg:
cryfhewch y gliniau gwan;
Dywedwch wrth y pryderus,
“Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele,
fe ddaw eich Duw mewn barn,
fe ddaw mewn barn i’ch achub.”
Bydd gwaredigion yr Arglwydd yn dychwelyd:
a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.
Gellir defnyddio un neu fwy o ddarlleniadau o’rYsgrythur.
Ar ddiwedd y darlleniad gall y darllenydd ddweud:
Dyma air yr Arglwydd.
Diolch a fo i Dduw.
Gwrandewch ar yr hyn y mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr Eglwys.
Diolch a fo i Dduw.
Gellir traddodi Pregeth.
Gellir defnyddio caneuon a darlleniadau heb fod o’r Beibl, a gellir talu teyrngedau.
Gellir defnyddio un o’r gweddïau hyn i gysylltu â Datgan y Ffydd neu â’r Diolchgarwch.
Dad nefol,
diolchwn iti am dy was/wasanaethferch E.
Molwn di wrth inni gofio am ei fywyd/bywyd a thrysori ein hatgofion ohono/ohoni.
Bendithiwn di am iddo/iddi,
a’th ddelw di arno/arni, ddwyn goleuni i’n bywydau;
oherwydd gwelsom yn ei gyfeillgarwch/chyfeillgarwch
adlewyrchiad o’th dosturi,
yn ei onestrwydd/gonestrwydd ddrych o’th ddaioni,
ac yn ei ffyddlondeb gipolwg o’th gariad tragwyddol.
Caniatâ i bob un ohonom,
ei anwyliaid/hanwyliaid galarus,
ras i ddilyn ei esiampl/hesiampl dda
fel y delom gydag ef/hi i’th deyrnas dragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
a fu farw, a gyfododd drachefn ac a agorodd borth y gogoniant.
Iddo ef y bo’r moliant byth bythoedd. Amen.
neu
Waredwr hollgyfoethog,
y mae gan y sawl a fu farw mewn ffydd lawenydd bythol yn dy bresenoldeb.
Bydd gyda ni sy’n galaru a thro ein golygon atat ti.
Trwy dy farwolaeth un waith am byth ar y groes,
cyfod ni i fywyd newydd,
dyro inni fuddugoliaeth dros angau
a hyder i edrych ymlaen at dy ddyfodiad. Amen.
Datgan y Ffydd
Gellir defnyddio’r Datganiad hwn o Ffydd:
Gadewch inni ddatgan y newydd da a dderbyniasom,
y daliwn yn gadarn ynddo,
yr achubir ni trwyddo ac a draddodwn i eraill.
Bu Crist farw dros ein pechodau ni yn ôl yr Ysgrythurau;
fe’i claddwyd;
a’i gyfodi i fywyd y trydydd dydd yn ôl yr Ysgrythurau;
wedi hynny fe ymddangosodd i’w ddilynwyr,
ac i’r holl apostolion:
hyn a dderbyniasom,
a hyn yr ydym yn ei gredu. Amen.
Ymbiliau
Dywedir gweddïau addas (gweler Adran XII).
Gellir defnyddio’r cyflwyniad a’r ymateb a ganlyn:
Gweddïwn mewn tangnefedd ar yr Arglwydd:
gan ddefnyddio’r ymateb,
Gwrando ni, Arglwydd atgyfodedig:
ein Hatgyfodiad a’n Bywyd.
Gweddïau o Ddiolch
Gellir canu emynau a dwyn tystiolaeth.
Gellir defnyddio’r adnodau a ganlyn neu’r Te Deum yn gyfan gwbl:
Ti Grist yw brenin y gogoniant:
ti yw tragwyddol Fab y Tad.
Pan gymeraist gnawd i’n rhyddhau ni:
dewisaist yn wylaidd groth y Wyryf.
Gorchfygaist golyn angau:
ac agor teyrnas nef i bawb sy’n credu.
Yr wyt yn eistedd ar ddeheulaw Duw mewn gogoniant:
yr ydym yn credu y deui di i’n barnu.
Tyrd, felly, O Arglwydd, a chynorthwya dy bobl:
a brynwyd â’th waed dy hun;
A dwg ni gyda’th saint:
i’r gogoniant tragwyddol.
Gellir defnyddio un neu ragor o’r gweddïau hyn o ddiolch:
Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a’n Duw:
i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu,
Oherwydd tydi a greodd bob peth:
a thrwy dy ewyllys y daethant i fod ac y grewyd hwy.
Teilwng wyt ti, yr Oen a laddwyd:
ac a brynaist i Dduw â’th waed:
rai o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl.
Gwnaethost hwy yn urdd frenhinol ac yn offeiriaid i’n Duw ni,
i sefyll ger ei fron a’i wasanaethu:
ac fe deyrnasant gyda thi ar y ddaear.
I’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen:
y bo’r mawl a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r gallu byth bythoedd. Amen.
neu
Dad hollalluog, rhoddwn ddiolch a moliant i ti am anfon dy Fab i farw,
a’i atgyfodi o blith y meirw. Molwn di,
gan ymddiried dy fod yn achub dy holl bobl,
y byw a’r meirw.
Arglwydd, clyw ni: Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Diolchwn iti am E.
Yn ei fedydd/bedydd rhoddwyd iddo/iddi ernes o’r bywyd tragwyddol
ac yn awr fe’i croesewir i holl gwmpeini’r saint.
Arglwydd, clyw ni: Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Diolchwn iti am ein brawd/chwaer,
a fu’n cyfranogi o fara’r bywyd,
rhagflas o wledd dragwyddol y nef.
Arglwydd, clyw ni: Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Diolchwn iti am ein holl berthnasau a’n cyfeillion ac am bawb a gerddodd wrth ein hymyl ar ein pererindod ddaearol.
Arglwydd, clyw ni: Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Gweddïwn ar i deulu a chyfeillion galarus ein brawd/ chwaer E. dderbyn diddanwch yr Arglwydd,
a wylodd adeg marwolaeth Lasarus, ei ffrind.
Arglwydd, clyw ni: Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Gweddïwn dros bawb ohonom sydd wedi ymgynnull yma i addoli mewn ffydd, ar inni gael ein dwyn ynghyd drachefn yn nheyrnas Dduw.
Arglwydd, clyw ni: Arglwydd, yn rasol clyw ni.
neu
Arglwydd Dduw, creawdwr pob peth,
gwnaethost ni yn greaduriaid y ddaear hon,
ond addewaist inni hefyd gyfran yn y bywyd tragwyddol.
Yn unol â’th addewidion,
bydded i bawb a fu farw yn nhangnefedd Crist gael rhannu gyda’th saint yn llawenydd y nef,
lle nad oes na galar na phoen ond bywyd yn dragwyddol.
Alelwia! Amen.
Oni weinyddir y Cymun:
Gweddïwn yn hyderus ar y Tad:
Ein Tad yn y nefoedd ...
neu
Fel y dysgodd ein Hiachawdwr ni, gweddïwn yn hyderus:
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd ...
Y Cyflwyniant a’r Diolchgarwch
Hollalluog Dduw,
yn dy gariad mawr
lluniaist ni â’th ddwylo
a thrwy dy Ysbryd rhoddaist i ni anadl einioes.
Ni chefnaist arnom
er i ni fod yn bobl wrthryfelgar,
O’th dyner drugaredd anfonaist dy Fab
i adfer dy ddelw arnom.
Dangosodd ei gariad
trwy farw drosom ar y groes.
Trwy dy allu nerthol cyfodaist ef o’r bedd
a’i ddyrchafu i orsedd y gogoniant.
Gan ymlawenhau yn ei fuddugoliaeth
a chan ymddiried yn dy addewid
i roi bywyd tragwyddol i bawb sy’n troi at Grist,
cyflwynwn E. i’th drugaredd,
ac ymunwn â’th holl bobl ffyddlon
ac â holl gwmpeini’r nef
yn yr un gân dragwyddol o foliant:
Y mawl a’r anrhydedd,
y gogoniant a’r gallu
a fo i ti, byth bythoedd. Amen.
Y Tangnefedd
Dywedodd Iesu:
Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd;
yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun.
Nid fel y mae’r byd yn rhoi yr wyf fi’n rhoi i chwi.
Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon, a pheidiwch ag ofni.
Tangnefedd y Crist atgyfodedig a fo gyda chwi bob amser:
A hefyd gyda thi.
Diweddglo
Ni all nac angau nac einioes ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Caniatâ i ni, Arglwydd Dduw,
ymddiried ynot nid er ein mwyn ein hunain yn unig,
ond hefyd er mwyn y rhai a garwn
ac a guddiwyd rhagom gan gysgod angau,
fel, a ninnau’n credu i ti yn dy allu
gyfodi ein Harglwydd Iesu Grist o blith y meirw,
y bo inni felly ymddiried yn dy gariad
i roddi bywyd tragwyddol i bawb sy’n credu ynddo ef;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr a hyd byth. Amen.
Bydded i Dduw tangnefedd,
a ddug yn ôl oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu,
Bugail mawr y defaid,
eich cyflawni â phob daioni i wneud ei ewyllys;
a bendith Duw hollalluog,
y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,
a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.
XII. Gweddïau mewn Gwasanaethau Angladd a Choffa
Y mae’r gweddïau hyn yn dilyn trefn y gwasanaethau, o’r Dod Ynghyd tan ar ôl yr Angladd:
Gweddïau wrth DdodYnghyd
Gweddïau o Edifeirwch (Kyrïau a Gollyngdod)
Colectau ar gyfer Gwasanaethau Angladd a Gwasanaethau Coffa Diolch am Fywyd yrYmadawedig
Gweddïau dros y rhai sy’n Galaru
Gweddïau am Barodrwydd i Fyw yng Ngoleuni Tragwyddoldeb Litanïau a GweddïauYmatebol
Gweddïau o Ymddiried a Chyflwyno Ffurfiau ar y Fendith a’r Diweddglo Gweddïau i’w defnyddio ar ôl Salmau
Y mae gweddïau addas eraill i’w cael yn adrannau II -V (Cyn yr Angladd) a X (Ar ôl yr Angladd).
Y mae gweddïau addas ar gyfer angladd plentyn yn adran IX.
Gweddïau wrth Ddod Ynghyd
1.
O Dduw ein noddfa a’n nerth,
yr wyt yn agos atom yn ein trallod;
tyrd atom ni yn ein galar a dyrchafa ein llygaid
at dangnefedd a goleuni dy ofal gwastadol drosom.
Cynorthwya ni felly i glywed geiriau dy ras
fel y bydd i’th gariad fwrw allan ein hofn,
dy bresenoldeb esmwytháu ein hunigrwydd
a’th addewidion adnewyddu ein gobaith
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
2.
Dad grasol,
mewn tywyllwch a goleuni,
mewn trallod a llawenydd,
cynorthwya ni i ymddiried yn dy gariad,
i gyflawni dy fwriad
ac i foli dy enw;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
3.
Dad nefol,
fe’n gwnaethost nid i dywyllwch a marwolaeth,
ond i fyw gyda thi am byth.
Hebot ti nid oes gennym ddim i obeithio amdano;
gyda thi, nid oes gennym ddim i’w ofni.
Llefara wrthym yn awr eiriau dy fywyd tragwyddol.
Cyfod ni o boen meddwl
ac euogrwydd i oleuni a thangnefedd dy bresenoldeb,
a gosod ogoniant dy gariad o’n blaen;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gweddïau o Edifeirwch
Kyrïau
4.
Cofia, Arglwydd, dy drugaredd a’th gariad,
oherwydd y maent yn dragwyddol.
Arglwydd, trugarha. (Arglwydd, trugarha.)
Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na’m camweddau,
ond yn dy gariad cofia fi, er mwyn dy ddaioni, O Arglwydd.
Crist, trugarha. (Crist, trugarha.)
Cadw fy enaid a gwared fi;
na ddoed cywilydd arnaf,
oherwydd ynot ti yr wyf yn ymddiried.
Arglwydd, trugarha. (Arglwydd, trugarha.)
5.
Arglwydd Iesu, dangosaist inni’r ffordd at y Tad:
Arglwydd, trugarha. (Arglwydd, trugarha.)
Arglwydd Iesu, rhoddaist inni wybodaeth am dy wirionedd:
Crist, trugarha. (Crist, trugarha.)
Arglwydd Iesu, ti yw’r bugail da sydd yn ein tywys ni i fywyd tragwyddol:
Arglwydd, trugarha. (Arglwydd, trugarha.)
6.
Fy enaid, bendithia’r Arglwydd,
a phaid ag anghofio’i holl ddoniau:
Arglwydd, trugarha. (Arglwydd, trugarha.)
Ef sy’n maddau dy holl gamweddau,
yn iacháu dy holl afiechyd;
Crist, trugarha. (Crist, trugarha.)
Ef sy’n gwaredu dy fywyd o’r pwll
ac yn dy goroni â chariad a thrugaredd:
Arglwydd, trugarha. (Arglwydd, trugarha.)
7.
O’r dyfnderau y gwaeddais arnat, O Arglwydd.
Arglwydd, clyw fy llef.
Arglwydd, trugarha. (Arglwydd, trugarha.)
Os wyt ti’n sylwi ar bechodau, O Arglwydd,
pwy a all sefyll?
Crist, trugarha. (Crist, trugarha.)
Gobeithia yn yr Arglwydd,
oherwydd gydag ef y mae ffyddlondeb a gwaredigaeth helaeth.
Arglwydd, trugarha. (Arglwydd, trugarha.)
Gollyngdod
Pan fo’r gweinidog yn offeiriad, gellir defnyddio 'chwi' yn hytrach na 'ni'.
8.
Bydded i Dduw cariad
eich/ein dwyn yn ôl ato ef ei hun,
maddau i chwi/i ni eich/ein pechodau
a rhoddi i chwi/i ni sicrwydd o’i gariad tragwyddol
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
9.
Bydded i Dduw Dad faddau i chwi/i ni eich/ein pechodau
a’ch/a’n dwyn i gyfranogi o’i wledd dragwyddol
gyda’i saint am byth. Amen.
Colectau ar gyfer Gwasanaethau Angladd a Choffa
10.
Dad trugarog,
gwrando ein gweddïau a chysura ni;
adnewydda ein gobaith yn dy Fab,
a gyfodaist o blith y meirw;
cryfha ein ffydd
y caiff (E. a phawb) pawb a fu farw yng nghariad Crist
rannu ei atgyfodiad ef
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn awr a hyd byth. Amen.
11.
Dragwyddol Dduw,
ein Creawdwr a’n Gwaredwr,
caniatâ i ni (gyda E.) a’r holl ffyddloniaid ymadawedig ddoniau
sicr dioddefaint achubol dy Fab a’i atgyfodiad gogoneddus ef,
fel, ar y dydd diwethaf, pan gesgli bopeth yng Nghrist,
y cawn fwynhau llawnder dy addewidion;
trwy Iesu Grist dy Fab, ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Diolch am Fywyd yr Ymadawedig
12.
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist,
a’n bendithiodd ni oll â rhodd bywyd ar y ddaear hon
ac a roddodd i’n brawd/chwaer E. rychwant ei flynyddoedd/blynyddoedd
a doniau ei gymeriad/chymeriad.
O Dduw ein Tad, diolchwn iti yn awr am ei fywyd/bywyd,
am bob atgof o gariad a llawenydd,
am bob gweithred dda a wnaeth
ac am bob tristwch a rannodd â ni.
Diolchwn iti am ei fywyd/bywyd ac am ei farwolaeth/marwolaeth,
am ein hatgofion amdano/amdani, am iti am ei roi ef/rhoi hi inni,
ac am y gogoniant y byddwn yn ei rannu â’n gilydd.
Gwrando ein gweddïau
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
13.
Dad trugarog ac Arglwydd pob bywyd,
molwn di am iti ein llunio ar dy ddelw i adlewyrchu dy wirionedd a’th oleuni.
Diolchwn iti am fywyd dy blentyn E., am y cariad a dderbyniodd gennyt
ac a amlygodd yn ein plith.
Uwchlaw pob dim, ymhyfrydwn yn dy addewid grasol i’th holl bobl,
y byw a’r meirw, y cyfodwn eto ar ddyfodiad Crist.
Gofynnwn am i ninnau, yng nghyflawniad yr amser,
gael rhannu â’n brawd/chwaer yn y weledigaeth eglur honno pan welwn dy wyneb di
yn yr un Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
14.
Dad nefol, molwn dy enw
am bawb a aeth o’r bywyd hwn
yn dy garu di ac yn ymddiried ynot,
am esiampl eu bywydau,
am y bywyd a’r gras a roddaist ti iddynt,
ac am y tangnefedd y maent yn gorffwys ynddo.
Molwn di heddiw am dy was/wasanaethferch E.
ac am y cyfan a gyflawnaist drwyddo/ drwyddi.
Cysura ni yn ein tristwch
a llanw ein calonnau â mawl a diolch,
er mwyn ein Harglwydd atgyfodedig, Iesu Grist. Amen.
15.
Dad nefol,
diolchwn i ti am ein llunio ar dy ddelw dy hun
ac am roddi inni ddoniau’r corff,
y meddwl a’r ysbryd. Diolchwn iti yn awr am E.
ac am yr hyn a olygai i bawb ohonom.
Wrth inni dalu teyrnged iddo/iddi, gwna ni’n fwy ymwybodol
mai ohonot ti y daw pob rhodd berffaith,
ac yn bennaf oll rhodd y bywyd tragwyddol a ddaw trwy Iesu Grist. Amen.
16.
O Dduw ein Tad,
diolchwn iti am lunio pob un ohonom ar dy ddelw dy hun,
a rhoddi inni ddoniau a thalentau i’th wasanaethu di.
Diolchwn iti am E.,
am y blynyddoedd a gawsom gydag ef/gyda hi,
am y daioni a welsom ynddo/ynddi,
ac am y cariad a dderbyniasom ganddo/ganddi.
Dyro inni yn awr y nerth a’r dewrder i’w ymddiried/hymddiried i’th ofal di,
yn llawn hyder yn dy addewid o fywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
17.
Dduw a Thad tragwyddol,
molwn di am iti lunio pobl i rannu bywyd â’i gilydd ac i adlewyrchu dy ogoniant yn y byd.
Diolchwn iti yn awr am E.
am y cyfan a welsom o’th ddaioni di yn ei fywyd/bywyd
ac am yr hyn a olygai i bob un ohonom.
Wrth i ninnau deithio tuag at farwolaeth
bydded inni wneud hynny yng nghwmni Iesu,
a ddaeth i rannu ein bywyd
er mwyn i ni gael rhannu yn y bywyd tragwyddol.
Iddo ef, gyda thi a’r Ysbryd Glân,
y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
18.
Arglwydd Dduw, creawdwr pob peth,
gwnaethost ni yn greaduriaid y ddaear hon,
ac addewaist inni ran yn y bywyd tragwyddol.
Wrth gyflwyno dy blentyn, ein brawd/chwaear E., i’th ddwylo
derbyn ein diolch a’n moliant
ei fod/bod, trwy ddioddefaint a marwolaeth Crist,
yn cyfranogi gyda’th saint yn llawenydd y nefoedd,
lle nad oes na galar na phoen
ond bywyd hyd byth. Alelwia! Amen.
19.
Hollalluog Dduw,
yr wyt yn caru pob peth a wnaethost
ac yn ein barnu â thrugaredd a chyfiawnder diderfyn.
Llawenhawn yn dy addewidion o faddeuant a thangnefedd i bawb sy’n dy garu.
Yn dy drugaredd tro nos marwolaeth yn wawrddydd bywyd newydd
a galar ein gwahanu yn llawenydd y nefoedd;
trwy ein Hiachawdwr Iesu Grist,
a fu farw ac a gyfododd drachefn
ac sy’n fyw byth bythoedd. Amen.
20.
Hollalluog Dduw,
deuwn atat ti, y barnwr goruchaf,
at Iesu, cyfryngwr y cyfamod newydd,
ac at ysbrydoedd y rhai cyfiawn a berffeithiwyd;
diolchwn iti am roddi inni deyrnas ddi-sigl
ac addolwn di â pharch ac ofn duwiol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gweddïau dros y rhai sy’n Galaru
21.
Dduw pob trugaredd,
a ninnau’n galaru oherwydd marwolaeth E.,
ac yn diolch iti am ei fywyd/bywyd,
cofiwn hefyd amseroedd
pan fu’n anodd inni ddeall a maddau,
a derbyn maddeuant.
Iachâ ein hatgofion o ddolur a methiant,
ac arwain ni i faddeuant a bywyd
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
22.
Arglwydd Iesu Grist,
wrth i ti wynebu dy farwolaeth cysuraist dy ddisgyblion:
tawela drallod ein calonnau
ac ymlid ein hofnau.
Ti yw’r ffordd: cynorthwya ni i’th ddilyn.
Ti yw’r gwirionedd: dwg ni i’th adnabod di.
Ti yw’r bywyd: dyro inni’r gras i fyw gyda thi yn awr a hyd byth. Amen.
23.
O Dduw,
rhoddaist ynom anadl einioes
ac, wrth i ti ei gymryd ymaith,
byddwn yn marw yn dy freichiau.
Yn ein galar a’n braw cynnal a chysura ni;
cofleidia ni â’th gariad,
dyro inni obaith yn ein dryswch a gras i ildio i fywyd newydd;
trwy Iesu Grist. Amen.
24.
O Dad,
yr wyt yn gwybod am ddolur ein calonnau ac yn rhannu ein gofidiau.
Cawsom ein brifo o achos ein gwahanu oddi wrth ein hannwyl E.
Pan deimlwn yn ddig oherwydd ein colled,
ac yn dyheu am eiriau o gysur,
ond yn ei chael hi’n anodd eu clywed,
tro ein galar yn gywirach buchedd,
a’n cystudd yn obaith cadarn
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
25.
Dduw grasol,
amgylchyna bawb sy’n galaru y dydd hwn â’th dosturi gwastadol.
Na ad i alar lethu dy blant na’u troi yn dy erbyn.
Pan fo galar fel pe bai’n ddiderfyn,
tywys hwy gam wrth gam ar hyd dy ffordd di,
ffordd marwolaeth ac atgyfodiad
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
26.
O Dad,
daw marwolaeth ein hanwyliaid â gwacter i’n bywydau.
Gwahanwyd ni oddi wrth E.
a theimlwn yn friwedig ac yn ddryslyd.
Dyro inni hyder ei fod/bod yn ddiogel
a bod ei fywyd/bywyd yn gyflawn gyda thi,
tynn ni yn ôl yn y diwedd i afael dy hyfrydwch lle mae tragwyddol gân dy saint a’th engyl yn atseinio byth bythoedd. Amen.
27.
Dduw pob trugaredd,
yn dy gariad rhoddaist inni dy Fab i orchfygu angau
ac i adfer bywyd tragwyddol i’th bobl.
Cysura dy weision yn eu profedigaeth
a chryfha ein ffydd a’n gobaith yn dy Fab,
ein Gwaredwr Iesu Grist. Amen.
28.
Drugarocaf Dduw,
y mae dy ddoethineb uwchlaw ein deall,
amgylchyna deulu E. â’th gariad,
fel na fyddant yn cael eu llethu gan eu colled,
ond yn cael hyder yn dy ddaioni
a nerth i wynebu’r dyfodol.
Gofynnwn hyn trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
29.
Dad pob trugaredd a Duw pob diddanwch,
yr wyt yn dyheu ac yn chwilio amdanom â chariad diflino
gan wasgaru cysgod angau â gwawr ddisglair bywyd.
(Dyro ddewrder i’r teulu hwn yn eu colled a’u gofid. Bydd iddynt yn noddfa ac yn nerth.
Dyro iddynt sicrwydd o’th gariad gwastadol a chyfod hwy o ddyfnderoedd eu
galar i dangnefedd a goleuni dy bresenoldeb.)
Mae dy Fab, ein Harglwydd Iesu Grist,
trwy farw, wedi dinistrio marwolaeth,
a thrwy atgyfodi, wedi adfer bywyd i ni.
Mae dy Ysbryd Glân, ein diddanydd,
yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau.
Tyrd at dy bobl,
atgoffa hwy o’th bresenoldeb tragwyddol a dyro iddynt dy gysur a’th nerth. Amen.
30.
Arglwydd Dduw,
yr wyt yn gwrando ar lef ein gweddi.
Caniatâ i ni yn dy Fab
ddiddanwch yn ein tristwch,
sicrwydd yn ein hamheuaeth a dewrder i fyw;
trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
31.
Arglwydd Iesu Atgyfodedig,
tyrd atom wrth inni droedio’r ffordd unig hon.
Treiddia drwy ein galar a’n lludded,
ysgafnha ein calonnau trymion wrth i ti gerdded gyda ni,
a dwg ni yn y diwedd at dy fwrdd nefol. Amen.
32.
O Dduw,
nid wyt o’th wirfodd yn peri gofid na chystudd i’th blant.
Edrych yn dosturiol ar ddioddefaint y teulu hwn yn eu colled.
Cynnal hwy yn eu gwewyr;
ac i dywyllwch eu galar dyro oleuni dy gariad;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
33.
Hollalluog Dduw,
Tad pob trugaredd a rhoddwr pob cysur:
Bydd rasol wrth y rhai sy’n galaru,
fel, trwy fwrw pob gofal arnat ti,
y cânt brofi diddanwch dy gariad;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
34.
O ddyfnder ein galar
gwaeddwn arnat, O Arglwydd.
Tydi a roddaist E. inni,
a thydi a’i cymerodd ymaith.
Tro atom, Arglwydd, tosturia wrthym,
a dyro inni’r diddanwch hwnnw na all neb ond tydi ei roddi,
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Wedi Bywyd Byr
35.
Arglwydd ein Duw,
bendithiaist ni trwy roddi E. inni,
ac yr ydym yn galaru o’i golli/cholli.
Cynorthwya ni, trwy ein dagrau a’n poen,
i weld gwaith dy law di
yn troi galar yn fendith.
I ti y bo’r gogoniant am byth. Amen.
36.
Dduw pob dirgelwch,
mae dy ffyrdd uwchlaw pob deall.
Tywys ni, sy’n galaru oherwydd y farwolaeth annhymig hon,
i ddyfnach ymddiried yn dy gariad,
a ddug dy unig Fab Iesu
trwy farwolaeth i fywyd yr atgyfodiad.
Gweddïwn yn enw Iesu. Amen.
Wedi Marwolaeth Sydyn
37.
Dduw gobaith,
deuwn atat mewn braw a galar.
Cymorth ni i ddod o hyd i dangnefedd
o wybod am dy drugaredd cariadus at bawb o’th blant,
a dyro inni oleuni i’n tywys o’n tywyllwch
i sicrwydd dy gariad,
yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Wedi Marwolaeth Dreisgar
38.
Drugarog Dduw,
mae marwolaeth E. y tu hwnt i’n deall ni
ac yn fwy nag y gallwn ei oddef.
Clyw gri ein galar,
canys gwyddost wewyr ein calonnau.
Derbyn ein gweddi
ar i E., a ryddhawyd o greulondeb y byd hwn,
gael ei dderbyn/derbyn i’th ddwylo diogel a’th gariad sicr di.
Gweddïwn am gyfiawnder
ac am i ninnau drysori’r cof amdano/amdani
yn hytrach na chanoli ar ddull ei farw/marw.
Er mwyn Iesu Grist. Amen.
Pan Nad Oes Corff yn Bresennol
39.
Dad pawb oll, gweddïwn arnat dros E.,
a garwn ond na welwn mwyach.
Dyro iddo/iddi dy dangnefedd;
llewyrched goleuni gwastadol arno/arni;
ac yn dy ddoethineb cariadus a’th allu anfeidrol
gweithia ynddo/ynddi bwrpas daionus dy berffaith ewyllys;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Wedi Hunanladdiad
40.
Dduw a Thad tragwyddol,
edrych yn drugarog ar y rhai sy’n cofio E. ger dy fron.
I E. y mae treialon y byd hwn wedi darfod ac aeth angau heibio.
Derbyn gennym yr hyn a deimlwn pan fo geiriau’n methu;
gwared ni rhag anobaith
a dyro inni nerth i wynebu’r dyfodol
yn ffydd Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
41.
Dduw ein nerth a’n hiachawdwriaeth,
nid wyt yn cefnu arnom yn y bywyd hwn
nac yn ein gadael yn yr angau.
Gwrando ein gweddïau dros bawb sydd yn llwyr ddigalon,
pan fydd dyddiau’n llawn tywyllwch
a’r dyfodol yn amddifad o obaith.
Adnewydda ynddynt dy nerth cynhaliol
gan na all dim yn yr holl greadigaeth
ein gwahanu oddi wrth dy gariad
yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Amen.
