Gweddïau: Adfent Tri
Drugarocaf Arglwydd,
ddyfroedd yr Iorddonen daeth galwad i ddarganfod trugaredd a gobaith;
enau gŵr tlawd a gweddigar daeth yr addewid am dy drugaredd a’th gariad helaeth.
Diolchwn am weinidogaeth Sant Ioan Fedyddiwr a elwaist i baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodiad dy annwyl Fab, Iesu.
Boed i alwad Ioan inni edifarhau a throi ein bywydau tuag at dy allu trawsnewidiol di ein galluogi ni i groesawu Crist y plentyn yn gynnes i’n calonnau y Nadolig hwn,
fel y glanheir ein heneidiau aflan â’i Ddŵr Bywiol Ef,
ac y gweddnewidir tlodi ein dynoliaeth gan Ei Ras llifeiriol;
Bendigedig ydwyt ti,
Arglwydd: Tad, Mab ac Ysbryd Glân. Amen.
Goleuo’r Canhwyllau (Set I)
O Dduw tragwyddol,
wrth fod y tywyllwch yn nesáu
a’r nos yn oedi’n hir
goleuwn gannwyll
i wasgaru tywyllwch ein calonnau
ac erlid ymaith gysgodion ein meddyliau
fel y bo iddo ef y soniodd Ioan Fedyddiwr amdano
ganfod llwybr disglair a chlir
a’n cael yn barod ac yn fodlon i’w groesawu ef sydd yn Oleuni’r byd,
oherwydd y mae ef yn Arglwydd byth bythoedd. Amen.
Goleuo’r Canhwyllau (Set II)
Brysia, Arglwydd Iesu,
a thyrd atom yn fuan:
llanw ein calonnau â llawenydd
am dy ddyfodiad i’r byd.
Bydded i neges Ioan Fedyddiwr
agor calonnau pawb ar y ddaear.
Amen. (neu Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu)
Duw yn y Nefoedd,
danfonaist Ioan Fedyddiwr i baratoi'r ffordd ar gyfer Iesu.
Helpa ni i baratoi'r ffordd ar gyfer Iesu heddiw,
fel y gallwn fod yn barod i gyfarch Iesu
â llawenydd mawr pan ddaw eto.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 5
O Arglwydd Iesu Grist,
a anfonaist dy genhadwr ar dy ddyfodiad cyntaf
i baratoi dy ffordd o’th flaen,
pâr i weinidogion a goruchwylwyr dy ddirgeleddau
yn yr un modd baratoi ac arloesi dy ffordd
trwy droi calonnau’r anufudd
i ddoethineb y cyfi awn,
fel, ar dy ail ddyfodiad i farnu’r byd,
y'n ceir ni’n bobl gymeradwy yn dy olwg di;
oherwydd yr wyt yn fyw ac yn teyrnasu gyda’r Tad
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.