Gweddïau: Ffraid (6ed ganrif), Abades
1 Chwefror
Colect 157
Dduw hollalluog,
a enynnaist yng nghalon Ffraid
fflam fywiol dy gariad:
cynnau farwor oer ein calonnau ninnau
ac arwain ni at ffynhonnau’r bywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
y byddo’r anrhydedd a’r gogoniant
yn awr ac am byth.