Wedi Cystudd Hir
42.
Dduw ein gwaredigaeth,
gelwaist ein brawd/chwaer E.
i’th wasanaethu mewn gwendid a phoen,
gan roi iddo/iddi y gras o rannu croes dy Fab.
Gwobrwya ei amynedd/hamynedd a’i ddyfalbarhad/dyfalbarhad,
a dyro iddo/iddi gyflawnder buddugoliaeth Crist.
Gofynnwn hyn trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Mewn Gofid, Euogrwydd ac Edifeirwch
43.
Dduw maddeugar,
yn wyneb angau darganfyddwn
gynifer o bethau sydd eto heb eu gwneud,
ac y gellid bod wedi eu gwneud.
Achub gam ein methiant;
rhwyma glwyfau camgymeriadau’r gorffennol;
trawsffurfia ein heuogrwydd yn gariad gweithredol;
a thrwy dy faddeuant gwna ni’n gyflawn;
yn enw Iesu. Amen.
Gweddïau am Barodrwydd i Fyw yng Ngoleuni Tragwyddoldeb
44.
O Arglwydd, cynnal ni
trwy gydol dydd ein bywyd blin,
hyd onid estynno’r cysgodion a dyfod yr hwyr,
distewi o ddwndwr byd,
tawelu o dwymyn bywyd a gorffen ein gwaith.
Yna, Arglwydd, yn dy drugaredd dyro inni lety diogel,
gorffwysfa sanctaidd, a thangnefedd yn y diwedd;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
45.
Dyro inni, Arglwydd,
ddoethineb a gras
i iawn ddefnyddio’r amser
sy’n weddill inni ar y ddaear.
Tywys ni i edifarhau am ein pechodau,
am y drwg a wnaethom
a’r da na wnaethom;
a nertha ni i ddilyn yn ôl traed dy Fab,
ar y ffordd sy’n arwain i gyflawnder bywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
46.
Dduw ein Tad,
diolchwn i ti am anfon dy Fab Iesu Grist
i farw drosom a chyfodi drachefn.
Cyhoedda ei groes dy gariad diderfyn
a’i atgyfodiad nad oes gan angau golyn mwyach.
Trwy ei fuddugoliaeth cawn sicrwydd
na chefni di arnom na’n gadael byth;
ac na all nac angau nac einioes,
na’r presennol na’r dyfodol,
ein gwahanu ni oddi wrth dy gariad di
yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Amen.
47.
Hollalluog Dduw,
wedi ein calonogi gan esiampl dy saint,
bydded i ni redeg yr yrfa a osodwyd o’n blaen heb ddiffygio,
gan gadw ein golwg ar Iesu,
awdur a pherffeithydd ein ffydd;
fel yr ymunom yn y diwedd â’r rhai a garwn yn dy bresenoldeb tragwyddol di lle y mae cyflawnder llawenydd;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
48.
Hollalluog Dduw,
amgylchynaist ni â chwmwl mawr o dystion.
Fel y nerthaist hwy,
ysbrydola ni i fwrw ymaith bob rhwystr a’r pechod sy’n ein maglu mor rhwydd.
Fel y cynhaliaist hwy,
cadw ni i redeg yn yr yrfa sydd o’n blaen,
gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ein ffydd.
Gwrando ni wrth inni offrymu gyda hwy,
yn nerth dy Ysbryd tragwyddol,
ein cân ddiderfyn o fawl,
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
49.
O Dad,
dy Fab yw ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol pawb a’i dilyno.
Pan demtir ni i droi ymaith o’th ffordd,
dyro inni ufudd-dod Crist, ein brawd.
Pan ddifwynir ein cydwybod gan bechod,
glanha ni drwy aberth Crist, ein hoffeiriad.
Pan fyddwn yn ofni marw,
ac yn ofni marwolaeth y rhai a garwn,
nertha ni o wybod i Grist fynd o’n blaen a dyfod i’th bresenoldeb sanctaidd,
wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd,
lle y mae’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw yn awr a hyd byth. Amen.
50.
Dduw tragwyddol,
dywedodd dy Fab Iesu Grist,
“Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon a pheidiwch ag ofni.”
Tynn ymaith oddi wrthym ofn marwolaeth;
dwg ni i’r lle yr aeth ef i’w baratoi ar ein cyfer;
a dyro inni ei dangnefedd am byth. Amen.
51.
Tywys ni, O Arglwydd ein Duw, yn ein deffro olaf, at drigfan a phorth y nefoedd,
i fynd drwy’r porth hwnnw a byw yn y drigfan honno, lle na fydd tywyllwch na disgleirdeb
ond un goleuni gwastadol; dim twrw na thawelwch,
ond un gerddoriaeth wastadol; dim ofnau na gobeithion,
ond un meddiant gwastadol; dim diwedd na dechreuad,
ond un tragwyddoldeb gwastadol;
yn nhrigfannau dy ogoniant a’th fawrhydi byth bythoedd. Amen.
52.
Dad annwyl, rhoddwr bywyd,
fe’n gwnaethost ar dy gyfer dy hun
ac mae ein calonnau yn anniddig nes iddynt orffwys ynot ti. Caniatâ inni dy garu a’th wasanaethu di,
a byw iti bob dydd yn y fath fodd,
fel y gallwn o’r diwedd estyn ein breichiau atat ti gan wybod dy fod di’n ein caru,
y gallwn agor ein calonnau i ti a gwybod ein bod wedi derbyn maddeuant;
felly, wedi ein caru ac wedi derbyn dy faddeuant y medrwn orffwys ynot ti; trwy gariad ein Gwaredwr Iesu Grist.
Amen.
53.
Dduw tragwyddol,
yr wyt yn llewyrchu ar y rhai sydd yn eistedd yn nhywyllwch cysgod angau:
dyro dy oleuni i’r rhai sy’n galaru
fel y cânt lawenhau yn dy ddiddanwch bendigedig a byw yng ngoleuni atgyfodiad
Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
54.
Dad pawb oll,
trwy dy drugaredd a’th ras,
erys dy saint mewn goleuni a thangnefedd tragwyddol: cofiwn yn ddiolchgar
am y rhai hynny a garwn ond na welwn mwyach; a gweddïwn ar i’th berffaith ewyllys di
gael ei chyflawni ynddynt;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
55.
Arglwydd Dduw tragwyddol,
y mae pob enaid byw yn dy law: llewyrcha, gweddïwn arnat,
ar dy Eglwys gyfan yn y nefoedd ac ar y ddaear, belydrau disglair dy oleuni a’th ddiddanwch nefol; a chaniatâ fod i ni,
gan ddilyn esiampl dda
y rhai a’th garodd ac a’th wasanaethodd yma ac sydd yn awr yn gorffwyso,
ddyfod yn y diwedd gyda hwy
i gyflawnder dy lawenydd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Litanïau a Gweddïau Ymatebol
56.
Mewn tangnefedd gweddïwn ar yr Arglwydd.
Iesu, y bara sy’n disgyn o’r nef,
yr wyt yn llenwi’r newynog â phethau da:
dyro inni gyfran gyda phawb o’r ffyddloniaid ymadawedig yng ngwledd dy deyrnas.
Gwrando ni, Arglwydd atgyfodedig,
ein hatgyfodiad a’n bywyd.
Iesu, goleuni’r byd,
rhoddaist olwg i’r dyn a anwyd yn ddall ac agoraist ei lygaid i gredu:
dwg bawb sydd mewn tywyllwch i’th oleuni a’th ogoniant tragwyddol.
Gwrando ni, Arglwydd atgyfodedig,
ein hatgyfodiad a’n bywyd.
Iesu, Mab y Duw byw,
gelwaist dy ffrind Lasarus o farwolaeth i fywyd:
cyfod ni yn y diwedd i lawnder bywyd tragwyddol gyda thi.
Gwrando ni, Arglwydd atgyfodedig,
ein hatgyfodiad a’n bywyd.
Iesu, Iachawdwr croeshoeliedig,
wrth farw ymddiriedaist Fair dy fam ac Ioan y disgybl annwyl i’w gilydd:
cynnal a chysura bawb sy’n galaru.
Gwrando ni, Arglwydd atgyfodedig,
ein hatgyfodiad a’n bywyd.
Iesu, ein ffordd a’n gwirionedd a’n bywyd, arweiniaist dy ddisgybl Thomas o amheuaeth i ffydd:
amlyga’r atgyfodiad i’r rhai sy’n amau a’r rhai sydd ar goll.
Gwrando ni, Arglwydd atgyfodedig,
ein hatgyfodiad a’n bywyd.
Bydded i Dduw yn ei gariad a’i drugaredd diderfyn ddwyn yr Eglwys gyfan, y byw a’r meirw yn yr Arglwydd Iesu, i atgyfodiad llawen a chyflawniad ei deyrnas dragwyddol. Amen.
57.
Trown at Grist Iesu mewn hyder
ac mewn ffydd yng ngrym ei groes a’i atgyfodiad.
Arglwydd atgyfodedig, patrwm ein bywyd am byth: Arglwydd, trugarha.
Arglwydd, trugarha.
Addewid a delwedd yr hyn a fyddwn: Arglwydd, trugarha.
Arglwydd, trugarha.
Fab Duw a ddaeth i ddinistrio pechod ac angau: Arglwydd, trugarha.
Arglwydd, trugarha.
Air Duw a’n hachubodd rhag ofn marwolaeth: Arglwydd, trugarha.
Arglwydd, trugarha.
Arglwydd croeshoeliedig, a wrthodwyd yn dy farwolaeth, ac a gyfodwyd mewn gogoniant:
Arglwydd, trugarha.
Arglwydd, trugarha.
