Trefn ar Gyfer Y Cymun Bendigaid 2004
Y mae awdurdodi’r Drefn ar gyfer y Cymun Bendigaid 2004 yn wasanaeth yn Llyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys yng Nghymru, a’i chyhoeddi yn y llyfr hwn, yn dwyn i ben broses hir a beichus o adolygu’r Cymun Bendigaid. Yr ydym ni, y bu a wnelom â’r gwaith, yn awr yn cyfl wyno ffrwyth ein llafur i’w ddefnyddio gan ein cyd-eglwyswyr. Ein gweddi yw y bydd y ffurf newydd a diffiniadol hon ar y Cymun Bendigaid yn foddion addas i faethu a chry!au pobl Crist ar y ddaear ac i roi gogoniant a moliant a diolch i’r un Duw tragwyddol, Tad, Mab ac Ysbryd Glân.
Y mae’r llyfr hwn yn cynnwys y testunau angenrheidiol ar gyfer gweinyddu’r Cymun Bendigaid yn ôl y drefn ddiffiniadol newydd. Er mwyn hwylustod, cynhwyswyd hefyd y Drefn ar gyfer y Cymun Bendigaid 1984 yng nghefn y llyfr.
+David Thomas
Cadeirydd, Pwyllgor Adolygu’r Cymun Bendigaid
An Order for The Holy Eucharist / Trefn ar Gyfer Y Cymun Bendigaid 2004 - Bilingual PDF
ref: 2336
Trosglwyddo:
Trefn ar Gyfer Y Cymun Bendigaid 2004 (PDF)
Trefn ar Gyfer Y Cymun Bendigaid 2004 (Word)
cyf: 1964
Cymun BendigaidY Pasg - Holy Communion Easter (Word)
cyf: 1646