Gweddïau Brenhinol 2023
Cyfeiriadau at y Brenin Charles yn Litwrgïau’r Eglwys yng Nghymru
Nodyn esboniadol
Yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II mae’n rhaid gwneud newidiadau penodol i rai gweddïau brenhinol yn litwrgïau’r Eglwys yng Nghymru. Felly mae Mainc yr Esgobion yn cymeradwyo’r ffurfiau diwygiedig a restrir isod.
Dan delerau’r Bil i Awdurdodi a Rheoleiddio Mân Amrywiadau i Litwrgïau Awdurdodedig (2022), mae’r Fainc wedi nodi ei bod hi’n dderbyniol i gyfeirio at Ei Fawrhydi fel “Charles, y Brenin” yn lle “Charles, ein Brenin” pan yr ystyrir bod hynny’n briodol.
O ran y cyfieithiadau Cymraeg dylid nodi bod y Brenin wedi nodi ei ddymuniad i arfer ‘Charles’ yn hytrach na ‘Siarl’ ac felly dyna’r ffurf a arferir isod.
Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (1984)
1) Trefn gwasanaeth y Cymun Bendigaid a elwir hefyd yr Offeren
(Mae’r cyfeiriadau yn nodi rhif y tudalennau yn y gyfrol sy’n dwyn y teitl ‘Y Cymun Bendigaid / The Holy Eucharist’)
Yr Ymbiliad (ail ffurf, tudalen 10)
Erfyniwn arnat, O Arglwydd, gyfarwyddo â’th ddoethineb nefol y rhai hynny sy’n llywodraethu cenhedloedd y byd fel y Ilywodraethir dy bobl yn ffyddlon ac yn uniawn; bendithia dy was Charles ein Brenin, a phob un sy’n dwyn awdurdod dano.
2) Y Foreol a’r Hwyrol Weddi (Mae’r cyfeiriadau yn nodi rhif y tudalennau yn y gyfrol sy’n dwyn y teitl ‘Y Foreol a’r Hwyrol Weddi / Morning and Evening Prayer’)
Gwersiglau ac Atebion yn y Foreol a’r Hwyrol Weddi (tudalennau 399 a 408)
Arglwydd, cadw’r Brenin;
A rho i’w gynghorwyr ddoethineb.
Y Litani (Atodiad V, Adran II(b), tudalen 424)
Deisyfwn arnat ein gwrando, O Arglwydd Dduw; ac ar i ti gadw a nerthu dy was Charles ein Brenin i’th wasanaethu mewn iawnder a glendid buchedd.
Deisyfwn arnat ein gwrando, Arglwydd daionus.
3) Ymbiliau: Ymbiliad Cyffredinol (tudalen 430)
Erfyniwn arnat arwain a chyfarwyddo’r rhai oll sy’n llywodraethu cenhedloedd y byd, yn enwedig ein Goruchel Arglwydd, y Brenin Charles, a’r rhai a osodir mewn awdurdod arnom, fel y llywodraethir ni a phob dyn yn gyfiawn ac yn heddychol.
(Arglwydd yn dy drugaredd, Gwrando ein gweddi.)
4) Ymbiliau: y Wladwriaeth (tudalen 434)
13 DROS Y BRENIN A PHAWB MEWN AWDURDOD
Hollalluog Dduw, ffynnon pob daioni, deisyfwn yn ostyngedig arnat fendithio ein Goruchel Arglwydd, y Brenin Charles, a phawb sydd wedi eu gosod mewn awdurdod dano, iddynt drefnu pob peth mewn doethineb, cyfiawnder a heddwch, er anrhydedd i’th Enw sanctaidd a lles dy Eglwys a’th bobl; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
5) Ymbiliau: y Wladwriaeth (tudalen 435)
14 DROS Y BRENIN A’R TEULU BRENHINOL
Hollalluog Dduw, ffynnon pob daioni, deisyfwn yn ostyngedig arnat fendithio ein Goruchel Arglwydd, y Brenin Charles, y Frenhines Camilla, Tywysog a Thywysoges Cymru, a’r holl Deulu Brenhinol; cynysgaedda hwy â’th Ysbryd Glân, cyfoethoga hwy â’th nefol ras, llwydda hwy â phob dedwyddwch, a dwg hwy i’th deyrnas dragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
CYSYLLTIADAU:
TREFN AR GYFER Y CYMUN BENDIGAID (2004)
1) Atodiad iii: Ffurfiau eraill a awgrymir ar gyfer yr Ymbiliau (Ffurf 1, tudalen 101)
Dros Charles ein Brenin, dros arweinwyr y cenhedloedd a thros bawb sydd mewn awdurdod, gweddïwn ar yr Arglwydd:
Arglwydd, trugarha.
2) Atodiad iii: Ffurfiau eraill a awgrymir ar gyfer yr Ymbiliau (Ffurf 2, tudalen 105)
Bendithia ac arwain Charles ein Brenin; dyro ddoethineb i bawb mewn awdurdod; a chyfarwydda’r genedl hon a phob cenedl arall yn ffyrdd cyfiawnder a heddwch ... Boed inni anrhydeddu ein gilydd a cheisio lles pawb.
CYSYLLTIADAU:
GWEDDI DDYDDIOL (2009)
1) Cylch Ymbiliau (tudalen 218)
Dydd Gwener
Y Brenin
Aelodau Seneddol San Steffan ac Aelodau Senedd Cymru
Y lluoedd arfog
Heddwch a chyfiawnder
Y rhai sy’n gweithio dros gymod
Y rhai sy’n dioddef oherwydd rhyfel neu anghydfod sifil
Carcharorion, ffoaduriaid a phobl ddigartref
2) Litanïau byrion (1, tudalen 222)
Arglwydd, dyro ras i’r Brenin:
a thywys ei gynghorwyr mewn doethineb.
3) Litanïau byrion (6, tudalen 226)
Dros y gymuned hon, ein cenedl a’i llywodraeth a’r Brenin; dros bawb sy’n gweithio o blaid cyfiawnder, rhyddid a heddwch ...
4) Litanïau byrion (9, tudalen 230)
Gweddïwn dros Charles ein Brenin, a thros bawb sy’n gyfrifol am lywodraethu’r genedl hon a phob cenedl arall, fel y gall dy bobl lawenhau yn dy roddion o wir gyfiawnder a thangnefedd ...
5) Y Litani (adran II(b), tudalen 240)
Cadw a nertha dy was Charles ein Brenin,
fel y bo iddo ymddiried ynot
a cheisio dy anrhydedd a’th ogoniant.
Gwrando ni, Arglwydd daionus.
CYSYLLTIADAU:
AMSERAU A THYMHORAU (RHAN TRI) (2021)
Adran 3.3.3 Y Cofio Ffurfiau ar y Fendith
Rhodded Duw ei ras i’r byw
a gorffwys i’r ymadawedig;
i’r Eglwys, y Brenin,
y Gymanwlad, a’r holl ddynoliaeth
rhodded hedd a chytgord;
ac i ni a’i holl weision, fywyd tragwyddol,
a bendith …
CYSYLLTIADAU: