Gweddïau: Manche Masemola (1928), Plentyn-ferthyr yn Ne Aff rica
4 Chwefror
Dduw tosturi,
y dymunodd dy wasanaethferch ffyddlon, Manche Massemola, gael ei bedyddio
ond a gurwyd ac a lofruddiwyd i’w hatal rhag arddel y ffydd a’i denodd,
gofynnwn iti ein bendithio â dewrder i lynu wrth yr hyn sy’n sanctaidd a gwir.
Dyro ynom le heddychol, llonydd y gallwn encilio iddo pan fydd y beichiau’n rhy drwm.
Yn fwyaf oll, Arglwydd, dyro inni dy ewyllys i ddatgan yr efengyl yn ddiofn,
i anrhydeddu’r rhai a fu farw am dy garu di
ac mewn ymateb i’r cariad a ddangosodd Iesu inni pan ddioddefodd angau ar y groes er ein prynedigaeth.
Drwyddo ef, yn undod yr Ysbryd Glân, yr offrymwn ein gweddi. Amen.
Colect 160
Dad nefol,
y bedyddiwyd dy ferch Manche [Masemola]
yn ei gwaed ei hun
yn ddisgybl i’th Fab ein Gwaredwr Iesu Grist:
dyro inni’r fath ymddiriedaeth ynddo ef
fel y bydd i’n bywydau adlewyrchu ei gariad di-ffael;
trwyddo ef sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.