Gweddïau: Undeb Cristnogol
Mae'r wythnos weddi am Undeb Cristnogol: 18-25 Ionawr
Dduw cariadlon a Thad pawb oll, yn agos a phell,
gofynnwn iti faddau inni ein rhagfarnau yn erbyn y rhai y tybiwn eu bod yn wahanol i ni.
Cynorthwya ni i ddirnad dy bresenoldeb yn ein brodyr a’n chwiorydd yng Nghrist,
gan weld eraill yn gymdeithion ar ein taith gyda’n gilydd yn ddisgyblion i Iesu, ein cyfaill atgyfodedig.
Wrth inni hoelio ein llygaid arnat Ti, helpa ni i wneud amser i wrando ar Dy lais a chael y dewrder i ddilyn lle’r arweini Di.
Boed inni dynnu’n nes atat Ti ac at ein gilydd.
Cyfeiria ni yn Dy wasanaeth, i garu a gofalu am y rhai sydd yn ein cartrefi a’n cymuned
ac i weddïo dros y rhai sy’n byw gyda chanlyniadau poenus rhyfel a chynnen.
Gofynnwn hyn drwy haeddiannau ein Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist. Amen.
Duw'r bydysawd,
Gweddïodd Iesu i ni, fel dy bobl, fod yn un.
Helpa ni i weithio'n well ac yn nes
gyda phob un o'n Cyd-gristnogion,
er mwyn i ni ddod â
geiriau’r Iesu'n fyw.
Dyma’n gweddi yn
nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 349
Dad nefol,
fe’n gelwaist ynghyd yng Nghorff dy Fab Iesu Grist
i barhau ei waith o gymodi
ac i’th ddatguddio i’r byd:
maddau’r pechodau hynny
sydd yn ein gwahanu oddi wrth ein gilydd,
a dyro i ni’r dewrder i orchfygu ein hofnau
fel y ceisiwn yr undod hwnnw
sef dy rodd a’th ewyllys di;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.