Gweddïau: Thomas o Acwin (1274), Athro'r Ffydd
28 Ionawr
Colect 156
Dduw tragwyddol,
a gyfoethogaist dy Eglwys
trwy ddysg a sancteiddrwydd Thomas dy was:
dyro i bawb sydd yn dy geisio di
feddwl gostyngedig a chalon bur,
fel yr adnabyddont mai dy Fab Iesu Grist
yw'r Ffordd, y Gwirionedd a’r Bywyd;
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.