Gweddïau: Dydd Nadolig
Dad Nefol, diolchwn i ti am y Dydd Nadolig hwn.
Wrth inni ddathlu’r Goleuni yn dod i’r byd,
boed inni wneud lle yn ein bywyd prysur i roi heibio’r tinsel a’r twrci,
a llawenhau yn y mwyaf gwerthfawr o roddion – dyfod y Baban Iesu i Fethlehem.
Fel y darllenwn eiriau’r proffwydi ac adrodd hanesion Mair a Joseff,
y bugeiliaid, yr angylion a’r doethion
boed inni fynd nôl i’r amser a’r lle
a chroesawu Gwaredwr y byd, gan ddisgwyl a gobeithio am ei holl ddoniau.
Helpa ni i rannu’r dydd gorfoleddus hwn ag eraill,
a bod yn agos at y rhai sy’n cael yr amser hwn yn anodd
fel y gallwn gydio beunydd yn dy gariad diderfyn,
sy’n rhoi inni obaith ac sy’n ailgyfnerthu ein ffydd. Amen.
- Siân Sweeting-Jones, Cynorthwy-ydd Gweithredol yr Esgob Gregory Cameron
Goleuo’r Canhwyllau (Set I)
O Dduw tragwyddol,
wrth groesawu genedigaeth Crist â llawenydd
goleuwn gannwyll
i daflu llewyrch ar ein calonnau
a mynegi bod ein llawenydd yn gorlifo
fel y bo iddo ef a anwyd o Fair ar y dydd hwn,
ein cael ni wedi dod ynghyd i’w groesawu
ac yn barod i’w wasanaethu ef sydd yn Oleuni’r byd,
oherwydd y mae ef yn Arglwydd byth bythoedd. Amen.
Goleuo’r Canhwyllau (Set II)
Arglwydd Iesu,
Fe’th aned i’r byd hwn
a chroesawn di i’n calonnau.
Bydded i oleuni dy gariad
ddod â thangnefedd disglair a llawenydd gloyw
i bawb ar y ddaear,
oherwydd yr wyt ti yn Arglwydd. Amen.
Duw’r bydysawd,
ymunwn â'r angylion a'r bugeiliaid
wrth roi diolch a chlod i ti am enedigaeth Iesu.
Yng nghanol ein llawenydd cofiwn am y rhai sy’n treulio’rNadolig heb eu hanwyliaid,
y rhai mewn naws o dristwcha phoen, y digartef a’r unig.
Cofleidia hwy â’th Ysbryd cariadus. Amen.
- Yr Hybarch Robert Townsend
Colect 11
Yn y Dydd
Hollalluog Dduw,
rhoddaist i ni dy uniganedig Fab
i gymryd ein natur ni
a’i eni ar gyfenw i’r amser yma o forwyn bur:
caniatâ i ni, sydd wedi ein geni drachefn
a’n gwneud yn blant i ti trwy fabwysiad a gras,
gael ein hadnewyddu’n feunyddiol
trwy dy Ysbryd Glân;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Yn y Nos
Dduw tragwyddol,
a wnaethost i’r noson gysegredig hon
lewyrchu â disgleirdeb
dy unig wir oleuni:
dwg ni, sydd wedi adnabod datguddiad
y goleuni hwnnw ar y ddaear,
i weld llewyrch dy ogoniant nefol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Gweddi Ôl-Gymun 12
Yn y Dydd
Dduw ein Tad,
daeth dy Air i’n plith
ym Mhlentyn Sanctaidd Bethlehem:
bydded i oleuni ffydd oleuo ein calonnau
a disgleirio yn ein geiriau a’n gweithredoedd;
trwyddo ef sy’n Grist yr Arglwydd.
Yn y Nos
Dduw ein Tad,
y noson hon amlygaist inni drachefn
ddyfodiad Iesu Grist ein Harglwydd;
cadarnhâ ein ffydd a hoelia ein llygaid arno ef
nes y gwawria’r dydd
ac y cyfoda Crist, Seren y Bore yn ein calonnau.
Iddo ef y bo’r gogoniant, yn awr ac am byth.