Gweddïau: Adfent Dau
Dduw hollwybodol, bythol-gyfiawn, cymorth ni i ddweud y gwir wrth bŵer gan fod mor ddoeth â seirff ac mor addfwyn â cholomennod.
Gan ddilyn esiampl dy Fab, a gyflawnodd ei alwad i fod yn broffwyd i’r holl bobl ymhob cenedl, ymhob amser, drwy dywallt ei Hunan ar y groes,
boed inni wneud ein rhan i ddwyn y cread crwn i wybod am gariad Duw yng Nghrist Iesu, ein Harglwydd.
Dyro gariad at drugaredd i bob arweinydd, cyfiawnder i’r holl bobl, gostyngeiddrwydd a nodded i’r rhai a alwyd i herio sefyllfa,
unigol a chorfforaethol, lleol a byd-eang, lle bo anghyfiawnder a dialedd yn rhemp.
Boed i’n geiriau ni fod yn llawn o’th gariad,
gwirionedd a gras, yn enw’r Tad,
yn nerth yr Ysbryd ac mewn undod â Christ. Amen.
Goleuo’r Canhwyllau (Set I)
O Dduw tragwyddol,
wrth fod y dyddiau’n byrhau
a’r nosweithiau’n prysur gau i mewn
goleuwn gannwyll
i oleuo’n meddyliau
a chyffroi’n calonnau
fel y bo iddo ef y soniodd y proffwydi amdano
ein cael yn gwylio ac yn aros i’w groesawu ef sydd yn Oleuni’r byd,
oherwydd y mae ef yn Arglwydd byth bythoedd. Amen.
Goleuo’r Canhwyllau (Set II)
Brysia, Arglwydd Iesu,
a thyrd atom yn fuan:
llanw ein calonnau â moliant
am dy ddyfodiad i’r byd.
Bydded i neges y proffwydi
gyrraedd clustiau pawb ar y ddaear.
Amen. (neu Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu)
Duw yn y Nefoedd,
Wrth i Ioan Fedyddiwr unioni'r ffordd ar gyfer Iesu,
helpa ni i gyfeirio eraill at dy Fab trwy ein bywydau,
er mwyn i ni i gyd fod yn ddilynwyr
teilwng i'n Gwaredwr.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw yn y Nefoedd,
danfonaist Iesu i achub y byd.
Fel pobl yr Iesu heddiw,rho ras i ni yn ostyngedig yn yr un modd ag Iesu,
fel y gallwn fod yn barod i gyfarch Iesu â llawenydd mawr pan ddaw eto.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 3
Dad yn y nefoedd,
a ddanfonaist dy Fab i waredu’r byd
ac yr anfoni ef drachefn i fod yn farnwr arnom:
dyro inni ras i’w efelychu ef
yng ngostyngeiddrwydd a phurdeb
ei ddyfodiad cyntaf
fel, pan ddaw drachefn,
y byddwn yn barod i’w gyfarch
â chariad llawen ac â ffydd gadarn;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Gweddi Ôl-Gymun 4
Arglwydd,
bwydaist ni yma â maeth y bywyd;
trwy ein cyfranogi o’r sacrament sanctaidd hwn,
dysg ni i farnu’n ddoeth bethau daearol
ac i ddyheu am bethau nefol.
Gofynnwn hyn trwy Iesu Grist ein Harglwydd.