Trefn ar gyfer Cymun Bendigaid heb fod yn Rhan o’r Ewcharist 2006
Cyfarwyddiadau ar gyfer Gwasanaeth y Cymun Bendigaid pan nad yw yn rhan o’r Ewcharist - Mawrth 2018
Bwriedir mai mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, a hynny dan gyfarwyddyd yr Esgob, y gellir defnyddio’r ‘Drefn ar gyfer Cymun Bendigaid heb fod yn rhan o’r Ewcharist.’
Gellir cael gwybodaeth am y protocol lleol gan Swyddfa’r Esgob.
Diben y ‘Drefn’ yw rhoi cyfle i bobl gyfranogi o’r Cymun Bendigaid pan nad oes offeiriad yn bresennol i lywyddu yn yr Ewcharist.
Ym mhob gwasanaeth o’r fath dylid arfer y ‘Drefn’ benodol a awdurdodwyd, sef ‘Trefn ar gyfer Cymun Bendigaid heb fod yn rhan o’r Ewcharist.’ (Gweler isod)
Rhaid i’r gweinidog fod yn ddiacon neu’n berson lleyg a awdurdodwyd gan yr esgob at y pwrpas.
Dylai Diaconiaid a Darllenwyr Lleyg ymwisgo yn null gweinidogion yr Eglwys yng Nghymru ond yn unol, hefyd, â thraddodiad yr eglwys leol. Gall gweinidogion lleyg eraill wisgo alb, neu gasog a gwenwisg, neu ddillad cyffredin addas.
Gall pobl leyg gymryd rhan drwy ddarllen llithiau ac arwain ymbiliau.
Gall Diacon neu Ddarllenydd Lleyg bregethu; neu unrhyw berson lleyg a chanddo awdurdod yr Esgob i bregethu.
Pryd bynnag fo’n bosibl dylid cludo’r bara a’r gwin cysegredig, mewn llestri a wnaed at y pwrpas, yn ddi-oed o weinyddiad yr Ewcharist i’r eglwys lle y maent i’w gweinyddu. Neu, gellir defnyddio bara a gwin cysegredig o’r Sagrafen Gadw.
Ni ddylid ar un cyfrif ddefnyddio bara a gwin heb eu cysegru. Ni ddylid dweud unrhyw ran o’r Weddi Ewcharistaidd o’r ‘Drefn ar Gyfer y Cymun Bendigaid.’
Rhoddir y bara a’r gwin cysegredig ar yr allor/ fwrdd y cymun cyn dechrau’r gwasanaeth mewn llestri addas sydd wedi eu neilltuo at y pwrpas hwnnw.
Dylai’r gweinidog arwain y gwasanaeth o’r ddesg neu’r ddarllenfa, ac ni ddylai symud at yr allor ond yn union cyn gweinyddu’r sacrament, gan symud yn ôl yn union wedyn.
Bydd y gweinidog yn bwyta ac yn yfed, yn ddefosiynol, unrhyw weddillion o’r elfennau cysegredig nad oes angen eu cadw ar gyfer Cymundeb.
+John Cambrensis +Andrew Bangor +Gregory Llanelwy +Richard Mynwy +Joanna Tyddewi +June Landav
Trosglwyddo:
- Trefn ar gyfer Cymun Bendigaid heb fod yn Rhan o’r Ewcharist (PDF)
- Trefn ar gyfer Cymun Bendigaid heb fod yn Rhan o’r Ewcharist (Word)
- Heb fod yn Rhan o’r Ewcharist - Outside The Eucharist ([C&S] PDF)
cyf: 1895