Gweddïau: Cyndeyrn (c603), Cenhadwr ac Esgob
14 Ionawr
Colect 147
Hollalluog a thragwyddol Dduw,
a elwaist Cyndeyrn dy was
i bregethu’r efengyl i bobl Prydain:
meithrin yn y wlad hon ac ym mhob man
genhadon ac efengylwyr dy deyrnas,
fel y gall dy Eglwys ddatgelu cyfoeth anfesuradwy dy Fab
ein Gwaredwr Iesu Grist,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.