Gweddïau: Dydd Mercher Y Lludw
Duw Cariad,
Wrth i ni ddechrau ar ein taith flynyddol i Jerwsalem,
Cadw ein golwg ar Iesu.
Helpa ni i ddefnyddio’r daith hon i ddyfnhau ein ffydd,
datblygu ein doniau
a dechrau casglu trysorau yn y nef.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 39
Hollalluog a thragwyddol Dduw,
nad wyt yn casáu un dim a wnaethost
ac wyt yn maddau pechodau
pawb sy’n edifeiriol,
crea a gwna ynom
galonnau newydd a drylliedig
fel y bo i ni, gan ofi dio’n ddyledus am ein pechodau
a chyfaddef ein trueni,
gael gennyt ti, Dduw’r holl drugaredd,
faddeuant a gollyngdod llawn;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.