Gweddïau: Noswyl Y Pasg
Duw'r Bydysawd,
wrth i Iesu orffwys yn y bedd,
ar ôl iddo orffen y gwaith gofynnaist iddo gyflawni,
Helpa ni i gyhoeddi bod bywyd newydd yn ffynnuac yn gorlifo trwy Iesu.
Boed i'r holl bobl roi diolch i ti ym mhedwar ban y byd.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw cariad,
wrth i ni agosáu at fedd yr Iesu,
helpa ni i fod yn bobl amyneddgar,
sy’n bob amser yn barod
i droi tristwch i lawenydd.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 59
Caniatâ, O Arglwydd,
i ni a fedyddiwyd i farwolaeth
dy Fab ein Hiachawdwr Iesu Grist,
farwhau’n wastad
ein dymuniadau llygredig,
a chael ein claddu gydag ef;
a, thrwy’r bedd a phorth angau,
yr awn rhagom i’n hatgyfodiad llawen;
trwy ei haeddiannau ef, a fu farw, ac a gladdwyd,
ac a gyfododd drachefn er ein mwyn,
dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes