Gweddïau: Dydd Y Pasg
Aleliwia!
Gogoniant i ti, Duw'r Bydysawd.
Mae'r cyfan wedi'i gyflawni trwy farwolaeth
ac atgyfodiad dy Fab;
mae'r diwrnod hwn wedi coroni gwaith dy greadigaeth.
Rho inni'r gras i osod ein hunain yn dy ddwylo,
tan y diwrnod hwnnw pan fyddi di'n mynd â ni i
mewn i'th Deyrnas hefo Iesu a'r Ysbryd Glân. Amen.
Duw cariad,
wrth i ni ddod at y bedd gwag,
diolchwn i ti am atgyfodiad gogoneddus yr Iesu.
Helpa ni i beidio â bod yn swil wrth
ddweud wrth eraill am fywyd newydd yr Iesu,
beth mae'n ei olygu i ni a'r llawenydd mae'n ei roi.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Haleliwia. Amen.
Colect 60
Arglwydd pob bywyd a nerth,
gorchfygaist hen drefn pechod a marwolaeth
drwy atgyfodiad nerthol dy Fab
er mwyn gwneud pob peth yn newydd ynddo ef:
caniatâ i ni, sy’n farw i bechod,
ac yn fyw i ti yn Iesu Grist,
deyrnasu gydag ef mewn gogoniant;
bydded iddo gyda thi a’r Ysbryd Glân
glod a moliant, gogoniant a gallu,
yn awr ac yn dragwyddol.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes