Gweddïau: Chweched Sul Y Garawys ~ Sul y Blodau
Iesu, Brenin y Bydysawd,
Wnest ti adael i'th hun gael dy watwar a'th goroni â drain.
Tyrd atom ni, a datgelu trwom ddirgelwch dy frenhiniaeth newydd o ostyngeiddrwydd
Boed i'th enw fod ynom ni byth bythoedd. Amen.
Duw cariad,
wrth i ni deithio i’r Groes,
cadw ein golwg ar Iesu.
Helpa ni i groesawu Iesu i'n bywydau bob dydd,
ac i weiddi hosanna gyda llawenydd wrth i ni
sylweddoli beth mae Iesu'n ei olygu i ni.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 53
Hollalluog a thragwyddol Dduw,
a anfonaist dy Fab ein Hiachawdwr Iesu Grist
o’th gariad tyner at yr hil ddynol
i gymryd ein cnawd
ac i ddioddef angau ar y groes,
caniatâ inni ddilyn esiampl
ei amynedd a’i ostyngeiddrwydd
a bod hefyd yn gyfrannog o’i atgyfodiad;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân.
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes