Gweddïau: Adfent Un
Arglwydd Dduw’r Adfent, Duw’r anturio mewn ffydd, sy’n hael ei rodd o Ras,
bendithia ac ysbrydola dy bobl wrth inni ddechrau teithio tuag at y Nadolig.
Fel y paratoaist dy bobl Israel at ddyfodiad y Meseia,
felly paratoa ein calonnau ni a chalonnau’r byd i’th dderbyn di,
ac ysgoga ni i garu ein gilydd a gwasanaethu pawb sydd mewn angen.
Gwneler dy ewyllys, a deled dy Deyrnas,
y dydd hwn ac am byth. Amen.
- Yr Esgob Gregory Cameron
Goleuo’r Canhwyllau (Set I)
O Dduw tragwyddol
wrth fod y tywyllwch yn ymdaenu ar draws ein henwlad
a’r gaeaf oer yn pwyso’n drwm ar ein bywydau
goleuwn gannwyll
i oleuo’r cysgodion
a chynhesu’n calonnau,
fel y bo iddo ef y soniodd y patriarchiaid amdano
ein cael yn effro i’w bresenoldeb
ac yn barod i’w groesawu ef sydd yn Oleuni’r byd,
oherwydd y mae ef yn Arglwydd byth bythoedd. Amen.
Goleuo’r canhwyllau (Set II)
Brysia, Arglwydd Iesu,
a thyrd atom yn fuan:
llanw ein calonnau â chyffro
am dy ddyfodiad i’r byd.
Bydded i’th hen addewidion
gyflawni gobeithion pawb ar y ddaear.
Amen. (neu Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu)
Duw yn y Nefoedd,
deffro ein calonnau i baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodiad Iesu.
Helpa ni i fod yn barod i’th wasanaethu bob amser,
hyd yn oed ar adeg annisgwyl.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw yn y Nefoedd,
deffro ein calonnau i baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodiad dy Fab.
Boed i'n bywydau gael eu cryfhau gan ras Iesu,
er mwyn i ni dy wasanaethu'n ffyddlon trwy gydol ein bywydau.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
- Yr Hybarch Robert Townsend
Colect 1
Hollalluog Dduw,
dyro inni ras i ymwrthod â gweithredoedd y tywyllwch
ac i wisgo arfau’r goleuni,
yn awr yn y bywyd marwol hwn
a brofwyd gan dy Fab Iesu Grist
pan ymwelodd â ni mewn gostyngeiddrwydd mawr;
fel y bo i ni yn y dydd diwethaf,
pan ddaw drachefn yn ei fawredd gogoneddus
i farnu’r byw a’r meirw,
gyfodi i’r bywyd anfarwol;
trwyddo ef sy’n fyw ac yn teyrnasu
gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Gweddi Ôl-Gymun 2
O Dduw ein gwaredwr, deffro ein calonnau
i baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodiad dy Fab;
fel, â meddyliau wedi eu puro gan ras ei ddyfodiad,
y bo i ni dy wasanaethu’n ff yddlon gydol ein dyddiau;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd.