Gweddïau: Dewi (6ed ganrif), Esgob Tyddewi a Nawddsant Cymru
1 Mawrth
Duw cariad,
heddiw derbyniwn dy lawenydd wrth gofio
bywyd a sancteiddrwydd Dewi Sant.
Diolch i'w esiampl daeth nerth dy gariad
â daioni i'n gwlad.
Wrth i Ddewi ddilyn Iesu ym mhopeth a wnaeth,
helpa ni i'w efelychu bob dydd.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw yn y nefoedd,
Rhoddaist Dewi i bobl Cymru
i’n harwain yn ein ffydd:
Wedi ein hannog gan esiampl Dewi
ac wrth ddilyn dy Ysbryd Glân,
bydded i ni gyhoeddi dy
ogoniant a’th haelioni yn llawen.
Dyma’n gweddi yn enw Iesu. Amen.
Colect 168
Dduw ein Tad,
rhoddaist Dewi Sant i bobl Cymru,
i gynnal y ffydd.
Wedi ein hannog gan ei esiampl,
bydded i ni lynu’n llawen wrth y pethau
sy’n arwain at fywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
y byddo’r holl anrhydedd a gogoniant,
yn awr ac am byth.