Gweddïau: Agnes (304), Plentyn-ferthyr
21 Ionawr
Colect 150
Dduw tragwyddol, Bugail dy ddefaid,
dy blentyn, Agnes, a nerthwyd i dystiolaethu
yn ei bywyd ac yn ei marwolaeth
i wir gariad ei Gwaredwr:
caniatâ i ninnau y gallu i amgyff red, ynghyd â’r holl saint,
beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist,
a gwybod am y cariad hwnnw sydd uwchlaw gwybodaeth;
sef Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes