Gweddïau: Adfent Pedwar
Dduw cariadlon,
wrth inni feddwl am Fair yn dechrau ar ei thaith i Fethlehem,
diolchwn i ti am ei pharodrwydd i’th wasanaethu ac i fod yn fam i’th fab.
Cynorthwya ni i uno â hi gan dy fawrhau a llawenhau yn dy iachawdwriaeth.
Fel y nesawn at ddiwedd yr Adfent paratoa ni at lawenydd y Nadolig,
ac agor ein calonnau inni gael synnu eto at ryfeddod dyfodiad ein Harglwydd.
Helpa ni i wneud lle yn y paratoi funud-olaf ar gyfer y Nadolig
ac i greu llonyddwch i glywed eto’r angylion yn canu’r
newyddion da am eni ein Gwaredwr. Amen.
Goleuo’r Canhwyllau (Set I)
O Dduw tragwyddol,
wrth geisio disgleirdeb y wawr
ac ymestyniad y dydd
goleuwn gannwyll
i fywiogi’n calonnau a chynhesu’n bywydau rhewllyd
fel y bo iddo ef a wnaethpwyd yn gnawd yng nghroth Mair
ein cael yn awyddus i’w groesawu
ac yn barod i’w gofleidio ef sydd yn Oleuni’r byd,
oherwydd y mae ef yn Arglwydd byth bythoedd. Amen.
Goleuo’r Canhwyllau (Set II)
Brysia, Arglwydd Iesu,
a thyrd atom yn fuan:
llanw ein calonnau â pharchedig ofn
am dy ddyfodiad i’r byd.
Bydded i lawenydd Mair
lanw bywydau pawb ar y ddaear.
Amen. (neu Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu)
Duw yn y Nefoedd,
helpaist Mair a Joseff i ddeall
eu rôl yng ngenedigaeth a magwraeth Iesu.
Helpa ni i ymddiried ynot, bod yn ostyngedig,
a dilyn dy ewyllys drwy gydol ein bywydau.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw yn y Nefoedd,
cynorthwyaist Mair i ddeall taw hi oedd Mam ein Hiachawdwr.
Helpa ni i werthfawrogi’r gogoniant a'r rhyddid a ddaw i'n bywydau diolch i Iesu,
fel y gallwn fod yn barod i gyfarch Iesuâ llawenydd mawr pan ddaw eto.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 7
Dduw ein gwaredwr,
a roddaist y Forwyn Fair Fendigaid
i fod yn fam i’th Fab:
caniatâ, fel y bu iddi hi ddisgwyl ei ddyfodiad
yn iachawdwr arnom,
y bydd i ninnau fod yn barod i’w gyfarch
pan ddaw drachefn yn farnwr arnom:
yr hwn sy’n fyw ac yn teyrnasu
gyda thi a’r Ysbryd Glân
yn un Duw, yn awr ac am byth.