Arglwydd Iesu, bugail tyner sy’n rhoddi gorffwystra i’n heneidiau, dyro i E. dangnefedd am byth:
Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.
Arglwydd Iesu, yr wyt yn bendithio’r rhai sy’n galaru ac sydd mewn poen. Bendithia deulu a chyfeillion E. a ddaeth ynghyd o’i gwmpas/chwmpas heddiw:
Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.
58.
Y mae’r Arglwydd Iesu yn caru ei bobl, ac ef yw ein hunig obaith diogel.
Gofynnwn iddo ddyfnhau ein ffydd a’n cynnal yn yr awr dywyll hon.
Daethost yn blentyn bach er ein mwyn ni, gan rannu ein bywyd meidrol.
Arnat ti y gweddïwn:
bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.
Cynyddaist mewn doethineb, mewn oedran ac mewn gras, a dysgaist ufudd-dod trwy ddioddef.
Arnat ti y gweddïwn:
bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.
Croesewaist blant ac addo iddynt dy deyrnas: Arnat ti y gweddïwn:
bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.
Cysuraist rai a oedd yn galaru o golli plant a chyfeillion.
Arnat ti y gweddïwn:
bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.
Cymeraist arnat dy hun ddioddefaint a marwolaeth pob un ohonom.
Arnat ti y gweddïwn:
bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.
Addewaist gyfodi’r sawl sy’n credu ynot,
fel y cefaist ti dy gyfodi mewn gogoniant gan y Tad.
Arnat ti y gweddïwn:
bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.
59.
Gyfeillion annwyl, y mae ein Harglwydd yn dod i gyfodi’r meirw ac y mae ef yn ein cysuro â diddanwch ei gariad. Molwn yr Arglwydd Iesu Grist.
Air Duw, creawdwr y ddaear y mae E. yn awr yn dychwelyd iddi, yn ei fedydd/bedydd gelwaist ef/hi i’r bywyd tragwyddol i foliannu dy Dad am byth:
Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.
Fab Duw, yr wyt yn cyfodi’r cyfiawn ac yn eu gwisgo â gogoniant dy deyrnas:
Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.
Arglwydd croeshoeliedig, yr wyt yn amddiffyn enaid E. trwy allu dy groes, ac ar ddydd dy ddyfodiad byddi’n dangos trugaredd i bob un o’r ffyddloniaid ymadawedig:
Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.
Farnwr y byw a’r meirw, wrth dy lais bydd y beddau’n agor a bydd pob un cyfiawn sy’n huno yn dy dangnefedd yn cyfodi i ganu gogoniant Duw:
Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.
Pob moliant i ti, Iesu ein Gwaredwr, y mae angau yn dy ddwylo ac arnat ti yn unig y dibynna pob un byw:
Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.
60.
Arglwydd Iesu Grist, gwyddost feddyliau ein calonnau, yr wyt yn rhannu ein llawenydd a’n galar;
dyfnha ein ffydd a chynnal ni yn yr awr dywyll hon.
Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.
Arglwydd, cysuraist Fartha a Mair yn eu trallod; tyrd atom ni sy’n galaru o golli E.,
a sych ymaith ddagrau pawb sy’n wylo.
Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.
Arglwydd, wylaist wrth fedd Lasarus, dy ffrind, cysura ninnau hefyd yn ein galar.
Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.
(Arglwydd, golchwyd dy blentyn E. yn nŵr y bedydd,
a’i heneinio â’r Ysbryd Glân; dyro iddo/iddi gymdeithas â’th holl saint.
Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.)
(Arglwydd, porthaist E. â’th Gorff a’th Waed; dyro iddo/iddi
le wrth fwrdd dy deyrnas.
Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.)
(Arglwydd, gweinyddodd dy ddiacon/offeiriad/esgob E. dy sacramentau ac arwain dy bobl mewn gweddi: bydded iddo/iddi yn awr gyfranogi o addoliad y nefoedd.
Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.)
Arglwydd, bydded i’n ffydd fod yn gysur inni, a’r bywyd tragwyddol yn obaith inni.
Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.
61.
Dad hollalluog, Duw Greawdwr, ffynhonnell a diben pob bywyd:
trugarha wrthym.
Iesu Grist, Iachawdwr croeshoeliedig ac Arglwydd byw, cydymaith a thywysydd:
trugarha wrthym.
Ysbryd Glân, cawn ein hadnewyddu trwy dy nerth, a cherddwn yn dy oleuni heb amheuaeth nac ofn:
trugarha wrthym.
Yng ngwendid ein ffydd, diffyg dyfnder ein gobaith, a phrinder ein cariad:
trugarha wrthym.
Pan gadwn ein doniau i ni ein hunain, a cheisio byw hebot ti:
trugarha wrthym.
Am iti ein creu i ti dy hun:
diolchwn iti, O Arglwydd.
Am dy fod yn cynnal bywyd pob enaid:
diolchwn iti, O Arglwydd.
Am dy fod yn ein hadnewyddu yn ein holl ofidiau a thrallodion, gan ein harwain at ddyfroedd tawel:
diolchwn iti, O Arglwydd.
Am iti, yn atgyfodiad dy Fab, roddi inni sicrwydd ffydd, goleuni gobaith a grym cariad:
diolchwn iti, O Arglwydd.
62.
Gweddïwn yn hyderus ar Dduw ein Tad,
a gyfododd Grist ei Fab oddi wrth y meirw er iachawdwriaeth pawb.
Caniatâ, O Arglwydd, i’th was/wasanaethferch adnabod cyflawnder y bywyd a addewaist i’r rhai sy’n dy garu.
Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.
Bydd yn agos at y rhai sy’n galaru:
cynydda eu ffydd yn dy gariad anfarwol.
Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.
Cryfhaer ein ffydd, bydded inni fyw gweddill ein bywydau gan ddilyn dy Fab, a bod yn barod pan elwi ni i fywyd tragwyddol.
Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.
Trugarha wrth y rhai sy’n marw; nertha hwy â gobaith, a llanw hwy â thangnefedd a llawenydd dy bresenoldeb. Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.
Arglwydd,
cyflwynwn bawb a fu farw i’th gariad sicr, fel y cyflawner ynddynt dy ewyllys di.
Gweddïwn y cawn ninnau gyfran gyda hwy yn dy deyrnas dragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gweddïau o Ymddiried a Chyflwyno
63.
Arglwydd Iesu, ein prynwr, buost farw yn ewyllysgar,
er mwyn achub pawb o farwolaeth a’u dwyn i fywyd.
Trwy farw agoraist byrth bywyd i bawb sy’n credu ynot.
Gan hynny, cyflwynwn E. i’th freichiau trugarog, gan gredu, a’i bechodau/phechodau wedi eu maddau,
y caiff breswylio mewn llawenydd, goleuni a thangnefedd yn nheyrnas dy ogoniant am byth. Amen.
64.
Y mae E. wedi huno yn nhangnefedd Crist. Â’n ffydd a’n gobaith yn y bywyd tragwyddol, cyflwynwn ef/hi i gariad a thrugaredd ein Tad
a’i amgylchynu/hamgylchynu â’n cariad a’n gweddïau. (Yn ei fedydd/bedydd, fe’i gwnaed trwy fabwysiad yn blentyn Duw.
Yn y Cymun, fe’i cynhaliwyd ac fe’i porthwyd.
Y mae Duw yn awr yn ei groesawu/chroesawu at ei fwrdd yn y nefoedd i rannu bywyd tragwyddol gyda'r holl saint.) Amen.
65.
Dad nefol,
bydd dy Fab Iesu Grist, y cyntaf-anedig o blith y meirw, yn cyfodi cyrff ei bobl ffyddlon
i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef.
Cyflwynwn E. i’th drugaredd
a gweddïwn ar iti, wrth ei gymryd/chymryd atat dy hun, ein bendithio ninnau â thangnefedd;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
a fu farw ac a gyfododd drachefn i’n hachub,
ac sy’n awr yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân mewn gogoniant am byth. Amen.
66.
Dad nefol,
rhoddaist inni sicrwydd
y caiff pawb sy’n gweld dy Fab ac sy’n credu ynddo
fywyd tragwyddol.
Gan ymddiried yn dy ffyddlondeb, cyflwynwn E. i’th drugaredd,
gan ddisgwyl y dydd mawr hwnnw
pan fyddi’n ein cyfodi ni gydag ef/gyda hi
i fywyd buddugoliaethus ac y safwn ger dy fron,
a’th holl greadigaeth wedi ei hadnewyddu yng ngogoniant dy deyrnas nefol. Amen.
67.
Dduw ein creawdwr a’n prynwr,
trwy dy allu fe orchfygodd Crist farwolaeth a dychwelyd atat mewn gogoniant,
yn dwyn yn ei gorff olion ei ddioddefaint.
Gan hyderu yn dy fuddugoliaeth a chan hawlio ei addewidion,
yr ydym yn ymddiried E. i’th ofal yn enw Iesu ein Harglwydd, sydd, er iddo farw, yn awr yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw yn awr ac am byth. Amen.
68.
Dad hollalluog,
wrth iti ein dwyn wyneb yn wyneb â’n marwoldeb, diolchwn i ti am ein llunio ar dy ddelw dy hun
a rhoddi inni ddoniau’r corff, y meddwl a’r ysbryd. Diolchwn i ti yn awr wrth inni dalu teyrnged i E., a roddaist inni ac a gymeraist ymaith.
Ymddiriedwn ef/hi i’th drugaredd,
a gweddïwn ar iti ddangos inni lwybr y bywyd, a chyflawnder llawenydd yn dy bresenoldeb byth bythoedd. Amen.
69.
Hollalluog Dduw, yn dy gariad mawr
lluniaist ni â’th ddwylo
a thrwy dy Ysbryd rhoddaist i ni anadl einioes.
Ni chefnaist arnom
er i ni fod yn bobl wrthryfelgar, O’th dyner drugaredd anfonaist dy Fab
i adfer dy ddelw arnom.
Dangosodd ei gariad
trwy farw drosom ar y groes. Trwy dy allu nerthol cyfodaist ef o’r bedd
a’i ddyrchafu i orsedd y gogoniant. Gan ymlawenhau yn ei fuddugoliaeth a chan ymddiried yn dy addewid
i roi bywyd tragwyddol i bawb sy’n troi at Grist, cyflwynwn E. i’th drugaredd,
ac ymunwn â’th holl bobl ffyddlon ac â holl gwmpeini’r nef
yn yr un gân dragwyddol o foliant:
Y mawl a’r anrhydedd, y gogoniant a’r gallu
a fo i ti, byth bythoedd. Amen.
Ffurfiau ar y Fendith a Diweddiadau Eraill
70.
Ac yn awr iddo ef
sydd â’r gallu ganddo i’n cadw rhag syrthio, a’n codi o ddyffryn tywyll anobaith
i fynydd disglair gobaith,
iddo ef y byddo gogoniant a mawrhydi, gallu ac awdurdod, yn awr a byth bythoedd. Amen.
71.
Duw fo yn fy mhen ac yn fy neall;
Duw fo yn fy nhrem, ac yn f’edrychiad;
Duw fo yn fy ngair ac yn fy siarad;
Duw fo yn fy mron ac yn fy nirnad;
Duw fo ar ben fy nhaith,
ac ar f’ymadawiad. Amen.
72.
Bydded i Grist y bugail da eich cofleidio â chariad, eich llenwi â thangnefedd,
a’ch tywys mewn gobaith hyd ddiwedd eich dyddiau; a bendith Duw hollalluog,
y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân,
a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.
73.
Bydded i gariad Duw
a thangnefedd ein Harglwydd Iesu Grist
eich cysuro a sychu ymaith yn dyner bob deigryn o’ch llygaid.
Bendithied yr Hollalluog Dduw chwi, yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân. Amen.
74.
Bydded i’r Duw tragwyddol ein bendithio a’n cadw,
amddiffyn ein cyrff, achub ein heneidiau a’n dwyn yn ddiogel i’r wlad nefol,
ein cartref tragwyddol,
lle y mae’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân yn teyrnasu, yn un Duw byth bythoedd. Amen.
Mewn Gwasanaeth Coffa
75.
Bydded i gariad yr Arglwydd Iesu eich tynnu ato’i hun; bydded i nerth yr Arglwydd Iesu eich cryfhau yn ei wasanaeth; a bydded i lawenydd yr Arglwydd Iesu lenwi eich calonnau;
a bendith Duw hollalluog,
y Tad a’r Mab ac Ysbryd Glân,
a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.
76.
Bydded i’r Drindod anfeidrol a gogoneddus, y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân,
gyfarwyddo ein bywyd mewn gweithredoedd da, a rhoddi inni, ar derfyn ein taith trwy’r byd hwn, orffwysfa dragwyddol gyda’r saint. Amen.
77.
Bydded i’r Arglwydd Dduw hollalluog, y Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân,
y Drindod sanctaidd a diwahân, ein gwarchod, ein hachub,
a’n dwyn i’r ddinas nefol honno
lle y mae’n fyw ac yn teyrnasu byth bythoedd. Amen.
78.
Yr Arglwydd Dduw hollalluog yw ein Tad:
y mae yn ein caru ac yn gofalu’n dyner amdanom.
Yr Arglwydd Iesu Grist yw ein Hiachawdwr:
fe’n gwaredodd ac fe’n hamddiffyn ni hyd y diwedd.
Y mae’r Arglwydd, yr Ysbryd Glân, yn ein plith:
fe’n tywys yn ffordd sanctaidd Duw.
I Dduw hollalluog, y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân:
y bo’r moliant a’r gogoniant yn awr ac am byth. Amen.
Gweddïau i’w defnyddio ar ôl Salmau
I’w defnyddio ar ôl Salm 6:
Arglwydd, pylodd ein llygaid gan ofid, gwyddost ein bod yn diffygio gan ein cwynfan.
Wrth inni gofio am ein marwolaeth yng ngwacter tywyll y nos, trugarha wrthym ac iachâ ni;
maddau inni a dwg ymaith ein hofn
trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu dy Fab. Amen.
I’w defnyddio ar ôl Salm 32:
Arglwydd, ein cysgod mewn cyfyngder, dygi ein heuogrwydd i gof.
Y mae dy law yn drwm arnom; sychwyd ein nerth
ac yr ydym yn cydnabod yn agored ein heuogrwydd. Amgylcha ni â’th drugaredd.
Dysg ni i ymddiried ynot, a dwg ni yn y diwedd
i lawenhau yn dy bresenoldeb am byth. Amen.
I’w defnyddio ar ôl Salm 38:
Arglwydd, trugarha wrth y sawl sy’n galaru ar hyd y dydd,
wedi eu llethu gan faich o ofid, eu nerth yn pallu, a’u cyfeillion a’u cymdogion wedi cilio.
Gwyddost am ein holl ocheneidio a’n dyheu: bydd yn agos atom a dysg i ni obeithio ynot ti; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
I’w defnyddio ar ôl Salm 39:
Arglwydd Iesu Grist, Mab y Duw byw, caniatâ inni dy geisio yn wastadol
ac ymborthi arnat gydol ein dyddiau, canys yr wyt ti ym mhopeth
gyda phopeth a thrwy bopeth, yn awr a hyd byth. Amen.
I’w defnyddio ar ôl Salm 90:
Dysg ni, Arglwydd, i gyfrif ein dyddiau;
i weld rhychwant ein heinioes yng ngoleuni tragwyddoldeb. Amlyga inni dy ysblander.
Dyro inni ddoethineb a gras i adnabod dy gariad ac i ymlawenhau yn dy faddeuant a’th fywyd; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
I’w defnyddio ar ôl Salm 116:
Arglwydd bywyd,
rhodiwn drwy dragwyddoldeb yn dy bresenoldeb.
Arglwydd marwolaeth,
galwn arnat yn ein gofid a’n galar:
ac yr wyt ti yn ein clywed a’n hachub.
Gwylia drosom wrth inni alaru am dy was/wasanaethferch, sy'n werthfawr yn dy olwg,
a chadw ni’n ffyddlon i ti. Amen.
I’w defnyddio ar ôl Salm 120:
Dduw pob trugaredd,
yr ydym mewn helbul ac yn galw arnat.
Gwared ni rhag twyll ac enllib a phoen ymosodiad y gelyn,
a dyro inni dangnefedd,
tangnefedd Crist a enillwyd ar y groes. Amen.
I’w defnyddio ar ôl Salm 121:
Arglwydd ffyddlon,
gwylia drosom a chadw ni’n ddiogel.
Bydd gyda ni yn ein mynd a’n dod, yn awr ac am byth. Amen.
I’w defnyddio ar ôl Salm 130:
Arglwydd trugaredd a gwaredigaeth,
achub ni, gweddïwn arnat, o ddyfnderoedd pechod a marwolaeth;
maddau inni bob camwedd,
a dyro inni ras i sefyll yn dy bresenoldeb,
i’th wasanaethu yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
I’w defnyddio ar ôl Salm 138:
Arglwydd,
na chefna arnom yn ein trallod.
Cadw ni’n ddiogel yng nghanol cyfyngder. a chwblha dy bwrpas ar ein cyfer
trwy dy gariad a’th ffyddlondeb diwyro yn Iesu Grist ein Hiachawdwr. Amen.
I’w defnyddio ar ôl Salm 139:
Arglwydd,
ti sydd wedi ein creu a’n llunio,
yr wyt wedi ein chwilio a’n hadnabod,
yr wyt bob amser gyda ni mewn goleuni a thywyllwch cynorthwya ni i adnabod dy bresenoldeb yn y bywyd hwn ac, yn y bywyd a ddaw, i barhau i fod gyda thi,
lle’r wyt yn fyw ac yn teyrnasu, yn Dduw am byth. Amen.
XIII. Darlleniadau o’r Beibl a Salmau i’w Defnyddio mewn Gwasanaethau Angladd a Gwasanaethau Coffa
Mae’r darlleniadau a'r salmau a nodwyd â * yn arbennig o addas yn angladd plentyn.
Darlleniadau o’r Beibl
Pregethwr 3. 1-8; Amser i bopeth.
Eseia 25. 6-9; 26. 3, 4; Llyncir angau am byth.
* Eseia 61. 1-3; Newydd da i’r toredig o galon.
Galarnad 3. 22-26, 31-33; Trugaredd diderfyn yr Arglwydd.
Doethineb Solomon 3. 1-9; Ni ddaw poenedigaeth byth i’w rhan.
* Mathew 5. 1-12a; Y Gwynfydau.
* Mathew 11. 25-30; Fe roddaf fi orffwystra i chwi.
* Mathew 18. 1-5, 10; Y mwyaf yn Nheyrnas Nefoedd.
* Marc 10. 13-16; Gadewch i’r plant ddod ataf fi.
Marc 15. 33-39; 16.1-7; Marwolaeth ac atgyfodiad Crist.
Luc 24. 13-16, (17-27), 28-35; Y ffordd i Emaus.
Ioan 5. 24-29; 6. 37-40; Gweld y Mab a chredu ynddo.
Ioan 6. 53-58; Caiff y sawl sy’n bwyta’r bara hwn fyw am byth.
* Ioan 10. 11-16; Myfi yw’r bugail da.
Ioan 11. 21-27; Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd.
