Gweddïau: Cyffes Pedr, Apostol
18 Ionawr
Colect 149
Hollalluog Dduw
a ysbrydolaist dy apostol Pedr
i gyffesu Iesu yn Feseia
ac yn Fab y Duw byw;
adeilada dy Eglwys ar y graig hon,
fel y gall, mewn undod a heddwch,
gyhoeddi’r un gwirionedd
a dilyn yr un Arglwydd,
dy Fab a’n Gwaredwr Iesu Grist
sy’n fyw ac yn teyrnasu
gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.