Gweddïau: Andreas, Apostol
a Nawddsant yr Alban
30 Tachwedd
Colect 315
Hollalluog Dduw
a roddaist y fath ras i’th apostol Andreas
fel yr ufuddhaodd yn ddi-oed i alwad dy Fab Iesu Grist,
gan ddod â’i frawd gydag ef:
galw ni â’th Air sanctaidd
a dyro i ni ras i ddilyn heb oedi
ac i gyhoeddi newyddion da dy deyrnas;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes