Gweddïau: Nadolig Un
Yn nhymor y rhoddion diolchwn am bopeth a gawsom:
am fywyd, am ein teuluoedd a’r rhai a’n hysbrydolodd a’n cefnogi ar hyd y ffordd.
Diolchwn am brydferthwch y byd o’n cwmpas, am gerddoriaeth, barddoniaeth a chelfyddyd;
am gyfeillgarwch, caredigrwydd a thynerwch.
Diolchwn o galon am yr amser Nadolig hwn ac am bopeth a gyffyrddodd â’n calonnau.
Yn fwayf oll, O Arglwydd ein Duw, diolchwn am dy ddyfod di i rannu ein bywyd;
am ddangos ffordd newydd o fyw a’n cynnal drwy amserau blin.
Cerdda gyda ni i mewn i’r flwyddyn newydd.
Tywys a diogela bawb a garwn,
a chynorthwya ni i ymateb i’r amrywiol alwadau a ddaw oddi wrthyt ti yn (2025). Amen.
Colect 13
Hollalluog Dduw,
a’n creaist yn rhyfeddol ar dy ddelw dy hun,
a’n hadfer yn fwy rhyfeddol byth
trwy dy Fab Iesu Grist:
caniatâ, fel y daeth ef i gyfranogi o’n dynoliaeth,
i ninnau rannu bywyd ei ddwyfoldeb;
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes