Gweddïau: Morris Williams [‘Nicander’](1874), Offeiriad Cymreig a Bardd
3 Ionawr
Colect 143
Arglwydd nef a daear,
dy serch a’th gariad tuag atom
a ysbrydolodd dy was Nicander i foli rhyfeddod dy ras di-ball:
caniatâ i ninnau fod yn ff yddlon i’r cyfamod
a wnaethost â ni yn Iesu Grist ein Harglwydd,
i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
y byddo’r holl anrhydedd a’r gogoniant
yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes