Gweddïau: Unrhyw bryd yn ystod y Nadolig
Deunydd Ychwanegol i’w ddefnyddio trwy gydol Tymor y Nadolig
Gellir defnyddio’r gweddïau hyn ar gyfer defosiwn preifat neu gyhoeddus trwy gydol Tymor y Nadolig:
Hollalluog Dduw,
ganed dy Fab Iesu yn nhref Dafydd.
Ef yw’r Meseia a addawyd
sydd wedi dod i’r byd i ddwyn undod i’r holl greadigaeth
a chasglu’r holl ddynoliaeth i’th deyrnas o oleuni a thangnefedd.
Wrth i ni addoli gyda bugeiliaid tlawd,
adleisia cân yr angylion yn ein clustiau,
gan lenwi ein calonnau ag emynau o fawl.
Bydded i’n gweddi am dangnefedd ddwyn ffrwyth ym mywydau’r holl bobl
fel y bo’r byd cyfan yn atseinio dy gariad.
Gweddïwn hyn drwy yr un Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gogoniant i ti Arglwydd Dduw,
hollalluog Dduw a Thad,
rhoddwn ddiolch a moliant i ti am dy ogoniant
a llawenychwn yng ngenedigaeth dy Fab ymgnawdoledig.
Yn gorwedd mewn preseb mae’n cynnal y byd â’i gariad
ac yn ein porthi ni wrth roi ohono’i hun,
oherwydd ef yw Bara’r Bywyd, a ddaeth i lawr o’r nefoedd
i fyw ymhlith ei bobl.
Agor ein calonnau i’w adnabod yn ein bywydau
ac anfon ni allan i rannu’r newyddion da
am yr iachawdwriaeth y mae ef yn ei chynnig.
Gofynnwn hyn drwy’r un Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Arglwydd Dduw,
yr wyt yn bendithio’r byd drwy roi dy Fab
sy’n llenwi popeth â goleuni a bywyd.
Wrth i ni lawenhau yn nirgelwch ei enedigaeth,
bydded i gân yr angylion ac addoliad y bugeiliaid,
ymgeledd Mair ac ymroddiad Joseff,
ddyfnhau cariad y Gwaredwr oddi mewn i ni
a’n cynorthwyo i ddirnad ei bresenoldeb yn ein bywydau,
oherwydd y mae ef yn Arglwydd yn oes oesoedd. Amen.
O Dduw a Thad Hollalluog,
llenwir tref Dafydd, y bugail-frenin isel-radd,
ag addewidion am enedigaeth y Meseia,
ac eto nid oes le yn y llety i’n Gwaredwr.
Pan fo llef yr un bach yn torri ar ddistawrwydd y nos dywyll,
y mae disgleirdeb ein Duw yn gwawrio ar draws y ddaear
gan lenwi’r negesyddion nefol â chaniadau llawen
wrth iddynt ddwyn newyddion o dangnefedd i fugeiliaid sy’n gwylio yn y nos.
Gan frysio o’u cartrefi yn y bryniau, gwelant eu Gwaredwr yn gorwedd ar wely o wellt
a thraethant mewn ffyrdd anhygoel am yr addewidion a gyflawnwyd.
Bydded i lawenydd a thangnefedd genedigaeth Iesu
oleuo’r tywyllwch sy’n bygwth y ddaear
a chasglu’r hen a’r ifanc ynghyd i ryfeddu at ddirgelwch ein Duw Ymgnawdoledig.
Bydded i’n cartref gael ei lenwi â phresenoldeb Iesu
gan ddarparu croeso twymgalon i’r un sy’n Frenin ac yn Fugail inni oll,
dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda’r Ysbryd Glân,
un Duw yn oes oesoedd. Amen.
Gweddi Ôl-Gymun
O Dduw ein Tad,
yn gyforiog o ryfeddod a pharchedig ofn
buom yn gwledda wrth fwrdd dy Fab.
Ar ei enedigaeth ym Methlehem, fe’i osodwyd mewn cafn bwydo,
ond eto ef sy’n bwydo’r byd drwy roi ohono ef ei hun.
Bydded i’r rhoddion a dderbyniwyd gennym wrth ei fwrdd
ein nerthu a’n cynnal
fel, wedi’n llenwi â’r newyddion da am iachawdwriaeth a thangnefedd i’r holl ddaear,
y byddwn yn cyhoeddi ei bresenoldeb i’r holl ddynolryw
trwy fywydau a nodweddir gan sancteiddrwydd a chariad.
Gofynnwn hyn drwy Grist ein Harglwydd. Amen.
O Dduw ein Tad,
moliannwn di am bopeth a welsom ac a glywsom,
am bopeth a gawsom wrth fwrdd dy Fab.
Cryfha ni i rannu’r newydd da am ei enedigaeth
ac i lawenhau yn y gras sy’n ein gwneud yn gyd-etifeddion ag ef
fel y cawn edrych ymlaen mewn ffydd at gyflawnder y bywyd tragwyddol;
trwy yr un Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Hollalluog Dduw,
gwawriodd y goleuni sy’n llewyrchu yn y tywyllwch ar ein bywydau,
gan wasgaru cysgodion y nos
a’n llenwi ni â’i ras a’i wirionedd.
Bydded i ni, sy’n gorfoleddu yn y Gair a ddaeth yn gnawd
ac sydd wedi ei groesawu i’n plith,
gyhoeddi newyddion da, bod yn negeswyr tangnefedd, a dwyn hapusrwydd i eraill.
Codwn ein lleisiau gyda’n gilydd a bloeddiwn yn llawen,
oherwydd yr ydym wedi gweld ein Brenin sy’n cysuro ei bobl
ac sy’n dwyn iachawdwriaeth i’r holl ddynolryw.
Trwy yr un Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Amserau a Thymhorau: Adfent i Gyflwyniad Crist