Gweddïau: Nadolig Dau
Dad Nefol,
fel y nesawn at yr Ystwyll,
boed inni ailedrych ar ein perthynas â thi:
Na fydded inni fod fel Herod yn gwrthwynebu’n llwyr;
Na fydded inni fod fel Athrawon y gyfraith yn oeraidd o ddifater;
Ond byddwn fel y Doethion, a’n perthynas yn un o addoliad llwyr.
Gweddïwn rhag inni roi ein hail-orau
ond, yn hytrach, roi’r gorau sydd gennym.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu. Amen.
Colect 15
Hollalluog Dduw,
yng ngenedigaeth dy Fab
tywelltaist arnom
oleuni newydd dy Air ymgnawdoledig,
gan ddangos i ni gyfl awnder dy gariad:
cynorthwya ni i rodio yn ei oleuni a byw yn ei gariad
fel y bo i ni brofi llawnder ei lawenydd ef;
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Gweddi Ôl-Gymun 16
Pob moliant i ti,
hollalluog Dduw a Brenin nefol,
a anfonaist dy Fab i’r byd
i gymryd ein natur ni a’i eni o forwyn bur:
caniatâ, wrth i ni gael ein geni drachefn ynddo ef,
iddo drigo am byth ynom ni
a theyrnasu ar y ddaear
fel y teyrnasa yn y nefoedd
gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn awr ac am byth.