Gweddïau: Antwn o'r Aiff t (356), Meudwy ac Abad
17 Ionawr
Colect 148
Dduw graslonaf,
a elwaist dy was Antwn i werthu popeth a feddai
a’th wasanaethu di yn unigedd yr anialwch:
trwy ei esiampl bydded i ninnau ddysgu hunan-ddisgyblaeth
a’th garu di uwchlaw pob peth;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.