Gweddïau: Cyril (869), Mynach a Methodius (885), Esgob
14 Chwefror
Dduw dyfeisgar,
a ysbrydolodd Cyril a Methodius i lunio’r wyddor Slafonig er mwyn cyfieithu testunau litwrgaidd i ieithoedd Slafonig,
diolchwn i ti am greadigrwydd ysgrifenwyr a chyfieithwyr,
a chlodforwn di am angerdd ac ymrwymiad y rhai sy’n llafurio i ddwyn addoliad i bobl yn eu hiaith frodorol.
Gweddïwn dros siaradwyr a dysgwyr Cymraeg a ysbrydolwyd i barhau addewid y Pentecost,
y caiff Duw lefaru â phawb yn iaith eu calon,
drwy Iesu Grist ein Harglwydd, dy Air a wnaed yn gnawd. Amen.
Colect 162
Dduw a Thad pawb oll,
a roddaist i’th weision Cyril a Methodius
y fath ddawn gydag ieithoedd
fel y gallent gyhoeddi’r Efengyl i’r bobl Slafonig:
caniatâ i bawb sy’n proff esu enw Crist
anrhydeddu ei gilydd
ac o’r dwyrain a’r gorllewin uno i gyhoeddi
un Arglwydd, un ff ydd, un bedydd;
trwy’r un Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu
gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.