Ioan 14. 1-6, 18, 19; Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd.
Ioan 20. 1-9, (10-19); Y Crist atgyfodedig
Rhufeiniaid 8. 31b-39; Ni all dim ein gwahanu oddi wrth gariad Duw yng Nghrist.
Rhufeiniaid 14. 7-9, (10-13, 16, 17); Arglwydd y meirw a’r byw.
1 Corinthiaid 15. 3-20; Tystio i atgyfodiad Crist.
1 Corinthiaid 15. 20-26, 35-38, (39-41), 42-58; O angau, ble mae dy fuddugoliaeth?
2 Corinthiaid 4. 16 – 5.9; Gogoniant digymar.
Philipiaid 3. 7-11, (12-21); Grym atgyfodiad Crist (Dinasyddion y nefoedd).
2 Timotheus 2. 8-13; Byddwn fyw gyda Christ.
* 1 Pedr 1. 3-9; Gobaith bywiol.
* 1 Ioan 3. 1, 2; Plant Duw.
* 1 Ioan 4. 7-18a; Cariad yw Duw.
Datguddiad 7. 9-17; Bydd Duw yn sychu pob deigryn.
Datguddiad 20. 11-13; Llyfr y bywyd.
* Datguddiad 21. 1-7; Y Jerwsalem newydd.
Salmau
* Salm 23.
Salm 90. 1-6, 10, 12-17.
* Salm 103. 1-4, 13-18.
* Salm 121.
Salm 139. 1-12.
Gweler hefyd yr adran “Gweddïau i’w defnyddio ar ôl y Salmau”.
XIV. Cantiglau i’w Defnyddio mewn Gwasanaethau Angladd a Choffa
1) Cân am y Gwaredwr
Cyhoeddwch flwyddyn ffafr yr Arglwydd:
a diddanwch bawb sy’n galaru.
Y mae ysbryd yr Arglwydd Dduw arnaf:
oherwydd i’r Arglwydd fy eneinio
I gysuro’r toredig o galon:
ac i roi gollyngdod i’r carcharorion;
I gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd:
ac i ddiddanu pawb sy’n galaru,
I roi iddynt olew llawenydd yn lle galar:
mantell moliant yn lle digalondid.
Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder:
wedi eu plannu gan yr Arglwydd i’w ogoniant.
Felly y gwna’r Arglwydd Dduw i gyfiawnder a moliant:
darddu gerbron yr holl genhedloedd.
Ailadeiladant hen adfeilion:
atgyweiriant ddinasoedd diffaith.
Fe’u gelwir hwy yn Waredigion yr Arglwydd:
ac fe’th elwir di yn Ddinas nas gwrthodwyd.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab,
ac i’r Ysbryd Glân;
fel yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,
ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
2) Cân Manasse
Llawn tosturi a thrugaredd a chariad:
yw’r Duw goruchaf a hollalluog.
Arglwydd hollalluog, Duw ein tadau ni:
ti a wnaeth nef a daear a holl ysblander eu trefn.
Y mae pob peth yn crynu ac yn dychrynu:
gerbron dy allu di.
Difesur a diamgyffred yw’r drugaredd a addewaist:
canys ti yw’r Arglwydd goruchaf.
Yr wyt yn dosturiol a hirymarhous a mawr dy drugaredd:
yn ymatal rhag cosbi drygioni dynion.
Arglwydd Dduw y cyfiawn:
ordeiniaist edifeirwch i mi, sy’n bechadur.
Oherwydd lluosocach na thywod y môr:
yw nifer fy mhechodau i.
Amlhaodd fy nhroseddau, fel nad wyf deilwng:
i edrych i fyny a syllu ar uchder y nefoedd.
Ac yn awr rwy’n darostwng fy nghalon:
gan ddeisyf dy ffyddlondeb.
Pechadur wyf, O Arglwydd, pechadur:
ac yr wyf yn cydnabod fy nhroseddau.
Er mor annheilwng wyf:
fe’m hachubi yn ôl dy drugaredd fawr.
Oherwydd y mae holl lu’r nefoedd yn dy foliannu di:
ac eiddot ti yw’r gogoniant am byth.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab,
ac i’r Ysbryd Glân;
fel yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,
ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
3) Justorum Animae
Cafodd Duw yr uniawn yn deilwng:
a digoll yw eu gobaith am anfarwoldeb.
Y mae eneidiau’r cyfiawn yn llaw Duw:
ac ni ddaw poenedigaeth byth i’w rhan.
Yn llygaid y rhai ynfyd, y maent fel pe baent wedi marw:
ond y maent mewn hedd.
Oherwydd er i gosb ddod arnynt yng ngolwg dynion:
digoll yw eu gobaith am anfarwoldeb;
Ac er eu disgyblu ychydig, mawr fydd eu hennill:
am fod Duw wedi eu profi
a’u cael yn deilwng ohono ef ei hun.
Fel aur mewn tawddlestr y profodd hwy:
ac fel poethoffrwm yr aberth y derbyniodd hwy.
Pan ddaw Duw i ymweld â hwy cyneuant yn wenfflam:
fel gwreichion mewn sofl fe redant drwy’r byd.
Cânt lywodraethu ar genhedloedd a rheoli ar bobloedd:
a’r Arglwydd fydd eu brenin am byth.
Bydd y rhai sy’n ymddiried ynddo ef yn deall y gwir:
a’r ffyddloniaid yn gweini arno mewn cariad,
Oherwydd gras a thrugaredd:
yw rhan ei etholedigion.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân;
fel yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,
ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
4) Nunc Dimittis
Pan fyddom yn effro, bydded inni wylio gyda Christ:
pan fyddom ynghwsg, bydded inni orffwys mewn tangnefedd.
Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd:
mewn tangnefedd yn unol â’th air;
Oherwydd y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth:
a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd:
Goleuni i fod yn ddatguddiad i’r Cenhedloedd
ac yn ogoniant i’th bobl Israel.”
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab,
ac i’r Ysbryd Glân;
fel yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,
ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
5) Cân y Rhai a Gyfiawnhawyd
Oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd:
y mae gennym heddwch â Duw
trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
Y mae cyfiawnder i’w gyfrif i ni, sydd â ffydd gennym:
yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw.
Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau:
a’i gyfodi i’n cyfiawnhau ni.
Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd:
y mae gennym heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
Trwyddo ef, yn wir, cawsom ffordd, trwy ffydd:
i ddod i’r gras hwn yr ydym yn sefyll ynddo.
Yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn y gobaith:
y cawn gyfranogi yng ngogoniant Duw.
Yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau:
oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw’r gallu i ymddál,
Ac o’r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad:
ac o gymeriad y daw gobaith.
A dyma obaith na chawn ein siomi ganddo:
oherwydd y mae cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy’r Ysbryd Glân y mae ef wedi ei roi i ni.
Ond prawf Duw o’r cariad sydd ganddo tuag atom ni:
yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.
A ninnau yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef:
y mae’n sicrach fyth y cawn ein hachub trwyddo ef rhag y digofaint.
Ond heblaw hynny, yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist:
trwyddo ef yr ydym yn awr wedi derbyn y cymod.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab,
ac i’r Ysbryd Glân;
fel yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,
ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
6) Cân Plant Duw
Y mae Ysbryd y Tad,
a gyfododd Grist Iesu oddi wrth y meirw:
yn rhoddi bywyd i bobl Dduw.
Yng Nghrist Iesu y mae cyfraith yr Ysbryd, sy’n rhoi bywyd:
wedi ein rhyddhau o afael cyfraith pechod a marwolaeth.
Y mae pawb sy’n cael eu harwain gan Ysbryd Duw yn blant Duw:
oherwydd inni dderbyn yr Ysbryd
yr ydym trwyddo yn llefain, “Abba! Dad!”
Y mae’r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni:
ein bod yn blant i Dduw.
Ac os plant, etifeddion hefyd, etifeddion Duw a chydetifeddion â Christ:
os yn wir yr ydym yn cyfranogi o’i ddioddefaint ef er mwyn cyfranogi o’i ogoniant hefyd.
Nid yw dioddefiadau’r presennol:
i’w cymharu â’r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni.
Yn wir, y mae’r greadigaeth yn disgwyl yn daer:
am i blant Duw gael eu datguddio.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab,
ac i’r Ysbryd Glân;
fel yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,
ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
7) Cân o Ffydd
Cyfododd Duw Grist oddi wrth y meirw:
yr Oen di-fai a di-nam.
Bendigedig fyddo Duw a Thad:
ein Harglwydd Iesu Grist!
O’i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o’r newydd i obaith bywiol:
trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,
I etifeddiaeth na ellir na’i difrodi, na’i difwyno, na’i difa:
Saif hon ynghadw yn y nefoedd i chwi,
Chwi sydd trwy ffydd dan warchod gallu Duw hyd nes y daw iachawdwriaeth:
yr iachawdwriaeth sydd yn barod i’w datguddio yn yr amser diwethaf.
Nid â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid:
oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych,
Ond â gwaed gwerthfawr:
Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist.
Trwyddo ef yr ydych yn credu yn Nuw:
yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant,
fel y byddai eich ffydd a’ch gobaith chwi yn Nuw.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab,
ac i’r Ysbryd Glân;
fel yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,
ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
8) Cân y Rhai a Brynwyd
I’n Duw ni y perthyn y waredigaeth:
fe’n tywys at ffynhonnau’r dyfroedd byw.
Wele dyrfa fawr:
na allai neb ei rhifo,
O bob cenedl a’r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd:
yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen,
Wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, a phalmwydd yn eu dwylo:
Yr oeddent yn gweiddi â llais uchel,
“I’n Duw ni, sy’n eistedd ar yr orsedd,
ac i’r Oen: y perthyn y waredigaeth!”
Dyma’r rhai sy’n dod allan o’r gorthrymder mawr:
y maent wedi golchi eu mentyll a’u cannu yng ngwaed yr Oen.
Am hynny, y maent o flaen gorsedd Duw:
ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei deml,
A bydd yr hwn sy’n eistedd ar yr orsedd:
yn lloches iddynt.
Ni newynant mwy ac ni sychedant mwy:
ni ddaw ar eu gwarthaf na’r haul na dim gwres,
Oherwydd bydd yr Oen sydd yng nghanol yr orsedd:
yn eu bugeilio hwy,
Ac yn eu harwain i ffynhonnau dyfroedd bywyd:
a bydd Duw yn sychu pob deigryn o’u llygaid hwy.
I’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen:
y bo’r mawl a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r gallu byth bythoedd! Amen
9) Cân am yr Oen
Llawenhawn a gorfoleddwn:
a rhoddwn ogoniant a gwrogaeth i’n Duw.
Eiddo ein Duw ni y waredigaeth a’r gogoniant a’r gallu:
oherwydd gwir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef,
Molwch ein Duw ni, chwi ei holl weision ef:
a’r rhai sy’n ei ofni ef, yn fach a mawr.”
Y mae’r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog, wedi dechrau teyrnasu:
Llawenhawn a gorfoleddwn, a rhown iddo’r gogoniant,
Oherwydd daeth dydd priodas yr Oen:
ac ymbaratôdd ei briodferch ef.
Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd:
i wledd briodas yr Oen.
I’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen:
y bo’r mawl a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r gallu byth bythoedd! Amen
10) Can o’r Eiddo Sant Anselm
Casgla dy blant ynghyd, O Dduw:
fel y casgl iâr ei chywion i’w hamddiffyn.
Iesu, fel mam, ’rwyt yn casglu dy bobl atat,
’rwyt yn addfwyn â ni fel y mae mam wrth ei phlant.
’Rwyt yn wylo yn aml dros ein pechod a’n rhyfyg,
’rwyt yn ein gwared yn dyner rhag casineb a barn.
’Rwyt yn ein cysuro mewn galar ac yn rhwymo ein doluriau,
’rwyt yn gofalu amdanom yn ein gwaeledd ac yn ein porthi â llaeth pur.
Iesu, trwy dy angau cawn ein geni drachefn,
trwy dy loes a’th ludded deuwn ninnau i lawenydd.
Try anobaith yn obaith trwy dy ddaioni hael,
trwy dy addfwynder cawn gysur mwyn yn wyneb ofn.
Dy gynhesrwydd sy’n rhoi bywyd i’r meirw,
dy gyffyrddiad sy’n cyfiawnhau’r pechadurus.
Arglwydd Iesu, yn dy drugaredd,
iachâ ni, yn dy gariad a’th dynerwch trawsffurfia ni.
Yn dy dosturi dyro ras a maddeuant,
Bydded i’th gariad ein paratoi at hyfrydwch y nef.
Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab,
ac i’r Ysbryd Glân;
fel yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,
ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
XV. Detholiad o Emynau ac Anthemau i’w Defnyddio mewn Gwasanaethau Angladd a Gwasanaethau Coffa
Emynau
Mae’r emynau a nodwyd â * yn arbennig o addas yn angladd plentyn.
Fersiynau mydryddol o’r salmau yw’r emynau a nodwyd â + a gellir eu defnyddio yn lle’r salmau a ddarparwyd.
1) Am fod fy Iesu’n fyw. (John Thomas)
2) Am rif y saint y sydd o’u gwaeau’n rhydd. (W.Walsham How, cyf.T. Gwynn Jones)
3) Arglwydd gad im dawel orffwys. (Emrys)
4) Arglwydd Iesu, arwain f’enaid. (Morswyn)
5) Arglwydd pob gobaith, ac Arglwydd pob hoen. (Jan Struther, cyf. D.Eirwyn Morgan)
6) Braint, braint yw cael cymdeithas. (John Roberts ac eraill)
7) * Bydd canu yn y nefoedd. (Pedr Hir)
8) Canaf am yr addewidion. (WatcynWyn)
9) Craig yr oesoedd, cuddia fi. (A.M.Toplady, cyf. Alafon)
10) *Crist a orchfygodd fore’r trydydd dydd. (E.L.Budry, R.B.Hoyle, cyf. O.M.Lloyd)
11) Chwi bererinion glân. (William Williams)
12) *Daeth Iesu o’i gariad. (Watcyn Wyn)
13) Dal fi’n agos at yr Iesu. (E.Herber Evans)
14) Dechrau canu, dechrau canmol. (William Williams)
15) Deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad. (Anad., cyf. HarriWilliams)
16) Diolchwn oll i Dduw. (M.Rinkart, cyf. J.Henry Jones)
17) Draw, draw ymhell mae gwyrddlas fryn. (C.F.Alexander, cyf. Elfed)
18) *Duw fo yn fy mhen. (Horae BVM Sarum, cyf. R GlyndwrWilliams)
19) +Duw yw ein noddfa ni a’n nerth. (Salm 46, Gwynn ap Gwilym)
20) Er gwaetha’r maen a’r gwylwyr. (Morgan Rhys)
21) *+ F’enaid, mola Dduw’r gogoniant. (H.F.Lyte, cyf. G.Wynne Griffith)
22) Fe roed imi ddymuniadau. (WilliamWilliams)
23) Gobaith mawr y mae’r addewid. (John Jones)
24) Gwawr wedi hirnos, cân wedi loes. (J.D.Vernon Lewis)
25) Iesu, cyfaill f’enaid i. (C.Wesley, cyf. D.Tecwyn Evans)
26) Mae Eglwys Dduw fel dinas wych. (Benjamin Francis)
27) Mae ehangder yn ei dostur. (F.W.Faber, cyf.)
28) Mae ffrydiau ’ngorfoledd yn tarddu. (David Charles)
29) Mi dafla’ maich oddi ar fy ngwar. (WilliamWilliams)
30) Mi godaf f’egwan lef. (Ben Davies)
31) Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw. (Thomas Jones)
32) Mor beraidd i’r credadun gwan. (J.Newton, cyf. David Charles)
33) Myfi yw’r atgyfodiad mawr. (Ellis Wynne)
34) N’ad i’r gwyntoedd cryf dychrynllyd (William Williams)
35) Na foed cydweithwyr Duw. (Elfed)
36) Ni allodd angau du. (Gwilym ab Elis)
37) O am nerth i dreulio ’nyddiau. (WilliamWilliams)
38) O aros gyda mi, y mae’n hwyrhau. (H.F.Lyte, cyf. Lewis Edwards)
39) O ddedwydd awr tragwyddol orffwys. (Ann Griffiths)
40) O fy Iesu bendigedig. (Eben Fardd)
41) O gariad na’m gollyngi i. (G. Matheson, cyf. D.Tecwyn Evans)
42) O gorfoleddwn oll yn awr. (W.Rhys Nicholas)
43) O Iesu y ffordd ddigyfnewid. (W.Rhys Nicholas)
44) Os gwelir fi, bechadur. (amryw awduron)
45) Pan fwyf yn teimlo’n unig lawer awr. (John Roberts)
46) Pererin wyf mewn anial dir. (WilliamWilliams)
47) Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn. (Moelwyn)
48) Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano. (Elfed)
49) Tydi sy deilwng oll o’m cân. (David Charles)
50) Wel, f’enaid dos ymlaen. (WilliamWilliams)
51) Y dydd a roddaist, Ior, a giliodd. (J.Ellerton, cyf. R.D.Roberts)
52) Ynghanol nos, oleuni mwyn y nef. (J.H.Newman, cyf. E.Keri Evans)
53) Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau. (DafyddWilliam)
54) * +Yr Arglwydd yw fy mugail i. (Salm 23, Gwynn ap Gwilym)
55) Yr Iesu atgyfododd. (Thomas Levi)
Anthemau
- Am fod fy Iesu’n fyw. (Tom Price)
- Ave, verum corpus. (W.A.Mozart)
- Bwrw dy faich. (W.Matthews Williams)
- Cofia yn awr dy greawdwr. (J.Morgan Lloyd)
- Deuwch ataf fi. (John Lloyd)
- Duw, bydd drugarog. (Joseph Parry)
- Duw sydd berffaith ei ffordd. (Wilfrid Jones)
- Duw sydd noddfa. (OliveV.Williams)
- Dyrchafaf fy llygaid. (T.Hopkin Evans)
- Dysg i mi dy lwybrau. (D.W. Lewis)
- Eiddot ti, O Dduw, yw y mawredd. (James Kent)
- Eisteddai teithiwr blin. (D.Emlyn Evans)
- Fel y brefa yr hydd. (Lowell Mason)
- Fe welir Seion fel y wawr. (M.O.Jones)
- Gair ein Duw. (T.Hopkin Evans)
- Graslon a thrugarog. (Vera Henry)
- Gwyn eu byd y meirw. (David Evans)
- Na thralloder eich calon. (David Jenkins)
- O Brynwr mawr y byd. (John Goss)
- O Dduw gwirionedd glân. (J.S.Bach)
- O fy Arglwydd, O fy Mhrynwr. (W.A.Mozart)
- Pan lesmeirio fy nghalon. (W.B.Bradbury)
- Pebyll yr Arglwydd. (Joseph Parry)
- Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? (E.T.Davies)
- Pwy yw y rhai hyn?. (J.H.Roberts)
- Y cyfiawn a drig yn y nef. (W.Billings)
- Yr Arglwydd yw fy nghraig. (D.E.Parry-Williams)
- Yr Arglwydd yw fy mugail. (Caradog Roberts)